'Toriadau trychinebus' i gyllidebau chwaraeon yng Nghymru

Chwaraeon CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chwaraeon Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn ceisio sicrhau na fydd toriadau yn effeithio ar gyrff chwaraeon

  • Cyhoeddwyd

Mae adran chwaraeon BBC Cymru ar ddeall bod penaethiaid chwaraeon wedi cael rhybudd i ddisgwyl 20% yn llai o grantiau gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Mae'r toriadau i'r cyllidebau - a fyddai'n cyfateb i bron i £5m - wedi eu disgrifio fel rhai "pryderus tu hwnt".

Pryder aelodau Cymdeithas Chwaraeon Cymru (CChC), y corff sy’n cynrychioli byd y campau yng Nghymru, yw bydd llai o bobl yn gallu fforddio cymryd rhan mewn chwaraeon.

Fe allai gael effaith niweidiol yn yr hir dymor, meddai CChC.

"Mae’n bosib bod rhai campau yn wynebu toriadau trychinebus os daw'r hyn 'da ni wedi ei glywed yn wir," meddai Prif Weithredwr Seiclo Cymru, Caroline Spanton.

Penderfyniadau anodd ar y gorwel

Ategodd Andrew Howard, prif weithredwr CChC: "Mae pawb yn bryderus o ran y dyfodol a sut y gall ein campau weithredu fel maen nhw ar hyn o bryd.

"Ein pryder mawr yw bod hwn yn doriad tymor byr fydd yn cael sgil effeithiau difrifol iawn i iechyd y genedl yn y dyfodol."

Mae disgwyl i Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, gyhoeddi cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth, 19 Rhagfyr.

Ers i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford gyhoeddi ym mis Awst bod angen gwneud arbedion wrth i’r llywodraeth wynebu’r "her ariannol fwyaf", mae sawl adran wedi bod yn disgwyl toriadau i’w cyllid.

Nid yw aelodau o CChC wedi datgelu unrhyw ffigyrau ond maen nhw'n disgwyl i'r arian a gafwyd y llynedd ostwng yn "sylweddol".

Fe dderbyniodd Chwaraeon Cymru, y corff sy’n rhannu cyllid Llywodraeth Cymru gyda’r wahanol gampau, gronfa ariannol o £31m yn 2023.

O’r ffigwr yna, mae £8m yn cael ei neilltuo i wella cyfleusterau ac isadeiledd - fydd y toriadau ddim yn effeithio ar hynny.

Ond mae disgwyl toriad o 15-20% i’r gweddill, sy’n arwain aelodau o CChC i boeni am yr effaith, gan ddweud bod sawl camp yn gweithredu ar "gyllideb gyfyngedig iawn" ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon y bydd y toriadau yn cael effaith andwyol

Maent yn dweud bydd yr effeithiau yn amlwg ac yn cael eu teimlo gan y cyhoedd.

"Rydym yn gwybod bydd toriadau yn dod atom ni gyd," dywedodd Ms Spanton, sydd wedi pwysleisio gwerth datblygiad diweddar i wneud seiclo yn fwy hygyrch a'i effaith ar gymdeithas ehangach.

"Bydd rhaid gwneud penderfyniadau mawr.

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ceisio buddsoddi ar draws adrannau gwahanol er mwyn cynyddu ymroddiad a sicrhau bod y rhai mewn cymunedau anodd i'w cyrraedd yn gallu cael mynediad at chwaraeon a gweithgareddau corfforol.

"Ry'n hefyd wedi ceisio cael nod o sicrhau llwyddiant yn y Gemau Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd.

"Ond nawr fyddwn ni ddim yn gallu cyflawni popeth rydym eisiau ei wneud fel cyrff rheoleiddio".

Mae Chwaraeon Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn ceisio sicrhau na fydd toriadau yn effeithio ar gyrff chwaraeon.

Ond nawr mae yna ofnau y gallai llai o arian effeithio ar yr amcanion i gynyddu cyfleoedd mewn ardaloedd difreintiedig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil diweddar yn dangos bod buddsoddi mewn chwaraeon yn creu mwy o arian yn y pen draw

"Ein pryderon go iawn ni fel sector yw bod y penderfyniadau yma yn golygu na fydd gan bawb fynediad i chwaraeon," medd Mr Howard.

"Yn anffodus, bydd y bwlch rhwng y rhai sy'n gallu cael mynediad at chwaraeon yn mynd yn fwy ac fe fydd hynny yn cael effaith ar les corfforol ac ar iechyd meddwl."

Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Sheffield - ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan Chwaraeon Cymru, yn dangos y gallai GIG Cymru elwa'n fawr o fuddsoddiad mewn chwaraeon - ac y gallai'r ffigwr fod cymaint â £620m.

"Rydym yn gwybod bod pawb yn diodde’ toriadau, ond mae'r budd a ddaw o chwaraeon ac ymarfer corff yn ymestyn yn bellach na rhywun ond yn mynd allan a chael gêm o rygbi ar bnawn Sadwrn," ychwanegodd Ms Spanton, sydd hefyd wedi bod yn gweithio i Rhwyfo Cymru, Hoci Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Pêl-droed Cymrru.

"Rhaid hefyd cofio am y sector wirfoddol - mae chwaraeon yn darparu gwerth £430 miliwn o oriau gwirfoddol i gymdeithas bob blwyddyn.

"Gall colli hynny gael effaith ar gymdeithas a chymunedau.

"Yn sgil toriadau posib bydd trafodaethau a phenderfyniadau anodd iawn o'n blaen."