3 llun: Lluniau pwysicaf Ed Holden
- Cyhoeddwyd
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?
Mae'n rapiwr, mae'n gynhyrchydd ac yn fît-bocsiwr sydd wedi ennill cystadlaethau ar draws y byd. Ed Holden, neu Mr Phormula, sydd yn trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.
Mae gen i atgof gwych o’r diwrnod yma. Mam a Dad yn mynd â fi drosodd i Ynys Enlli pan o'n i’n blentyn. Gafon ni ddiwrnod anhygoel.
Stori ffyni, roedd y gwch yn llawn yn mynd drosodd gyda 'mond lle i ddau arni. Aeth Dad a fi ymlaen efo'r bwyd ac yn y blaen, a Mam yn disgwyl ar y lan... am oriau! Fi a Dad efo’r bwyd a pob dim! Doedd Mam ddim yn rhy hapus ar ôl cyraedd yr ynys de! Ond gafon ni ddiwrnod anhygoel, llawn hwyl. Atgof bendigedig!
Mae’r daith 'da ni wedi bod ar fel perthynas yn anhygoel. Fyswn i ar goll heb Haf. Y noson gyntaf i mi gwrdd â Haf oedd mewn gig gwag Genod Droog. Neb yna heblaw Haf a'r trefnwyr!
'Nes i siarad efo hi a cyn mynd adra (o'n i’n sobr ac yn gyrru) o'n i 'di gweld rhif ffôn ar y bwrdd wrth ymyl lle oedd hi’n eistedd. Am ryw reswm o'n i'n meddwl mai ei rhif hi oedd o... i fi! Es i adra a tecstio. Troi allan mai rhyw foi randym oedd o! Pwy 'sa'n meddwl o’r noson yna y baswn i’n gwario gweddill fy mywyd efo’r ddynes anhygoel yma.
Wnaeth Mei arlunio’r llun anhygoel yma fel tâl am waith gwefan gan Andy Garside (un o fy ffrindiau eraill i). Dwi'n cofio'r tro cyntaf i Andy ddangos y llun i mi o'n i fel: “Os ti byth isho gwerthu hwna, tyrd ata fi gynta!”
Sbel yn ôl roedd Andy angen ei werthu o ac yn amlwg mi ges i o! Mae o 'di cymryd ei le yn anhygoel yn y stiwdio ac mae'n dyst i’r holl miwsig dwi’n ei greu (gan gynnwys yr albwm newydd “A.W.D.L”). Dwi wrth fy modd efo’r llun yma ac mae Mei yn seren wib fyd!