Crosio yn rhoi croeso yng Nghricieth
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Merched Cricieth yn crosio a gwau
Ers 2020 mae merched Cricieth wedi bod yn addurno’r dref.
O dopiau blychau post i goed Nadolig… mae gwaith crosio o bob math yn rhoi lliw i strydoedd Cricieth.
Un sy’n crosio gyda’r grŵp Cricieth Creadigol yw Catrin Jones.
Mae Catrin yn dod o’r Tymbl yng Nghwm Gwendaeth yn wreiddiol. Symudodd hi i Gricieth 11 mlynedd yn ôl.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda hi.

Mae Catrin Jones a'r merched yn creu pob math o waith
Pryd a pham wnaeth Cricieth Creadigol gychwyn y clwb crosio?
Cychwynnodd y gwaith crosio a gwau yn gynnar yn 2020. Roedden ni eisiau crosio a gwau pabis coch ar gyfer Dydd y Cofio.
Roedd yr ymateb yn wych ac roedden ni’n cyfarfod bob wythnos i grosio.
Wedyn, daeth y pandemig. Roedd yn rhaid i ni addasu’n gyflym a chrosio a gwau o gartref.

Ar ôl Covid, fe wnaeth y gantores Gwyneth Glyn wisgo'r Fantell o Flodau
Fe wnaeth Susan Humphries wnïo'r gwaith at ei gilydd i greu Mantell o Flodau.
Roedd y fantell yn cynnwys 5,000 o babis wedi eu gwneud gan wirfoddolwyr.
Doedden ni ddim yn gallu dangos y fantell yn y Neuadd Goffa oherwydd Covid. Yn lle, wnaethon ni rannu llun ar y we. Cafodd y llun ei rannu ar draws y byd.
Ar Sul y Cofio 2020, roedd yn ffordd addas i gofio am y rhai a gollwyd yn ystod y ddau Ryfel Byd a’r pandemig.
Ers hynny, 'dan ni'n mynd o nerth i nerth!

Castell Cricieth a'r traeth ar flwch post yn y dref
Beth arall ydych chi wedi ei greu?
'Dan ni wedi creu dau dapestri lliwgar o’r dref sy’n cynnwys gwau, crosio, ffelt a gwnïo.

Rhai o'r merched gyda thapestri o'r dref
Hefyd, topiau blychau post lliwgar.
Mae un o’n topiau blwch post, Brian o’r Bâd Achub, sy’n deyrnged i’r RNLI, wedi cyrraedd miliynau ledled y byd drwy Facebook UK Postbox Toppers.
Brian nid David Lloyd George sy’n rhoi Cricieth ar y map y dyddiau hyn!

Margaret Rees wnaeth weu Brian
Wnaethon ni greu llawer o bethau gan gynnwys draig goch i groesawu pobl i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Wnaeth plant lleol greu cannoedd o pom poms ar gyfer y ddraig.
Ar gyfer dathliadau Nadolig 2023 wnaethon ni grosio wyth o goed Nadolig. Roedden nhw i’w gweld o amgylch y maes.

Y coed Nadolig ar y maes
Beth ydych chi’n ei grosio ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd 'dan ni'n gwau a chrosio bunting a topiau blychau post i ddathlu 200 mlwyddiant yr RNLI.
'Dan ni hefyd yn crosio llawer o flodau lliwgar i greu Blodeuwedd [cymeriad mewn hen chwedl].
Mae hynny ar gyfer dathlu 100 mlynedd ers i’r Neuadd Goffa agor.

Crosio blodau i greu Blodeuwedd
Pwy wnaeth eich dysgu chi i grosio?
Fy niweddar fam, Alvis, wnaeth fy nysgu i grosio a gwau pan oeddwn i'n blentyn.
Dw i’n cofio’r ffrogiau a’r ponchos amryliw wnaeth hi grosio i mi a fy chwaer Mari yn y 70au.
Dw i’n cofio bod yn falch iawn bod fy mag crosio coch, gwyn a gwyrdd wedi ennill cystadleuaeth yn eisteddfod yr ysgol hanner canrif yn ôl!

Catrin (dde) a'i chwaer yn gwisgo'r ffrogiau crosio i barti pen-blwydd ei Mam-gu yn 80
Beth yw eich hoff ddarn o waith crosio gan Cricieth Creadigol?
Mae’n anodd dewis un darn o waith ond dw i’n dewis Y Fantell o Flodau.
Dyma’r gwaith cyntaf wnaethon ni ac roedd yn gyfnod anodd i bawb.
Mae’n symbol o gariad, o golled, ond hefyd o gryfder.
Cafodd y fantell ei harddangos yn Y Senedd ym mis Tachwedd 2022. Aeth Tywysog Cymru yno i’w weld.
Bydd y fantell mewn ffenest siop yn Carentan yn Normandi ar 6 Mehefin er mwyn cofio D Day.

Catrin Jones yn Y Senedd gydag Eluned Morgan
Geirfa
addurno/decorate
topiau blychau post/post box toppers
crosio/to crochet
Dydd y Cofio/Remembrance Sunday
ymateb/response
Neuadd Goffa/Memorial Hall
addasu/adapt
gwau/knit
Mantell o Flodau/Blanket of Flowers
gwirfoddolwyr/volunteers
addas/suitable
y rhai a gollwyd/those who were lost
o nerth i nerth/from strength to strength
gwnïo/sew
croesawu/to welcome
lleol/local
dathliadau/celebrations
maes/town square
cymeriad/character
chwedl/legend
diweddar Fam/late mother
amryliw/multicoloured
hanner canrif/half-century
colled/loss
cryfder/strength
arddangos/display
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2024