Pump yn yr ysbyty ar ôl tân mewn llety myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae pum person yn cael triniaeth ysbyty ar ôl tân mewn llety myfyrwyr yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bloc Tŷ Ddewi yng nghanol y ddinas toc wedi 19:00 nos Lun.
Roedd yn rhaid i dros 100 o bobl adael yr adeilad, yn ôl y gwasanaeth tân.
Ychwanegon nhw bod angen achub tri myfyriwr drwy ffenestri'r llawr gwaelod ble gychwynnodd y tân - ni ledodd y tân ymhellach na'r llawr gwaelod.
Cafodd y pedwar myfyriwr ac un aelod o staff eu cludo i'r ysbyty yn sgil mân anafiadau ac effeithiau anadlu mwg.
Cafodd naw criw tân eu galw i'r safle ac roedd y tân wedi ei ddiffodd erbyn 21:02.
Dywedodd llefarydd ar ran Student Roost, sy'n rhedeg llety Tŷ Ddewi, fod pawb yn y fflatiau "wedi'u hadleoli naill ai mewn lle arall ym mloc Tŷ Ddewi neu lety myfyrwyr lleol".
Bydd ymchwiliad tân yn cael ei gynnal yn ystod y diwrnodau nesaf, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.