Yr her o rwyfo 3,000 o filltiroedd dros yr Iwerydd

  • Cyhoeddwyd
Michael HoltFfynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Michael Holt yn cychwyn ar ei daith o Pasito Blanco, Gran Canaria

Mae dyn o Borthmadog yn gobeithio rhwyfo 3,000 o filltiroedd o Gran Canaria yn Sbaen i Barbados.

Fe gychwynnodd Michael Holt, sy'n 54, ar ei daith ar draws Cefnfor yr Iwerydd ar ddydd Sadwrn 27 o Ionawr.

Meddai: "Mi fydda' i'n rhwyfo am dros 16 awr y dydd a dim ond rhyw 4 awr o gwsg fyddai'n gael bob nos.

"Mi allai'r daith gymryd rhwng 50-110 o ddyddiau."

Er bod ganddo diabetes math 1 ac wedi cael triniaeth fawr ar ei ysgwydd, mae o'n benderfynol o gwblhau'r her.

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Holt yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o diabetes math 1

Roedd Michael yn 28 oed pan gafodd wybod bod ganddo diabetes math 1.

Fe rwygodd esgyrn yn ei ysgwydd yn ystod digwyddiad yn 2015 oedd yn gysylltiedig â'i diabetes, a bu'n rhaid iddo gael triniaeth fawr i ailadeiladu ei ysgwydd.

'Odd o'n benderfynol o neud o ben ei hun'

Yn ôl ei ffrind Aled Roberts: "Ers hynny, roedd o isho cymryd her. Odd o'n benderfynol."

Fe symudodd Michael i Borthmadog pan oedd yn 13 oed, ac mae o ac Aled wedi bod yn ffrindiau mawr ers hynny.

"Ym mis Rhagfyr 2022, mi aethon ni i Tenerife a gweld pobl yn cymryd rhan yn y World's Toughest Row.

"Odd o isho cymryd rhan ond achos y diabetes, doedd o ddim yn cael gwneud.

"Mi 'nath hynna 'neud o'n benderfynol i 'neud o ar ben ei hun."

Ffynhonnell y llun, Aled Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Holt wedi galw ei gwch yn 'Mynadd' gan ei fod yn dweud bod angen "llawer o amynedd i rwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd ar fy mhen fy hun"

"Number one target o ydi gorffen ac mae o wedi bod yn ymarfer ar rowing machines ac ar y môr.

"Mae o'n gobeithio gwneud o mewn 60 diwrnod... mae'n dibynnu ar y tywydd.

"Does 'na ddim pwysa' arno fo i orffen o fewn unrhyw amser."

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Fe baciodd Michael Holt ddigon o fwyd a nwyddau ar gyfer 80 diwrnod

Yr awgrym ydi y bydd o'n gorfod gwneud 1,500,000 strôc er mwyn cyrraedd Barbados, ac mae trio cael seibiant yn bwysig.

"Ma' 'na cabin ar un ochr y cwch lle mae o'n gallu cysgu a mae o'n 100% waterproof", meddai ei ffrind, Aled.

"Mae o am rwyfo am bedair awr, cael un awr off a wedyn rhwyfo am bedair awr arall ac mae'n gobeithio ca'l pedair awr o gwsg yn y nos.

"Ma' ganddo fo wbath tebyg i parachute ar y cwch a ma hwnna'n neud yn siwr bod o ddim yn driftio'n rhy bell tra ma'n cysgu."

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Holt angen mynd â meddyginiaeth ar gyfer diabetes math 1 ar ei daith

"Ma ganddo fo ddisg diabetes ar ei fraich sy'n rhoi reading iddo fo ond gan bod o'n neud gymaint o rwyfo mi fydd o angen bwyta digon i gael egni ac i reoli'r cyflwr.

"Mi fydd o angen 8,000 o galoris y dydd sy'n lot o waith bwyta!

"Mi fydd o'n constantly bwyta, snacio ac yn bwyta hyd yn oed os fydd o ddim isho byta."

Gwyntoedd cryfion

Mi gychwynnodd Michael o Pasito Blanco yn Gran Canaria ychydig ddyddiau'n hwyrach na'r disgwyl, oherwydd gwyntoedd cryfion.

Mi baciodd ddigon o fwyd ar gyfer 80 diwrnod, ac mi gafodd help gan y cwmni oedd wedi adeiladu'r cwch er mwyn sichrau bod ganddo'r offer a'r gefnogaeth roedd o ei angen.

