Carcharu swyddog gyda Heddlu'r De am ladrata
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog gyda Heddlu De Cymru wedi cael ei garcharu am ddwyn sêff yr oedd o'n credu oedd yn cynnwys £60,000.
Roedd y Sarjant Ben Cooke, 34 o Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, wedi ceisio dwyn o dŷ arall hefyd ac wedi defnyddio cyfrifiadur yr heddlu i gynllunio ei droseddau ym mis Ionawr a Chwefror 2024.
Plediodd yn euog i gyhuddiadau o ladrata, dwyn, ceisio lladrata, cael mynediad heb ei awdurdodi i ddata ar gyfrifiadur yr heddlu er mwyn cyflawni trosedd a chamddefnyddio'i swydd fel heddwas.
Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd a phedwar mis o garchar.
Clywodd y llys nad yw'r sêff ac eitemau personol eraill a gafodd eu dwyn wedi eu darganfod.
Roedd Cooke wedi edrych ar gyfrifiadur yr heddlu ac wedi gweld bod ei gydweithwyr yn credu bod gan rywun £60,000 mewn sêff yn eu cartref.
Fe aeth i'r tŷ yn ei wisg plismon tra'r oedd y perchennog, Joanne Watkins yn y gawod.
Roedd wedi honni wrthi bod ganddo warant i archwilio'r tŷ am droseddau cyffuriau honedig, ond fe wrthododd ddangos y warant i Ms Watkins, gan ddweud wrthi am eistedd ar y soffa.
Cafodd Cooke hefyd ei anfon i ddigwyddiad lle'r oedd swyddogion wedi dod o hyd i £16,000 yn dilyn marwolaeth sydyn.
Pan aeth Cooke â'r arian i gartref chwaer y dyn fu farw, fe wnaeth o ddwyn yr allwedd o'i drws.
Pedwar diwrnod yn ddiweddarach cafodd ei weld ar gamera cylch cyfyng ger ei chartref ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe geisiodd fynd i'r tŷ, ond fe fethodd.
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2024
Wrth ddedfrydu Cooke, dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei fod wedi gwneud "ymdrechion pwrpasol" i gyflawni troseddau fyddai'n "niweidiol i Heddlu'r De ac i'r heddlu yn gyffredinol".
Ychwanegodd bod hyn wedi cael effaith ddinistriol ar enw da Cooke, oedd wedi gweithio i'r heddlu am 10 mlynedd.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan bod Cooke "wedi gadael ei hun a'r heddlu i lawr ac wedi difetha unrhyw hyder oedd gan gymunedau de Cymru ynddo fel swyddog heddlu".
Ychwanegodd ei fod wedi anfon llythyr personol at y dioddefwr gan ymddiheuro'n fawr am yr hyn ddigwyddodd.