Ysgol ym Mhowys i newid i fod yn un cyfrwng Cymraeg

Ysgol LlanfaircaereinionFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw cyflwyno'r newid yn raddol gan ddechrau gyda'r flwyddyn derbyn ym Medi 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo cynllun i droi Ysgol Bro Caereinion yn ysgol cyfrwng Cymraeg, a hynny'n raddol dros gyfnod.

Ar ôl ystyried adroddiad gwrthwynebu, fe wnaeth y cabinet gymeradwyo argymhellion i fynd â'r ysgol ar hyd yr hyn y maen nhw'n ei alw'n "continwwm ieithyddol" i fod yn ysgol Gymraeg.

Fe unwyd ysgolion cynradd ac uwchradd Llanfair Caereinion i greu Ysgol Bro Caereinion, sy'n ysgol dwy ffrwd i blant 4-18 oed, yn 2022.

Dywed y cyngor y bydd y penderfyniad yn bodloni ei Gynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg, ac fe ddaw wythnos ar ôl i'r cyngor gyhoeddi fod cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno am adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, sydd ar hyn o bryd yn trawsnewid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Bydd trawsnewid Ysgol Bro Caereinion yn galluogi'r holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol a dyfod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau eu bod yn dyfod yn gwbl ddwyieithog, ac â'r gallu i ddefnyddio'r ddwy iaith yn hyderus yn y dyfodol.

"Byddai hefyd yn sicrhau fod disgyblion o'r rhan hon o Bowys yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg ddynodedig.

"Mae'r math hon o ddarpariaeth ar gael eisoes i ddisgyblion mewn rhannau eraill o Gymru ond nid yw ar gael ym Mhowys ar hyn o bryd."

Penderfyniad 'arwyddocaol'

Y bwriad yw cyflwyno'r newid yn raddol gan ddechrau gyda'r flwyddyn derbyn ym Medi 2025, a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2026.

Fel rhan o'r cynnig, bydd y cyngor yn cynnig trafnidiaeth am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion Blynyddoedd 4 ac iau yn Ysgol Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan i'w darparwr uwchradd cyfrwng Saesneg agosaf pan fyddant yn pontio o'r cynradd i'r uwchradd.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae hwn yn benderfyniad arwyddocaol sy'n cyd-fynd â chynnal Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn ein sir.

"Wrth weithredu'r cynnig hwn bydd y cyngor yn darparu darpariaeth sydd wedi ei chynllunio'n dda i gynyddu'r cyfleoedd i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc ddyfod yn gwbl ddwyieithog a rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg gan gyfrannu felly at ddyhead Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae'n bwysig fod y Cabinet wedi clywed safbwyntiau'r rheini a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig a chawsant eu hystyried yn ofalus cyn bod unrhyw benderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi disgrifio'r cyhoeddiad fel "cam pwysig"

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith yr hyn maen nhw'n ei alw'n Broclamasiwn Powys yn galw am wella addysg Gymraeg yn y sir.

Wrth ymateb i gyhoeddiad y cyngor, dywedodd llefarydd ar eu rhan:

“Bydd hyn yn gam cyntaf, ond yn gam pwysig, i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yn y Sir, ac yn deillio o frwdfrydedd ac agwedd gadarnhaol tuag at addysg Gymraeg gan bobl y sir a'u cyngor.

“Galwn ar Gyngor Powys yn awr i fynd ati i gynyddu addysg Gymraeg trwy Bowys gyfan trwy ddatblygu darpariaeth trochi ehangach a dechrau symud ysgolion eraill ar y daith at fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

"Mae’r camau nesaf yma wedi’u hamlinellu yn ein Proclamasiwn Powys sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, sy’n gosod amcanion tymor byr ymarferol i’r cyngor fynd ati i sicrhau hawl pob plentyn i addysg Gymraeg.”

Pynciau cysylltiedig