Atgofion Endaf Emlyn wrth ddathlu'r 80
- Cyhoeddwyd
Recordio yn Abbey Road, rhyddhau albymau sy’n glasuron Cymraeg, cyfansoddi arwyddgan Pobol y Cwm, cyfarwyddo ffilmiau fel Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig - mae gan Endaf Emlyn ddigon i’w drafod wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 80.
A dyna mae’r cerddor a’r cyfarwyddwr dylanwadol wedi ei wneud mewn cyfweliad estynedig ar raglen Ffion Dafis - lle’r oedd o hefyd yn dewis awr o gerddoriaeth gyfoes Cymraeg.
Dyma ddetholiad o’i sylwadau.
Gwrthod lle i ganu gyda chôr cadeiriol St Paul’s yn Llundain
"Roeddwn i’n soprano pan o’n i’n hogyn bach a do’n i ddim yn licio bod yn soprano o gwbl. Roedd pawb yn dotio ac roedd rhaid canu yn bob man a ro’n i’n awyddus i’r llais dorri er mwyn i mi gael llonydd gan bawb.
"Felly roedd 'na lot o bwysa arna'i i ganu, ac i’r fath raddau, ar un adeg fe ddaeth cynllun i fy ngyrru fi i goleg corawl i eglwys gadeiriol.
"Mi aeth fy nhad a fi i St Paul’s ac roedd sôn am fynd i fanno - a neshi jest gwrthod mynd... faswn i ddim yn dweud bod o’n bwysa llethol o gwbl ond roedd o’n dod o le da fel basa rhywun yn ei ddeud, ond roedd o’n dipyn o bwysa arna i ac yn hynny o beth ro’n i’n ffoi i fyd fy nychymyg.
"Aethon ni i’r eglwys. Aethon ni fyny i’r to ac edrych i lawr ond do’n i’n ddim isho mynd. Roedd gen i fodryb yn byw yn Llundain. Cynllun fy nhad oedd hwn, i wneud rhyw fath o farc yn y byd hwnnw - ond dwi’n credu gan fod fy modryb yn byw yn Clapam - Anti Llinos oedd ei henw hi - doedd o ddim yn teimlo mod i’n ben draw’r byd ar ben fy hun. Ond do’n i ddim yn barod i fynd."
Fe aeth i bwll iselder yn ei arddegau ar ôl cyfnod anodd
"Ro’n i’n medru chwarae’r ffidl - y bwriad oedd y byddwn i’n ffidlwr proffesiynol.
"Ond pan o’n i’n 16 fe golles i fy mam ac er mai fy Nhad oedd yn uchelgeisiol, fy mam wrth gwrs - y fam Gymreig - oedd yn penderfynu lle ddylwn i fynd ac yn argymell.
"Wedyn ro’n i’n colli’r arweiniad yna ac ro’n i mewn pwll o iselder erbyn hynny a mi rois i’r ffidil yn llythrennol yn y to. Wnes i wrthod mynd i’r Gerddorfa Genedlaethol a dewis peidio chwarae’r ffidil a dechrau chwarae - yn anghelfydd iawn - y gitâr.
"Yn yr un flwyddyn fe symudon ni’n cartref... achos fu farw fy mam ym Mehefin ac erbyn y Nadolig ro’n i’n byw ym Mhorthaethwy oherwydd bod fy nhad wedi cael gwaith ym Mangor yn y coleg.
"Ro’n i wedi colli cysylltiad efo popeth dweud y gwir... wedyn roedd hwnnw yn dipyn o bwll i ddringo ohono fo ac mae o wedi cymryd sbel i wneud hynny dweud y gwir.
"Dwi’n meddwl bod pobl sydd yn anghyflawn mewn rhyw ffordd neu wedi eu niweidio mewn rhyw ffordd neu sydd yn anhapus - maen nhw’n cael ryw foddhad o greu rhywbeth sydd yn gyflawn, sydd tu allan i’r profiadau yna."
Fel Bob Dylan, fe gafodd ei alw’n ‘fradwr’ mewn gig
"Mi ges i gyfnod byr iawn yn canu yn Injaroc ac roedd Injaroc yn brofiad.
"Roedd Edward H wedi dod i ben - i ddiwedd eu hoes arbennig - a gweddillion Edward H a Sidan, a fi a Geraint Griffiths oedd Injaroc.
"Roedd 'na ddrwgdeimlad chwyrn iawn yn dod gan ddilynwyr Edward H oedd ddim yn hapus efo’r sefyllfa honno - Edward H hysteria o’n i’n ei alw fo.
"Yn ein cyngerdd cynta’ ni yn Aberystwyth o bob man, dwi’n cofio ryw un hogyn oedd o’n wmbrath yn iau na fi o flaen y llwyfan yn gweiddi bradwr arna fi trwy’r nos.
"Chwarae teg iddo fo, doedd o ddim yn sobor - ac allwn i faddau hynny iddo fo. Do’n i methu deall pwy ydw i wedi bradychu? A sut ac yn y blaen, felly roedd 'na lot o bethau fel hynny oedd reit anodd.”
Aeth i Rwsia gyda $20,000 o bres S4C mewn arian parod
"Roedd (Rwsia) yn le peryglus - o gwmpas 1991 oedd hi - dwi’n credu bod (Yr Arlywydd Boris) Yeltsin wedi mynd.
"Doedd 'na ddim llywodraeth a doeddach chi ddim yn cael mynd â doleri i mewn i’r wlad, ond roedd y rouble wedi syrthio drwy’r llawr felly roedd rhaid i chi gael doleri.
"Roedd gynnon ni gynhyrchydd oedden ni’n gweithio efo fo yn Rwsia ac roedd o wedyn yn dweud wrtha i 'mae'n rhaid dod â rhyw $20,000' ac felly mi fues i drwy customs - ac roedd gen i $20,000 yn fy mhoced.
"O dan y wardrob oedd o wedyn achos doedd 'na ddim banc yno, doedd 'na ddim yswiriant car na dim."
Fe gyfansoddodd gân agoriadol Pobol y Cwm diolch i Salem
"Oherwydd Salem [ei albwm yn 1974] mi ges i Pobol y Cwm.
"Roedd John Hefin [y cyfarwyddwr wnaeth gyd-greu Pobol y Cwm] wedi clywed a mwynhau Salem - ag roedd o angen rhywbeth oedd yn debyg ond ddim run fath, yn werinol ond ddim rhy werinol, a hyn a’r llall.
"Rhyw bethau cyffredinol oedd y dyheadau yma i gyd ond ro’n i’n deall be' oedd o’n ei feddwl.
"Ac wedyn mae Pobol y Cwm hefyd yn dathlu'r pen-blwydd hanner cant eleni achos roedd hi'n yr un flwyddyn, roedd Salem (yn 1974) ac wedyn yn fuan ar ôl Salem daeth Pobol y Cwm."
Bydd rhaglen Ffion Dafis gydag Endaf Emlyn ar BBC Radio Cymru am 1400 dydd Sul 30 Mehefin neu gwrandewch ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2019