Ail-gartrefu gwenyn prin wrth adnewyddu plasty Pen Llŷn

Gwenyn Plas yn RhiwFfynhonnell y llun, Iolo Penri
  • Cyhoeddwyd

Mae 50,000 o wenyn gwyllt prin wedi cael eu symud o blasty hanesyddol ym Mhen Llŷn wrth i waith adeiladu gael ei gwblhau.

Mae'r gwenyn wedi eu symud dros dro o safle Plas yn Rhiw wrth i’r lle gael to newydd.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dechrau ail-doi Plas yn Rhiw, y tro cyntaf i waith o’r fath gael ei wneud yno ers mwy na 200 mlynedd.

Ond i gymhlethu pethau, roedd preswylwyr anarferol yn byw yn y to, ac roedd yn rhaid eu gwarchod.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwenyn mêl duon yn brin iawn, a'r gred oedd eu bod wedi diflannu o ogledd Prydain

Roedd pum haid – cyfanswm o oddeutu 50,000 o wenyn mêl duon Cymreig – yn byw yn nho’r adeilad.

Y gred oedd bod gwenyn mêl duon wedi diflannu o ogledd Prydain, ac eithrio’r ardaloedd mwyaf anghysbell, ond cawsant eu hailddarganfod yn 2012, yn cynnwys yng ngogledd Cymru.

Llwyddodd gwenynwyr i’w symud i gyd i gychod gwenyn gerllaw.

Hanes Plas yn Rhiw

Disgrifiad o’r llun,

Y chwiorydd Eileen, Lorna a Honora Keating a brynodd Plas yn Rhiw yn 1938

Mae adeilad a gerddi hardd Plas yn Rhiw yn olrhain i’r 17eg ganrif.

Adeiladwyd y to presennol ym 1820 pan aeth y Capten Lewis Moore Bennet ati i ailwampio ac ymestyn yr eiddo o ddau lawr i dri.

Mae’r plasty wedi goroesi dros y blynyddoedd yn sgil gwaith adfer gofalus a wnaed gan dair chwaer yn y 1930au, sef Eileen, Lorna a Honora Keating.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y chwiorydd wedi mynnu nad oedd neb i darfu ar y gwenyn gwyllt.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd y chwiorydd roi’r tŷ dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar yr amod y byddai’r gwenyn yn y to yn cael eu gwarchod.

Yng ngeiriau’r chwiorydd: “Ein dymuniad taer yw na ddylid tarfu ar y gwenyn gwyllt, peidio â chwistrellu unrhyw wenwyn rheoli pla, a chael cyngor ar sut i’w trin heb greu niwed iddynt."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r adeilad heb gael ei ail-doi ers 1820

Mae’r tywydd garw diweddar wedi golygu bod y to wedi dirywio a bod angen ei ail-wneud.

Bydd yn cael ei ail-doi fesul rhan, gan ail-ddefnyddio’r hen lechi pan fo modd yn ogystal â 4,000 o lechi Cymreig o Chwarel y Penrhyn.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwenynwyr yn dod â’r cychod gwenyn yn ôl i berllan Plas yn Rhiw, gan alluogi’r gwenyn i ddod o hyd i’w ffordd yn ôl i’w hen gartref yn y gwanwyn

Mae hi’n anarferol dod o hyd i wenyn mewn toeau ac mae hi’n fwy arferol gorfod gwneud darpariaethau ar gyfer ystlumod mewn hen dai.

Mae Plas yn Rhiw yn gartref i ystlumod lleiaf, ystlumod lleiaf uchelsain ac ystlumod barfog/Brandt, a chaiff y rhain hefyd eu gwarchod yn ystod y prosiect ail-doi.

Yn ddiweddarach yn y gwanwyn, bydd y gwenynwyr yn dod â’r cychod gwenyn yn ôl i berllan Plas yn Rhiw, gan alluogi’r gwenyn i ddod o hyd i’w ffordd yn ôl i’w hen gartref.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plas yn Rhiw yn gartref i ystlumod hefyd a bydd y rhain yn cael eu gwarchod yn ystod y gwaith

Dywedodd Mary Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Eiddo ym Mhlas yn Rhiw: “Gwyddom fod y chwiorydd Keating yn hoff iawn o natur a bywyd gwyllt, oherwydd fe wnaethon nhw ymgyrchu’n ddiflino i amddiffyn yr amgylchedd.

"Mae Plas yn Rhiw yn hafan i fywyd gwyllt.”

Pynciau cysylltiedig