Presenoldeb Farage yn 'ergyd bellach' i'r Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Fe allai penderfyniad Nigel Farage i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol achosi niwed pellach i obeithion y Ceidwadwyr yng Nghymru, yn ôl arbenigwr gwleidyddol.
Fe wnaeth cyn-arweinydd UKIP a Phlaid Brexit gyhoeddi ddydd Llun y byddai'n ymgeisydd ar gyfer sedd Clacton yn Essex, a'i fod bellach yn arweinydd Reform UK.
Dywedodd Dr Jac Larner, darlithydd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, y bydd y potensial o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yn troi at Reform, a chynnydd mewn cefnogaeth i'r Blaid Lafur, yn "bryder" i'r Torïaid.
Dywedodd y Ceidwadwyr y byddai pleidleisio dros Reform yn "rhoi allweddi Downing Street i Lafur".
Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur, y dewis yn yr etholiad ydy rhwng Llafur a "mwy o anrhefn" dan y Ceidwadwyr.
Dywedodd Plaid Cymru fod Mr Farage wedi "gwneud gyrfa o golli etholiadau cyffredinol".
Arolwg barn newydd
Fe wnaeth Dr Larner ei sylwadau wedi i arolwg barn yng Nghymru awgrymu bod Reform yn y trydydd safle - ychydig ar y blaen i Blaid Cymru.
Mae'r arolwg gan YouGov ar gyfer Prifysgol Caerdydd ac ITV Cymru yn awgrymu bod 45% o etholwyr Cymru am bleidleisio dros y Blaid Lafur - 3% yn uwch na'r arolwg diwethaf ym mis Rhagfyr.
Roedd y Ceidwadwyr ar 18% - 2% yn is na'r arolwg blaenorol.
Gwelwyd 1% o gynnydd yn y gefnogaeth i Reform - ar 13% - tra bod Plaid Cymru i lawr 2%, i 12%.
Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar 5% - dau bwynt canran i lawr - a'r Gwyrddion 1% i fyny, i 4%.
Fe wnaeth YouGov siarad â 1,066 o bobl yng Nghymru rhwng 30 Mai a 3 Mehefin.
Dywedodd Dr Larner bod y gefnogaeth i Reform UK "bron yn union yr un fath" â'r hyn y gwelwyd i'w ragflaenydd, Plaid Brexit, yn 2019.
Ond dywedodd, erbyn y pwynt yma yn yr ymgyrch yn 2019, "roedd y gefnogaeth i Blaid Brexit wedi haneru yng Nghymru".
"Y tro hwn does 'na ddim gostyngiad o'r fath wedi bod ac, os unrhyw beth, mae eu cefnogaeth wedi tyfu yn y 12 mis diwethaf."
Mae arolygon yn rhagdybio mai'r "collwyr mawr" o'r twf i gefnogaeth Reform ydy'r Ceidwadwyr, meddai Dr Larner.
"Mae polau diweddar yng Nghymru yn awgrymu bod rhywle rhwng chwarter a thraean y rhai oedd yn arfer pleidleisio i'r Ceidwadwyr yn bwriadu pleidleisio dros y blaid [Reform]," meddai.
"Mae hyn, ynghyd â chynnydd cymedrol yn y gefnogaeth i Lafur yng Nghymru, yn gwneud yr etholiad yn bryder i'r Ceidwadwyr."
Ychwanegodd Dr Larner fod Mr Farage wedi profi'n "hynod boblogaidd" gyda thua 20% o bleidleiswyr, ond yn "amhoblogaidd dros ben" gyda'r gweddill.
"Mae presenoldeb Farage hefyd yn sicr o arwain at sylw cyson gan y wasg," meddai.
"Mae'n bosib y bydd hyn yn gwneud pleidlais Reform hyd yn oed yn fwy ystyfnig, fydd yn ergyd bellach i obeithion y Ceidwadwyr yng Nghymru."
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd31 Mai
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
Dywedodd llefarydd Reform yng Nghymru, Oliver Lewis: "Ni ellir, a ni ddylid, tanystyried apêl Nigel Farage i bleidleiswyr hyd oes y Ceidwadwyr a Llafur, yn seiliedig ar y gefnogaeth ry'n ni'n gwybod y cafon ni yn etholiadau Ewropeaidd Mai 2019."
Ychwanegodd fod y blaid yn targedu seddi Merthyr Tudful ac Aberdâr, Torfaen, Maldwyn a Glyndŵr, ac Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.
Dywedodd Nick Thomas-Symonds o'r Blaid Lafur: "Os ydych chi eisiau newid gwirioneddol yn yr etholiad yma, yr unig ffordd i wneud hynny ydy pleidleisio dros y Blaid Lafur.
"Mae'r dewis rhwng Plaid Lafur newydd Keir Starmer a mwy o anhrefn dan Rishi Sunak a'r Ceidwadwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Dro ar ôl tro mae Llafur wedi dangos eu gwir liwiau ar fewnfudo, a byddai pleidlais dros Reform ond yn rhoi allweddi Downing Street i Lafur.
"Yr unig ffordd o weld agwedd gadarn ar fewnfudo ydy pleidleisio i'r Blaid Geidwadol."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod "Nigel Farage wedi gwneud gyrfa o golli etholiadau cyffredinol".
"Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno gweledigaeth bositif Plaid Cymru ar gyfer y wlad yn ystod y ddadl deledu nos Wener - un sy'n gwrthod casineb a rhaniad."
Yr ymgeiswyr eraill ar gyfer sedd Clacton
Giles Watling - Ceidwadwyr
Jovan Owusu-Nepaul - Llafur
Matthew Bensilum - Democratiaid Rhyddfrydol
Natasha Osben - Y Blaid Werdd