Cadw Plas Tan-y-Bwlch am y tro a'i drafod eto ym Medi
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu cadw Plas Tan-y-Bwlch ym Maentwrog fel y mae am y tro gan drafod ei ddyfodol eto ym mis Medi.
Fore Mercher bu aelodau'r awdurdod yn trafod dyfodol y safle, sy'n ganolfan astudiaeth a chyn-blasty nodedig, ar ôl cydnabod nad oes modd iddynt ei reoli "yn fasnachol hyfyw".
"Fe fyddwn i," medd llefarydd wedi'r cyfarfod, "yn parhau â'r model busnes presennol am gyfnod nes y gall yr awdurdod ystyried eu hopsiynau ar reoli Plas Tan-y-Bwlch yn y dyfodol yn ffurfiol."
Roedd y plasty gwledig yn gartref i deulu'r Oakeleys, sef perchnogion chwareli yn yr ardal, cyn cael ei drawsnewid yn ganolfan sy'n cynnig ystod o gyrsiau preswyl i ysgolion ac aelodau o'r cyhoedd.
Ond er yn weithredol ers bron i 50 mlynedd mae swyddogion yn dweud bod y degawd diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol, gan nodi ffactorau fel chwyddiant, canlyniadau'r pandemig a llymder.
Gyda'r esgid yn gwasgu maen nhw o'r farn "na ellir datblygu busnes hyfyw" o dan reolaeth uniongyrchol yr awdurdod, ac am ystyried trosglwyddo rheolaeth y ganolfan neu hyd yn oed ei werthu yn ei gyfanrwydd ar y farchnad agored.
'Adnodd amhrisiadwy'
Yn ogystal â bod yn adeilad rhestredig Gradd II, mae'r ystad ym Mhlas Tan-y-Bwlch hefyd wedi ei gofrestru yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Bu'r Oakeleys - un o'r pedwar prif deulu oedd yn berchen ar chwareli'r gogledd-orllewin - yn byw yn y plas am flynyddoedd lawer, gan olynu'r teuluoedd Evans a Griffith a adeiladodd stad fawr yn yr ardal yn yr 17eg a'r 18fed ganrif.
Daeth i berchnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 1975 fel Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol, ac erbyn hyn mae'n cynnig 27 ystafell wely ac adnoddau cynadledda.
Roedd Twm Elias ynghlwm â'r ganolfan fel darlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch am 35 mlynedd rhwng 1979 a 2014.
Yn ei disgrifio fel "oes aur" y plas, dywedodd: "Roeddan ni'n cynnal cyrsiau i bobl oedd yn dod i Eryri - ysgolion lleol a'r gymuned leol, yn ogystal â phobl o'r tu allan - i werthfawrogi mwy am dreftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
"Roedd gen ti gymaint o bobl yn dod i gerdded y mynyddoedd ond yn gwybod ac yn dysgu dim am y dreftadaeth ddiwylliannol, felly mae 'na fwlch mawr yna, a'n gwaith ni yn y plas oedd cyflwyno mwy am y bywyd gwyllt, yr archaeoleg a'r hanes cyfoethog yma."
Yn ogystal â gwahodd ysgolion ledled Cymru i ddysgu am yr ardal a'i thrysorau, dywedodd fod cynnig hyfforddiant proffesiynol i staff cefn gwlad yn rhan annatod o waith y plas.
"Mae rheoli cefn gwlad a'r amgylchedd yn faterion eithaf technegol, a roedden ni'n cael arbenigwyr i fewn i roi hyfforddiant penodol ar wahanol agweddau o reolaeth ymarferol a chyfraith cefn gwlad," meddai Twm Elias.
"Roedden ni'n mynd ar draws sawl sbectrwm ac yn cyflawni pwrpas addysgiadol y parc drwy'r amrywiaeth arbennig hwnnw."
Serch hynny, dywedodd tra bod y cyrsiau a'r gweithgareddau "wedi dal eu tir tan y cyfnod o gynni a thoriadau i gyllid parciau cenedlaethol", yr hoffai weld y plas yn parhau i'r perwyl hwnnw.
"Mae'n adnodd hollbwysig yn cyflawni amcanion addysgiadol y parc a'r maes gwasanaeth, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg, yn amhrisiadwy.
"Yn yr 80au a'r 90au roedd y plas yn fath o ffatri gymdeithasau. Allan o'r cyrsiau fe gododd sawl cymdeithas newydd."
'Defnydd y plas wedi newid'
Ond yn ôl adroddiad a gafodd ei drafod gan aelodau o'r awdurdod ddydd Mercher, "er fod aelodau eisiau gweld y plas yn ffynnu... nid yw'r awdurdod yn gallu gwneud hynny".
"Mae'r bwrdd yn derbyn na all y plas weithredu fel canolfan astudio amgylcheddol gan fod y ddarpariaeth ar gyfer cyrsiau o'r fath wedi newid yn sylweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, gyda symudiad sylweddol oddi wrth gyrsiau preswyl wythnos o hyd.
"Mae calendr y plas yn cadarnhau hyn."
Yr argymhelliad oedd i ystyried gwahodd diddordeb partneriaid allanol i'w reoli neu ei gynnig ar y farchnad agored i ddarpar brynwyr.
Yn ôl prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mae "defnydd y plas wedi newid dros y blynyddoedd", ac mae "costau cynnal a chadw sylweddol" ar yr adeilad.
Dywedodd Emyr Williams fod Parc Cenedlaethol Ardal y Copaon eisoes wedi cau canolfan cyffelyb oherwydd fod y busnes yn lleihau.
"Hyd at 10 mlynedd yn ôl roedd 'na lot o gyrsiau yn cael eu rhedeg yma," meddai.
"Ond mae cyflogwyr wedi newid y ffordd maen nhw eisiau addysgu eu staff felly mae'r galw am le i aros a chael cwrs wedi disgyn, felly mae defnydd y plas wedi symud i ffwrdd o hynny.
"Mae'r plas yn le arbennig ond mae'r wasgfa, byw drwy Covid a rŵan costau chwyddiant yn rhoi pwysau a 'da ni'n gorfod sbïo yn ofalus iawn ar be allwn gyflawni.
"Gafon ni adroddiad Archwilio Cymru yr haf diwetha' yn gofyn i ni sbïo ar faint mae'n gostio i redeg ac ydi o'n cyflawni pwrpasau'r parc cenedlaethol.
"'Da ni wedi mynd trwy'r ymarferiad yna a dod i'r casgliad fod angen i ni ail edrych."
Gan gydnabod fod oblygiadau posib i'r 10 aelod o staff sy'n gweithio ym Mhlas Tan-y-Bwlch, ychwanegodd: "Y bwriad ydi trosglwyddo fel busnes, a byddwn yn ffafrio hynny, ond os fyddwn yn methu mi fydd oblygiadau staff.
"Mae'r staff yn gefnogol iawn i gael rhywun yn ei redeg fel busnes.
"Yn ddelfrydol byddwn yn cael partner lleol ond dydy'r achos busnes i redeg o fel lle i aros a chyfarfod ddim digon agos bellach i bwrpasau parc cenedlaethol."
Bydd y mater yn cael ei drafod nesaf ym mis Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023