Gwaith adfer i 'sicrhau dyfodol' cloc Rhuthun
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith adfer "sylweddol" am ddechrau ar un o dirnodau mwyaf adnabyddus Rhuthun yn dilyn ymgyrch leol.
Mae cloc y dref - Cofgolofn Peers yw ei enw swyddogol - wedi sefyll yng nghanol Sgwâr San Pedr ers 1883.
Nad oes gwelliannau wedi bod i'r adeilad Gradd II "ers o leiaf 50 mlynedd" ac o ganlyniad "mae darnau o gerrig wedi disgyn i ffwrdd a phlanhigion yn tyfu allan ohono" erbyn hyn.
Ond nawr, ar ôl i bwyllgor adfer gael ei sefydlu gan aelodau o'r gymuned oedd yn pryderu am gyflwr y cloc yn 2021, mae gwaith ar y gweill o'r diwedd i "sicrhau ei ddyfodol".
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Awst,ac mae disgwyl iddo bara am gyfnod rhwng wyth a 12 wythnos, yn ôl ysgrifennydd y pwyllgor adfer, Rob Price.
Bydd sgaffaldiau o gwmpas y cloc yn ystod y cyfnod hwnnw, meddai, ond ni fydd effaith ar y lôn gerllaw.
"Mae 'na dipyn o waith angen ei wneud arno fo a fydd rhaid iddo fo gael ei gwblhau erbyn mis Hydref oherwydd y tywydd," dywedodd.
"Mae'r gwaith cerrig angen ei atgyfnerthu, mae 'na blanhigion yn tyfu allan ohono fo, mae angen ail-wneud y mecanwaith tu fewn i'r cloc a'r deialau - dyna'r prif bethau.
"Mae fumes exhaust ceir wedi achosi difrod hefyd, coelio neu beidio.
"Bydd y cafn ar flaen y cloc yn cael ei droi fewn i fainc hefyd."
Bydd y gwaith yn costio o gwmpas £140,000, gan ddefnyddio arian o nawdd i'r cyngor dref, Cronfa Fferm Melin Wynt Clocaenog a'r cyngor sir, a gafodd £10.95 miliwn o'r Gronfa Ffyniant Bro yn 2023.
"Achos does dim byd mawr wedi cael ei wneud iddo ers dros hanner can mlynedd mae o angen dipyn o sylw ŵan i fod yn iawn am hanner can mlynedd arall," meddai Rob Price.
Mae'r pwyllgor adfer yn gobeithio y bydd y gwaith - a fydd yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ddinbych, sy'n berchen ar yr adeilad - yn sicrhau dyfodol y cloc ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae o 'di bod yna am 150 mlynedd," meddai Mr Price.
"Mae o reit yn ganol y dre' ar y sgwâr - mae pobl yn cerdded heibio o hyd.
"Wnaeth y cloc stopio ychydig o wythnosau'n ôl ac oedd pawb yn holi amdano fo - mae pobl wedi tyfu fyny o gwmpas o.
"Mae o just angen sylw i wneud siŵr fod o'n parhau mewn cyflwr go lew am y degawdau i ddod."
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023