Ymgyrch i gael corff rhwyfwr o Borthmadog yn ôl i Gymru

Michael HoltFfynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Holt yn ceisio rhwyfo 3,000 o filltiroedd o Gran Canaria i Barbados

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn o Borthmadog a fu farw tra’n ceisio rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd yn apelio am gymorth i gael ei gorff adref.

Cafodd cwch Michael Holt, 54, ei ddarganfod gan long bysgota ar ôl iddo golli cysylltiad gyda'i dîm cymorth.

Roedd yn ceisio rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws yr Iwerydd o Gran Canaria i Barbados yn y Caribî er mwyn codi arian i helpu dwy elusen.

Roedd Mr Holt, oedd â diabetes math 1, eisoes wedi rhwyfo 700 milltir cyn iddo fynd yn sâl.

Cafodd ei ddarganfod yn farw yn ei gaban gan griw llong bysgota oedd wedi hwylio ato i’w helpu.

Mae’r cwch wedi cael ei dynnu i São Vicente - un o ynysoedd Cape Verde - erbyn hyn.

Dywed ei gefnogwyr bod angen iddyn nhw gludo Michael adref o Cape Verde.

Ffynhonnell y llun, Teulu Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd corff a chwch Michael Holt ei gludo i ynysoedd Cape Verde

Yn ôl Barry Hayes, fu’n helpu Michael Holt i gofnodi ei her ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw nawr yn galw am roddion ariannol er mwyn hedfan ei gorff yn ôl i Gymru.

Ar y dudalen codi arian, mae’n dweud: "Nid yw'n broses syml ac mae'n ddrud.

"Ni wyddom faint llawn y gost ar hyn o bryd, ond os bydd arian dros ben, yna bydd yn cael ei roi i'r elusennau yr oedd Michael yn eu cefnogi."

Rhoddion i elusennau yn parhau

Yn y cyfamser mae rhoddion yn parhau i ddod i mewn i'r elusennau roedd Mr Holt yn eu cefnogi.

Roedd wedi gosod targed o godi £1,000 ar ei dudalen codi arian ar gyfer Mind, lle'r oedd yn codi arian er cof am ffrind, ond mae’r targed bellach wedi pasio dros £4,000, gyda miloedd yn yn cael eu rhoi ers i'r newyddion am ei farwolaeth ddod i'r amlwg ddydd Llun.

Mae miloedd o bunnoedd wedi'u rhoi hefyd ar dudalen Mr Holt oedd yn codi arian ar gyfer LCVS, elusen sy’n helpu pobl Lerpwl, lle mae'r cyfanswm yn fwy na hanner ffordd tuag at y targed o £10,000.

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Nod Michael Holt oedd codi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1

Dywedodd Barry Hayes, fod ymgais Mr Holt, fel rhywun oedd â diabetes math 1, i rwyfo Môr yr Iwerydd "yn torri tir newydd, ac yn hynod ysbrydoledig".

Roedd wedi paratoi ar gyfer unrhyw broblemau yn ystod y daith trwy gael oergell wedi'i adeiladu i mewn i’w gwch ar gyfer ei inswlin, monitro gwaed awtomatig a chefnogaeth ffôn 24 awr.

Ond roedd y risg yn ei wneud yn amhosib i’w yswirio, yn ôl Mr Hayes.

“Mae hyn yn gyffredin, pan chi’n gwneud rhywbeth eithafol," meddai.

"Roedd Michael yn gwybod hyn i gyd, ond fel y bydd ei ffrindiau a'i deulu yn tystio, roedd yn angerddol, ac yn 'styfnig fel mul - roedd rhwyfo dros gefnfor ar ei ben ei hun yn rhywbeth a roddodd ysgogiad a ffocws iddo."

Dywedodd Mr Hayes bod teulu Michael yn dal mewn sioc ond eu bod wedi’u cysuro o wybod ei fod yn gwneud rhywbeth roedd yn ei garu.

Pynciau cysylltiedig