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Dyddiadur Michael Holt cyn iddo gychwyn ar ei daith ar 27 o Ionawr

Fydd 'na ddim hofrennydd na chwch yn teithio gyda Michael ond mi fydd o'n cadw mewn cysylltiad gyda'r cwmni fydd yn cadw golwg ar ei leoliad, dolen allanol.

Mi fydd hi'n boeth iawn ar adegau yn y dydd ac yn oer yn y nos ac yn ôl Aled, "ma' ganddo ddillad ar gyfer bob tywydd".

'Mae o wedi bod yn seasick'

"Ma' ganddo fo satellite phone a mi nath o ffonio fi ddoe i ddeud bod o wedi bod yn seasick... ond odd o wedi disgwyl hynna ac mae o wedi dod dros y sickness erbyn hyn.

"Mae o wedi paratoi ers mor hir felly dwi'n rili balch bod o 'di cychwyn."

Mae Michael wedi mynd â baner Clwb Pêl-droed Porthmadog efo fo.

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth ffrind Michael, Aled, brynu baner CPD Porthmadog iddo ar gyfer diwedd y daith

"Fi 'nath gael baner CPD Porthmadog iddo fo gael pan mae o'n cyrraedd Barbados," meddai ei ffrind Aled Roberts.

"Nath o fyw yn Port o pan odd o'n 13 oed felly ma' ganddo fo lot o ffrindia' yma a da ni'n mynd i watshiad Port yn chwara' yn aml."

Mae Michael Holt bellach yn byw yng Nghilgwri, ac mae ganddo fusnes glanhau.

Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd o rwyfo.

"Roeddan ni allan rhyw dair blynedd nôl," meddai ei ffrind Aled.

"A nath Mike ddeud bod o pasa rhwyfo'r Atlantic a dyma ni gyd yn deud 'dim gobaith!'

"Ond unwaith nath o ddechra' trainio go iawn odd yr hogia'n cymryd o'n fwy serious a 'dan ni gyd 'di bod yn meddwl sut allan ni helpu fo.

Ffynhonnell y llun, Aled Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mi deithiodd Aled Roberts o Borthmadog i Gran Canaria i gefnogi ei ffrind cyn iddo gychwyn ar ei daith

"Ath o ar lot o gyrsia'... sea rescue training ac ath o draw i Holland i ymarfer."

"O'dd o ddim yn nervous... odd o reit calm a relaxed.

"O'dd dau o ni wedi mynd allan i Gran Canaria efo fo ac oddan ni'n mynd â fo allan am fwyd i dynnu meddwl fo oddi ar y peth."

'Mi fydda i angen lot o fynadd'

Mae Michael wedi penderfynu rhoi enw Cymraeg ar ei gwch.

"Dwi wedi penderfynu galw fy nghwch yn MYNADD," meddai Mike.

"Nes i benderfynu ar yr enw yna achos os fyddai'n rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar fy mhen fy hun ar draws yr Iwerydd heb ddim cwmni na chefnogaeth, yna mi fyddai angen lot fawr o 'fynadd i wneud hynny!"

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Holt wedi bod yn hyfforddi am ddwy flynedd ar gyfer y daith

Dywedodd ei ffrind, Aled Roberts: "Mae o'n gallu siarad Cymraeg ac mae o'n dallt yn iawn pan 'dan ni gyd yn siarad Cymraeg.

"Un peth odd o isho neud ar y daith oedd defnyddio app i drio gwella Cymraeg fo.

"Odd o'n deud bo' ganddo fo oriau ar y môr, efo dim i neud.

"Felly mae o am wrando ar miwsig a gwersi ar ei ipod i tynnu meddwl fo."

Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd cadw golwg ar leoliad Michael Holt wrth iddo rwyfo i gyfeiriad Barbados

"Mae o isho dangos i bobl bod o'n gallu neud hyn efo diabetes, ac mae o isho gwneud gwahaniaeth.

"Dydi o erioed 'di neud rhywbeth fel hyn o'r blaen.

"Da ni ddim yn mynd i glywed ei diwedd hi!"

Mae Michael Holt yn codi arian ar gyfer elusen Mind a Gwasanaethau Gwirfoddol ac Elusennol Lerpwl.

Pynciau cysylltiedig