Gething yn ad-drefnu ei lywodraeth wedi ymddiswyddiadau
![Vaughan Gething](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/d351/live/a18d2a20-446a-11ef-96a8-e710c6bfc866.jpg)
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi ad-drefnu cabinet Llywodraeth Cymru.
Daw'r ad-drefnu ar ôl i bedwar aelod blaenllaw o'i gabinet ymddiswyddo fore Mawrth.
Yn sgil hynny dywedodd Mr Gething y bydd yn ymddiswyddo.
Eluned Morgan sy'n gyfrifol am y Gymraeg.
Mae Jack Sargeant wedi cael ei wneud yn weinidog partneriaeth gymdeithasol, tra bod Sarah Murphy yn symud i fod yn gyfrifol am iechyd meddwl a blynyddoedd cynnar.
Bydd Ken Skates yn dod yn ysgrifennydd economi, tra bod Jayne Bryant yn cael ei dyrchafu’n ysgrifennydd dros lywodraeth leol.
![Jeremy Miles, Julie James, Mick Antoniw a Lesley Griffiths](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/b80e/live/e9a09b90-4464-11ef-b74c-bb483a802c97.jpg)
Y pedwar aelod o'r llywodraeth a ymddiswyddodd fore Mawrth - Jeremy Miles, Julie James, Mick Antoniw a Lesley Griffiths
Y pedwar aelod a gyhoeddodd ddydd Mawrth eu bod yn gadael y llywodraeth oedd Julie James, Lesley Griffiths, Jeremy Miles a'r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw.
Cyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y byddai'n "dechrau'r broses o gamu i lawr" fel arweinydd Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.
Does dim manylion hyd yma am y ras i'w olynu.
Mae BBC Cymru'n deall fod Jeremy Miles - y dyn a ddaeth yn ail o drwch blewyn i Mr Gething yn yr ornest ychydig fisoedd yn ôl - yn debygol o ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru unwaith eto.
Ond mae un o'r enwau sydd wedi eu crybwyll, y cwnsler cyffredinol Mick Antoniw, wedi cadarnhau nad yw'n bwriadu ymuno â'r ras.
Y llywodraeth yn llawn
Ysgrifennydd Cyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet - Rebecca Evans
Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd Addysg - Lynne Neagle
Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai - Jayne Bryant
Ysgrifennydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg - Eluned Morgan
Ysgrifennydd Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru - Ken Skates
Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip - Jane Hutt
Gweinidog Gofal Cymdeithasol - Dawn Bowden
Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol - Jack Sargeant
Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar - Sarah Murphy
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024