Hanes boddi Tryweryn: 'Nid pawb sy'n cofio 'run fath'
- Cyhoeddwyd
Pwt o wal, swp o gerrig a'r ddau air 'na - Cofiwch Dryweryn - sydd yno erbyn hyn.
Mae'n teulu ni wedi tynnu sawl hunlun yno ar hyd y blynyddoedd ond holwch Mam ac fe gewch chi hanes mwy na wal.
Dyma lle byddai Mam yn sefyll bob bore i ddal y bws i'r ysgol.
Fe fyddai Mamgu'n sefyll yn y drws yn gweld y bws yn dod o bell o gyfeiriad Llanrhystud ac yna Mam yn sgrialu dringo i ben y cae i gyrraedd y ffordd fawr mewn pryd.
Bryd hynny, nid wal ond pâr o fythynnod gwyngalchog oedd ar fin y ffordd gyda tho gwellt, simne ar un pen a "thwll y mwg" y pen arall.
Teulu'r Mitchells oedd yn byw yn y naill, a John Griffiths a'i chwaer Winnie yn y llall, sef Troed y Rhiw.
Byddai John yn helpu ar fferm Mamgu a Dadcu, Glancarrog, yno bob dydd yn gwneud mân waith yn ôl y galw.
Daeth i fyw i Panteg, tŷ oedd ar dir y fferm a dyna egluro sut mae'r dreser blaen, fu unwaith yn sefyll rywle y tu ôl i wal 'Cofiwch Dryweryn', bellach yng nghartref Mam a Dad.
Fe ges i ngeni yn y flwyddyn y boddwyd Capel Celyn.
Byddwn i a 'mrawd wedi clywed stori Tryweryn droeon yn blant, yn yr ysgol, ar yr aelwyd, a chyd-destun y stori yn gwbl glir: bod yma gymuned Gymraeg ei hiaith wedi'i chwalu i ddiwallu angen dinas dros y ffin yn Lloegr am ddŵr.
Oedd, roedd y ffaith bod Lerpwl yn Lloegr yn rhoi blas cryfach ar y stori, bod Cymru wedi'i hanwybyddu am fod gan Loegr, y cymydog grymus, fwy o hawl ar benderfyniadau na ni.
O'r dechrau felly, dwi'n rhoi 'nghardiau ar y bwrdd yn y podlediad, 'Drowned - The Flooding of a Village'.
Nid hanes oeraidd, di-duedd oedd Tryweryn yn y tŷ na'r 'stafell ddosbarth. Anghyfiawnder oedd y wers, a'r anogaeth yno i 'gofio'.
Ond os cofio, derbyn nad pawb sy'n cofio 'run fath.
Wrth baratoi'r podlediad am stori Tryweryn, a'r degawdau o brotest ddaeth wedyn, roedd hi'n werth gwrando o ddifri ar y rheiny oedd yn ei chanol hi, yng Nghymru ond hefyd yn Lerpwl a thu hwnt.
Roedd gwerth mynd i'r archif yn Kew ac yn Lerpwl a dod i ddeall bod 'na rannau o'r stori lle mae 'na beryg i ramant foddi ffeithiau, boddi ambell wirionedd sy'n anos eu treulio ond yn werth eu cofio.
"Mae 'na beryg weithiau i ffeithie droi'n fytholeg," meddai Emyr Llywelyn, un o'r tri blannodd y ffrwydron ar safle'r gronfa ym 1963. Nid dyna mae e am ei glywed.
Fe ddysges i rywbeth tra'n gwerthfawrogi teilsen o frig to roedd Gwern, ŵyr bach Aeron Prysor Jones fagwyd yng Nghapel Celyn, wedi'i gario bob cam o lawr y cwm yn ystod y cyfnod sych llynedd i ddangos i'r teulu.
Roedd Gwern yn gwybod bod y trip ysgol hwnnw yn un o bwys mawr i'w daid.
Ar yr un pryd, doedd dim byd fel sgwrsio gydag Ian Cox - gollodd ran o'i goes yn fachgen ar ôl i fom ffrwydro'n ddi-rybudd yng Nghaernarfon wedi arwisgo Tywysog Cymru ym 1969 - i atgoffa rywun bod angen gwrando'n astud ar bawb sy'n rhan o stori protest wleidyddol yma yng Ngymru.
Ac wrth i ddosbarth o blant lleol ddod ar drip i'r archifdy yn Lerpwl tra mod i yno'n gweithio, dyna i chi eiliad arall o sylweddoli bod hanes Tryweryn yn perthyn i'w dinas nhw, fel mae'n perthyn i Gwern a'i daid.
Gyda llaw, diolch i'r hanesydd Wyn Thomas sydd ar fin cyhoeddi llyfr sy'n treiddio'n ddyfnach na neb i stori a dylanwad Tryweryn, "Tryweryn, a new Dawn?" fe ddysges i lawer, ond dyma i chi ddau beth.
Yn gynta, bod y cyfansoddwr caneuon Syr Richard Stilgoe - wyneb amlwg ar deledu ar hyd y degawdau ac awdur geiriau amryw o fiwsicals enwog y West End - yn fab i John Stilgoe, Prif Beiriannydd Dŵr Lerpwl pan foddwyd Capel Celyn.
Mae gan Syr Richard farn glir ar bwysigrwydd adrodd yr hanes yn gytbwys.
Roedd 'the greater good' yn teimlo'n wahanol iawn os oeddech chi'n ninas Lerpwl, neu yn Nhryweryn, meddai - ond roedd e'n bod.
Cyfle i adrodd y stori i'r byd
Ac fe ddysges hefyd nad yw hanesydd fel Wyn Thomas yn ddi-emosiwn wrth adrodd yr hanes, er iddo dreiddio i ganol dogfennau ac archifau a chyfweliadau lu ar hyd y blynyddoedd i sicrhau bod tystiolaeth gadarn a thegwch yn sail i'w waith ar hanes protest wleidyddol.
Mae'n byw bellach wrth droed mynydd Epynt ac fe'i maged yn fab i blismon fyddai'n mynd allan ym mherfeddion nos gyda fflachlamp ar batrôl rhag ofn bod ffrwydron wedi'u plannu ar bibellau dŵr y canolbarth.
Mae gan Wyn gof plentyn o ofid ei fam y byddai'n magu ei meibion heb ei gŵr pe na fyddai'n dod adre.
Yr effaith mae hanes yn ei gael ar bobl go iawn sydd yn ei ysgogi hyd y dydd heddiw, gan gynnwys pobl Capel Celyn.
Mae 'na ddigon i'w ddweud, a chyfle i gynulleidfa fyd-eang sy'n gwybod dim oll am y stori, am Gymru, i wrando ac i glywed y Gymraeg.
A dyna lle bydd stori'r podlediad yn gorffen - heddiw.
Ry'n ni'n genedl sy'n cofio Tryweryn ac yn dathlu ein bod ni 'Yma o Hyd'. Beth wnewn ni â'n hunaniaeth a'n Senedd a'n grymoedd cyfansoddiadol nawr felly? Pa stori am Gymru ry'n ni am ei hadrodd ac ymhen trigain mlynedd, ei chofio?
Gwrandewch ar Drowned: The Flooding of a Village ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2019