Pum munud gyda'r pêl-droediwr Manon Pearce

Manon yn chwarae i GaerdyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu Manon yn chwarae i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Manon Pearce yn bêl-droediwr sydd wedi chwarae i dimau pêl-droed Y Barri, Caerdydd a Chymru dan 19. Mae hi newydd orffen ei Lefel A yn Ysgol Bro Morgannwg.

Gyda Chwpan y Byd yn Seland Newydd ac Awstralia newydd orffen, aeth Cymru Fyw draw i’r Barri i ymweld â’r pêl-droediwr.

Beth wnaeth sbarduno dy ddiddordeb yn y bêl gron?

Nes i weld poster yn chwilio am ferched i chwarae gyda thîm o’r enw Vale Girls pan o’n i’n saith mlwydd oed. Ro’n i’n mwynhau’r sesiynau ymarfer a’r gemau cymaint wnes i aros gyda’r tîm tan o’n i’n 16. Newidiodd enw’r tim i Barry Town. Blwyddyn diwethaf fues i’n chwarae i ferched Caerdydd yn y Genaro Adran League.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Manon ei thaith gyda Vale Girls

Pryd ddechreuaist ti chwarae i Gymru ac ym mha safle wyt ti’n chwarae?

Ges i fy nghap cyntaf pan o’n i’n 14 a dwi’n parhau i chwarae i ngwlad hyd heddiw. Dwi’n chwarae ynghanol y cae.

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Manon yn chwarae i Gymru

Wyt ti’n dilyn tîm pêl-droed?

Dwi’n dilyn Man Utd ond dwi ddim yn gefnogwr selog. Pan o’n i’n iau ro’n i'n arfer mynd draw i wylio Caerdydd yn chwarae ond s'dim digon o amser gen i fynd draw i Stadiwm Dinas Caerdydd erbyn hyn.

Pwy sydd wedi dy ysbrydoli di dros y blynyddoedd?

Mae gen i feddwl mawr o hyfforddwr o’r enw Nic Anderson. Hi oedd hyfforddwr Cymru dan 19 oed. O ran chwaraewyr, Gareth Bale. Mae e’n gymeriad mor arbennig ac wedi gwneud cymaint dros ei wlad.

Dwi hefyd yn meddwl fod Cari Jones yn ferch ysbrydoledig. Mae’n chwarae i Gymru ac i Leicester City. Mae’n gweithio mor galed ac mae’n gwneud mor dda ar hyn o bryd. Hi sydd yn gwneud i mi fod eisiau gwella ac i barhau i chwarae pêl-droed.

Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Nicola Anderson, ysbrydoliaeth mawr i Manon

Beth yw uchafbwyntiau dy yrfa chwarae hyd yn hyn?

Mae dau yn sefyll mas. Dwi’n cofio sgorio ddwywaith i Gymru mewn gêm yn erbyn Yr Alban. Enillon ni 2-1. Roedd e’n deimlad rhyfeddol ac roedd pawb yn y tîm mor hapus. Mae’n braf pan rwyt ti’n gweld dy waith caled yn talu ar ei ganfed.

Dwi hefyd yn cofio chwarae i Gaerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd y tymor diwethaf. Ro’n i’n chwarae yn erbyn Abertawe ac ro’n i mor nerfus cyn y gêm oherwydd nhw oedd y gelyn fel petai ac roedd y ddau dîm yn brwydro am y bencampwriaeth. Dyna’r stadiwm orau i mi chwarae ynddi hyd yn hyn. Daeth tipyn o gefnogwyr i weld y gêm ac enillon ni o dri gôl i un.

Sawl gwaith yr wythnos wyt ti’n ymarfer? Oes gen ti ddiddordebau eraill?

Oherwydd fod y tymor pêl-droed ar fîn dechrau dwi’n ymarfer pedair gwaith yr wythnos ar hyn o bryd ond mi fydd hynny’n gostwng i deirgwaith yr wythnos ar ôl i’r tymor ddechrau. Pan dwi’n ymarfer gyda Chymru mi fyddwn ni’n mynd bant yn achlysurol i gampiau arbennig.

Yn anffodus does gen i ddim amser ar gyfer diddordebau eraill!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ar ddiwrnod prin oddi ar y maes pêl-droed

Wyt ti wedi gweld gwahaniaeth yn y gêm i ferched ers i ti ddechrau chwarae?

Yn sicr. Mae proffil y gêm wedi cynyddu cymaint ac mae mwy o gefnogwyr yn mynd i wylio’r gemau erbyn hyn. Dwi wedi gweld newid mawr yma yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’r safon, yr offer a’r hyfforddi wedi gwella cymaint. Mae tipyn mwy o ferched yn chwarae pêl-droed erbyn hyn ac mae gweld y gemau ar y teledu wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.

Dwi yn gobeithio bydd Cymru’n medru cyrraedd naill a’i Cwpan y Byd neu Pencampwriaeth Ewrop o fewn y blynyddoedd i ddod.

Beth yw dy obeithion ar gyfer y tymor i ddod?

Dwi ar fîn symud i Fryste oherwydd dwi’n gobeithio gwneud cwrs Sports Rehabilitation ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Dwi’n 'nabod hyfforddwr Bristol City Ladies oherwydd roedd e'n arfer hyfforddi gyda thîm menywod Cymru, felly bydd rhaid i mi ffitio mewn gyda thîm newydd. Dwi’n siŵr bydd pawb yn groesawgar felly cawn ni weld.

Beth yw’r nod i ti yn y dyfodol?

Dwi eisiau bod yn ffysiotherapydd ond hoffen i hefyd ddod yn bêl-droediwr proffesiynol. Dwi hefyd eisiau parhau i chwarae i Gymru a chystadlu yn un o’r twrnameintiau rhynglwadol dros fy ngwlad.

Hefyd o ddiddordeb: