Erw Goch: Gwrthod ymgais i rwystro statws maes pentref
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi gwrthod cais i rwystro cae ar gyrion Aberystwyth rhag cael ei droi yn faes pentref (village green).
Mae pobl leol wedi ceisio sicrhau dynodiad o'r fath i atal cynlluniau Cyngor Ceredigion a Wales and West Housing i godi dros 70 o dai ar gae Erw Goch uwchlaw pentref Llanbadarn Fawr.
Mewn adroddiad i'r cyngor ddydd Iau dywedodd bargyfreithiwr annibynnol bod y "dibenion addysgol" a nodir yn y cais maes pentref yn anghydnaws â defnydd maes pentref y dref, ac felly na ddylai ei ddynodi felly.
Ond fe bleidleisiodd pob un o’r 27 cynghorydd yn erbyn argymhelliad i dderbyn adroddiad y bargyfreithiwr.
Er nad yw'n golygu fod y cais am statws maes pentref wedi ei gymeradwyo chwaith, yn ystod y cyfarfod fe wnaeth dau aelod - Elizabeth Evans a Gareth Davies - alw am ymchwiliad cyhoeddus.
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
Mae’r cyngor, sydd yn berchen ar y tir, wedi cyflogi cyfreithiwr allanol i frwydro yn erbyn y cais i ddynodi'r tir fel maes pentref.
Maen nhw'n honni bod yna anghydnawsedd statudol yn y cais, gan fod y tir wedi ei ddynodi fel man i'w ddatblygu ar gyfer pwrpas addysgol.
Ond mae grŵp ymgyrchu lleol yn credu mai ymgais i dwyllo cynghorwyr yw'r ddadl honno.
Mae'r ymgyrchwyr yn dadlau bod y tir wedi cael ei adael i'r gymuned gan y ffermwr oedd yn byw yno yn y 1960au, ac mai'r bwriad oedd ei ddefnyddio ar gyfer defnydd lleol ac nid i'w ddatblygu.
Ond ar hyn o bryd dim ond tystiolaeth lafar y bobl leol sydd ganddyn nhw i brofi hyn.
Yn ôl Sian Elin Richard, sydd wedi cyflwyno’r cais i droi’r cae yn faes pentref, mae’r darn o dir yn cael ei ddefnyddio yn gyson gan y gymuned.
"Mae’r plant yn chwarae pêl-droed, fi wedi gweld plant yn chwarae tenis, criced, golff.
"Mae pobl yn mynd rownd ochr y cae ar eu beics, mae pobl yn cerdded cŵn.
"Fi 'di gweld pobl yn hela mwyar mewn ‘na, neu bobl jest yn mynd am wâc fach," meddai.
Ychwanegodd Ms Richard: "Y broblem s'da ni yw bod y cyngor wedi cael bargyfreithiwr i weithio drostyn nhw, a'r rheswm mae'r bargyfreithiwr yn dweud nad y'n nhw’n gallu cymeradwyo’r cais yw oherwydd statutory incompatibility.
"Y rheswm dros hynny, yw bo' nhw’n dweud bod ganddyn nhw'r cae ac mae'r cyngor yn dal i gadw’r cae o ran pwrpas addysgiadol, ond ry'n ni'n gwybod bod yr un cae ar y cynllun datblygu lleol er mwyn adeiladu tai.
"Beth y’n ni'n ofni, yw os y’n nhw’n dweud na i'r cais maes pentref, byddan nhw wedyn yn adeiladu tai.
"O'n ni'n teimlo os taw na yw'r ateb i'r cais am faes pentref achos bod nhw moyn cadw fe am bwrpas addysgol, pam nad yw'r ddadl 'na yn mynd 'mlaen o ran chi ddim yn gallu adeiladu tai ar y cae?"
Nid oedd Cyngor Ceredigion am wneud sylw ar y mater.
Pwnc 'emosiynol'
Yn ôl cadeirydd y cyfarfod ddydd Iau, y cynghorydd Maldwyn Lewis, mae’r mater yn un “emosiynol” iawn.
Anogodd ei gyd-gynghorwyr i bleidleisio’n deg: “Mae angen i ni edrych ar y ffeithiau o’n blaenau, nid yw’n seiliedig ar beth os neu beth all fod, ond y ffeithiau o’n blaenau.”
Yn ôl y cynghorydd dros Lanbadarn Fawr Gareth Davies mae’r cae yn gwella ansawdd bywyd, diogelu bioamrywiaeth ac yn ardal i gael seibiant.
Fe ddwedodd wrth y cyfarfod: “Mae’r tir yma yn cyflawni’r holl bethau yma. Maen ‘na ddigon o fywyd gwyllt, digon o flodau a gwair sy’n cefnogi bioamrywiaeth.”
Roedd Mr Davies yn galw am archwiliad cyhoeddus “i sicrhau tegwch.”