Gwadu bod ymgeiswyr Llafur yn cael eu 'gorfodi' ar Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol wedi amddiffyn y prosesau ar gyfer dewis dau ymgeisydd ar gyfer seddi diogel i'r blaid yng Nghymru.
Mae'r penderfyniad i ddewis Torsten Bell fel ymgeisydd ar gyfer Gorllewin Abertawe ac Alex Barros-Curtis ar gyfer Gorllewin Caerdydd wedi denu beirniadaeth.
Mae cyn-aelod o bwyllgor gwaith Llafur, Darren Williams, yn dweud fod y blaid wedi "gorfodi" yr ymgeiswyr ar aelodau lleol, er bod ganddynt "ddim cysylltiad" â'r ardaloedd.
Dywedodd mudiad Llafur Llawr Gwlad Cymru eu bod "fel nifer, yn ddig iawn" ynglŷn â'r penderfyniad, gan ei ddisgrifio fel "sarhad llwyr".
- Cyhoeddwyd1 Mehefin
- Cyhoeddwyd31 Mai
Dywedodd Stephen Doughty - ymgeisydd Llafur ar gyfer De Caerdydd a Phenarth - wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales y cafodd y penderfyniad ei wneud "yng Nghymru".
"Mae 'na brosesau clir, hir sefydlog - yn enwedig pan fo etholiad yn cael ei alw ar fyr rybudd - o fewn y blaid, ac fe gafodd y penderfyniad yma ei wneud yng Nghymru," meddai Mr Doughty.
"Cafodd ei wneud gan aelodau o'n pwyllgor gwaith Cymreig a gan gynrychiolwyr lleol, felly mae'r syniad y cafodd ei orfodi o rywle arall yn anghywir.
"Mae gennym ni ymgeiswyr gwych, sydd â sgiliau gwych. Rwy'n siŵr y byddan nhw'n gynrychiolwyr o'r radd flaenaf i Gymru.
"Rwy'n credu bod rhaid i ni farnu ymgeiswyr ar, a ydyn nhw am fod yn gynrychiolwyr gwych yn lleol ac a ydyn nhw am gyflawni newid ar lefel genedlaethol... ac rwy'n meddwl bod Torsten ac Alex am wneud hynny'n wych ar gyfer Caerdydd, Abertawe a Chymru."
'Pobl eisiau AS sy'n cyflawni pethau'
Ar raglen Politics Wales yn ddiweddarach dywedodd ymgeisydd arall Llafur ar gyfer yr etholiad, Stephen Kinnock fod y blaid angen y bobl fwyaf talentog, gan ychwanegu fod aelodau'r blaid yn lleol wedi bod yn rhan o'r penderfyniad.
"Yn y pendraw, mae pobl eisiau AS sy'n cyflawni pethau," meddai.
"Maen nhw eisiau AS sydd â llais cryf yn genedlaethol ac sy'n ymgyrchu'n lleol, a dyna beth fydd Torsten ac Alex.
"Yn y Senedd mae angen i chi gael y bobl fwyaf talentog y gallwch chi ffeindio a'u rhoi nhw ar waith er mwyn cyflawni, os ydyn ni'n ddigon breintiedig i fod yn llywodraethu."
Mewn datganiad damniol dywedodd Llafur Llawr Gwlad Cymru nad oedd "unrhyw gyfraniad gan aelodau nac undebau llafur" cyn gwneud y penderfyniadau.
Maen nhw'n disgrifio'r penderfyniad yng Ngorllewin Caerdydd fel "sarhad ar ddemocratiaeth".
"Rydym yn deall bod nifer o ymgeiswyr wedi rhoi eu henwau ymlaen ond na chafodd cyfweliadau eu cynnal," meddai'r grŵp.
"Mae'n iawn i etholwyr ddisgwyl i ymgeiswyr gael cysylltiadau â'r ardaloedd maen nhw'n gobeithio cynrychioli.
"Mae gorfodi'r ymgeiswyr yma - sydd ddim yn lleol a ddim yn Gymry - yn sarhad llwyr ar bob aelod a phob etholwr yng Ngorllewin Caerdydd a Gorllewin Abertawe."
'Gwanhau llais yr ardal'
Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ei fod yn esiampl o "ddod â phobl i mewn o'r tu allan i Gymru, sydd â dim cysylltiad Cymreig.
"Os ydych chi'n dod â rhywun i mewn o'r tu allan i Gymru, yr hyn rydych chi'n ei wneud ydy gwanhau llais yr ardal yna," meddai.
"Mae'n ddrwg ar gyfer democratiaeth Gymreig ac mae'n adlewyrchu'n ddrwg ar Lafur a'u hagwedd tuag at Gymru."
Mae'r Ceidwadwyr wedi cael cais am sylw.
Dywedodd Llafur Cymru mewn datganiad ddydd Sul eu bod "wedi dewis grŵp gwych o ymgeiswyr" ar gyfer yr etholiad.
"Fe fyddan nhw'n ymgyrchu ar draws y wlad i gyflwyno neges Llafur o newid i bleidleiswyr.
"Gyda'r etholiad cyffredinol ymhen pum wythnos, cafodd y penderfyniad ei wneud gan banel sy'n cynnwys pwyllgor gwaith Llafur Cymru a chynrychiolwyr y blaid yn lleol."
Yr ymgeiswyr yn etholaeth Gorllewin Abertawe
Llafur - Torsten Bell
Y Ceidwadwyr - Tara-Jane Sutcliffe
Plaid Cymru - Gwyn Williams
Democratiaid Rhyddfrydol - Mike O’Carroll
Reform - Patrick Benham-Crosswell
Y Blaid Werdd - Peter Jones
Clymblaid Undebau Llafur a Sosialaidd - Gareth Bromhall
Yr ymgeiswyr yn etholaeth Gorllewin Caerdydd
Llafur - Alex Barros-Curtis
Y Ceidwadwyr - James Roberts Hamblin
Plaid Cymru - Kiera Marshall
Democratiaid Rhyddfrydol - I'w gadarnhau
Reform - Peter Hopkins
Y Blaid Werdd - Jess Ryan
Plaid Gweithwyr Prydain - Akil Kata
Yr ymgeiswyr yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth
Llafur - Stephen Doughty
Ceidwadwyr - I'w gadarnhau
Plaid Cymru - Sharifah Rahman
Democratiaid Rhyddfrydol - Alex Wilson
Y Blaid Werdd - Anthony Slaughter
Reform - Simon Llewellyn