Ai'r bocsiwr Freddie Welsh a ysbrydolodd The Great Gatsby?

Freddie WelshFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Freddie Welsh

  • Cyhoeddwyd

Bron i ganrif ers cyhoeddi’r nofel The Great Gatsby mae yna awgrym mai'r pencampwr bocsio o Gymru, Freddie Welsh, oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r prif gymeriad, Jay Gatsby.

The Great Gatsby

Cyhoeddwyd The Great Gatsby gan F. Scott Fitzgerald yn 1925. Bellach yn cael ei hystyried fel un o nofelau bwysicaf yr ugeinfed ganrif, mae’r stori'n trafod themâu fel y freuddwyd Americanaidd, cyfoeth, dosbarthiadau cymdeithasol a chariad.

Mae’r stori yn dilyn ymgais y miliwnydd Jay Gatsby i ad-ennill cyn-gariad drwy greu delwedd newydd i’w hun fel aelod o ddosbarth cymdeithasol elît America yn yr 1920au.

Daw i’r amlwg yn ystod y nofel bod Gatsby wedi ei fagu mewn tlodi a’i fod wedi newid ei enw o James Gatz. Er fod ei bartïon disglair yn paentio delwedd barchus, fe ddysgwn bod ei gyfoeth yn seiliedig ar werthu alcohol oedd yn anghyfreithlon yng nghyfnod Prohibition.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

The Great Gatsby oedd trydedd nofel F. Scott Fitzgerald, ac er iddi gael ymateb llugoer pan gafodd ei chyhoeddi gyntaf, mae bellach yn cael ei hystyried yn un o nofelau mwyaf llenyddiaeth America

Pwy oedd y Gatsby Gwreiddiol?

Mae’r mwyafrif o wybodusion o’r farn mai’r ysbrydoliaeth pennaf am gymeriad Gatsby oedd y miliwnydd Max Gerlach.

Roedd Gerlach yn gymydog i Fitzgerald ac yn enwog am fyw bywyd moethus a llachar. Roedd yn hoff o gynnal partïon crand, byth yn gwisgo’r un crys ddwywaith ac yn honni iddo gael addysg ym mhrifysgol Rhydychen.

Fel Gatsby daeth ei gyfoeth ef o ganlyniad i werthu alcohol anghyfreithlon.

Ond mae’r hanesydd a’r cyfarwyddwr ffilmiau dogfen o Ddulyn, Andrew Gallimore, yn cynnig theori wahanol. Yn ei farn e mae yna dystiolaeth gryf bod Gatsby yn seiliedig ar fywyd y pencampwr bocsio o Gymru, Freddie Welsh:

“(Yn Gatsby) roedd Fitzgerald yn ceisio creu cymeriad oedd yn mabwysiadu’r ddelwedd ‘ma i fyw The American Dream. A dyma stori Freddie Welsh.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jay Gatsby wedi cael ei bortreadu gan nifer o actorion dros y blynyddoedd, ar sgrin a llwyfan, gan gynnwys Leonardo DiCaprio yn 2013 - ond pwy oedd yr ysbrydoliaeth gwreiddiol tu ôl i'r cymeriad cymhleth?

Freddie Welsh

Ganwyd Frederick Hall Thomas ym Mhontypridd yn 1886. Yn 18 oed fe gododd ei bac a symud i America, i chwilio am gyfoeth ac antur. Pan drodd yn focsiwr proffesiynol fe newidiodd ei enw, gyntaf i Freddie Cymry, cyn setlo ar Freddie Welsh.

Cafodd yrfa hynod o lewyrchus ar ddwy ochr yr Iwerydd ac mae e bellach yn cael ei ystyried fel un o’r goreuon yn hanes y gamp.

Ffynhonnell y llun, ©Amgueddfa Pontypridd Museum
Disgrifiad o’r llun,

Freddie Welsh ar ei ffordd i America yn 1910

Ond ei fywyd y tu allan i’r sgwâr a ddenodd sylw F. Scott Fitzgerald.

Fe ymddeolodd yn ddyn cyfoethog gan adnewyddu fferm yn nhalaith New Jersey, gan greu, i bob pwrpas, canolfan hamdden gyda champfa, pwll nofio a chasgliad o gyfleusterau chwaraeon modern.

