Caergybi: Croesawu cynllun i ehangu addysg Gymraeg uwchradd
- Cyhoeddwyd
Bydd y ddarpariaeth addysg Gymraeg yn cael ei ehangu yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn sgil galw cynyddol yn lleol.
Mae cynghorwyr ym Môn wedi croesawu'r bwriad i newid categori iaith yr ysgol.
Y disgwyl yw y bydd yn cynnig addysg Categori 3 (Cyfrwng Cymraeg) cyflawn, fel gweddill ysgolion uwchradd yr ynys, erbyn 2029.
Hyd yma mae'r ysgol wedi ei hystyried fel un Categori 2 (Dwyieithog) ac yn draddodiadol mae disgyblion sy'n dymuno cael addysg Gymraeg wedi mynychu Ysgol Uwchradd Bodedern, sydd 7.5 milltir i ffwrdd.
Ond gydag Ysgol Uwchradd Bodedern bellach yn llawn clywodd aelodau o Bwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio Môn y bydd modd i ddisgyblion Blwyddyn 7 yng Nghaergybi dderbyn addysg Gymraeg gyflawn o fis Medi wrth i ffrwd newydd gael ei sefydlu.
Wrth ymestyn yn raddol ac hefyd drwy ddarparu gwasanaethu trochi iaith y disgwyl yw y bydd disgyblion ym mhob blwyddyn ysgol yn gallu derbyn addysg Gymraeg yng Nghaergybi erbyn 2029.
Cafodd Ysgol Uwchradd Caergybi ei hagor yn 1949 a'r gred yw mai hi yw'r ysgol gyfun hynaf ym Mhrydain.
Yn ôl cyfrifiad 2021 nododd 42.5% o drigolion y dref eu bod yn gallu siarad Cymraeg o'i gymharu â 55.8% ar draws yr ynys.
Dywedodd Marc Berw Hughes, Cyfarwyddwr Addysg y sir, fod yr ysgol bellach mewn "cyfnod trosiannol" gyda'r dyhead o gyrraedd statws Categori 3 llawn erbyn 2029.
Yn ei adroddiad i Bwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio Cyngor Môn, ychwanegodd bod yr ysgol wedi ymateb i anghenion "heriol" yn nhermau mynediad i addysg Gymraeg yn ardal Caergybi.
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
"Mae hwn yn gynllun tymor hir, mae 'na ddigon o weithlu yno i ni allu darparu darpariaeth drwy'r Gymraeg ond mae angen i ni ailgynllunio ac ailstrwythuro'r amserlen fel bod o leia' un dosbarth yn gallu eu darparu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg ac ymateb i anghenion Categori 3.
"Mae'r buy-in gan y staff yna a 'da ni wedi gweld hynny'n barod a dros amser gobeithio fydd rhieni'r ardal yn gweld bod 'na mwy nag un opsiwn a bod dewis o fynd i'w hysgol leol."
Ychwanegodd y byddai cydlynydd siarter iaith i "sicrhau cyfleon tu allan i'r dosbarth i ddefnyddio'r Gymraeg".
Clywodd y pwyllgor bod "cynnydd addysg Gymraeg wedi bod yn yr ysgolion cynradd yng Nghaergybi ers sawl blwyddyn" ond bod "diffyg darpariaeth" wedi bod yn y sector uwchradd.
Nodwyd hefyd fod lefel y Gymraeg "yn cynyddu yng Nghaergybi o flwyddyn i flwyddyn" a bod "camau mawr yn digwydd yma".
Y pedair ysgol uwchradd arall ar yr ynys yw Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch ac Ysgol Uwchradd Bodedern.
Cafodd yr adroddiad, dolen allanol ei dderbyn yn unfrydol.