Mae adroddiadau bod yna bartïon mawr wedi eu cynnal yno yn ystod cyfnod Prohibition a does dim amheuaeth bod Fitzgerald wedi ymweld ar sawl achlysur gyda sôn hefyd bod y ddau wedi paffio yn erbyn ei gilydd mewn sesiwn ymarfer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gornest rhwng y ddau Gymro, Freddie Welsh a Jim Driscoll yng Nghaerdydd yn 1910 - cafodd Driscoll ei wahardd am benio Welsh yn y trydydd rownd

Tystiolaeth?

Daeth Andrew Gallimore ar draws y stori yn wreiddiol wrth dreulio amser yn nhŷ merch Freddie Welsh ac mae e’n grediniol bod yna gymariaethau amlwg yn straeon Welsh a Gatsby.

Mae nifer yn amlwg: newid eu henwau, creu bywyd a delwedd newydd ymhlith yr elît a chynnal partïon mawreddog.

Ond mae mwy...

Mae Gallimore yn nodi dylanwad y gangster Americanaidd Arnold Rothstein, a ariannodd nifer o ornestau Welsh. Mae’r mwyafrif o academyddion yn gytûn mai Rothstein yw’r prif ddylanwad ar y gangster sydd yn y nofel, Meyer Wolfsheim.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gangster Arnold Rothstein ei lofruddio yn 1928, yn ôl y sôn oherwydd dyled gamblo enfawr

Cafodd Welsh ddamwain car yn 1924 a’r unig berson a anafwyd yn y ddamwain oedd menyw o’r enw Myrtle Wilson. Mae yna gymeriad yn The Great Gatsby o’r enw Myrtle Wilson, sy’n cael ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gar.

“O’n i’n meddwl, dyw e ddim yn enw cyffredin iawn,” meddai Andrew Gallimore, “felly es i nôl i’r llyfrgell yn Efrog Newydd i fynd trwy’r records o sawl Myrtle Wilson oedd yn byw yn Efrog Newydd neu New Jersey yn y cyfnod, a methes i ffeindio neb arall.”

Mae Gallimore yn argyhoeddedig bod damwain Welsh wedi dylanwadu ar y nofel:

“Cafodd y drafft ei newid tua deufis wedi’r ddamwain. A dyna oedd y sbardun i fi fynd yn ôl trwy fy nodiadau i weld oes oedd cymariaethau eraill rhwng stori Welsh a Gatsby.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Myrtle Wilson, yn cael ei phortreadu yn y ffilm The Great Gatsby o 1974 gan Karen Black - oedd hi wedi ei seilio ar berson go iawn, o'r un enw?

Wrth barhau â’i ymchwil fe ddysgodd Gallimore bod Welsh yn hoff o gadw cyfres o gyfrolau yn ei feddiant er mwyn rhoi’r argraff ei fod yn ddiwylliedig.

Mae Gallimore wedi gweld llythyr rhwng Fitzgerald a chyd-gyfaill i’r ddau, Ring Lardner, sy’n awgrymu nad oedd Welsh yn darllen yr un dudalen o’r llyfrau ac mai “sioe yn unig oedden nhw”.

Mae yna olygfa nodedig yn Great Gatsby pan mae cymeriad yn dweud nad yw Gatsby yn darllen yr un llyfr yn ei lyfrgell ef chwaith.

Amheuaeth

Mae Bryant Magnum, Prifathro Saesneg yn Virginia Commonwealth University yn cydnabod mai prin iawn yw’r wybodaeth am gysylltiad rhwng Welsh a Gatbsy y tu hwnt i waith ymchwil Gallimore. Cafodd Magnum ei fentora gan Matthew Bruccoli a oedd yn cael ei ystyried yn arbenigwr ar waith F. Scott Fitzgerald.

“Does dim sôn o Welsh yng nghyfrol Bruccoli, Some Sort of Epic Grandeur,” meddai, “ac er i ni sgwrsio droeon ar y mater, ni gyfeiriodd unwaith at Welsh.”

Efallai mai cyd-ddigwyddiad oedd y cyfan, ond does dim amheuaeth i Fitzgerald a Welsh gwrdd ar sawl achlysur ac wrth drafod nofel sy’n ymwneud â chreu hanes a mytholeg newydd, pam lai?