Ymgyrch i adnewyddu un o adeiladau hanesyddol Caerffili
- Cyhoeddwyd
Ganrif ers ei agor, mae cynlluniau ar y gweill i drawsnewid un o adeiladau hanesyddol tref Caerffili.
Fe agorodd drysau Neuadd y Gweithwyr yn 1925, ac mae grŵp cymunedol wedi'i sefydlu i geisio datblygu'r adeilad yn ganolfan ddiwylliannol.
Mae cwmni Cynefin Caerffili yn gofyn am farn pobl leol ynglŷn â'r cynllun i droi Neuadd y Gweithwyr yn lleoliad ar gyfer y celfyddydau, diwylliant ac adloniant.
Cyfle i blant a phobl ifanc
Mae'r cynllun yn cael ei arwain gan gwpl o Gaerffili sy'n berchen ar stiwdio greadigol yn y dref.
Mae Ceri ac Emlyn Davies wedi creu fidoes ar gyfer grwpiau byd enwog fel Foo Fighters, ac wedi gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol fel Levi's a Volvo.
"Da ni eisiau rhoi'r neuadd yn ôl fel yr oedd e," meddai Emlyn Davies, "er mwyn i bobl i ddod mewn ac i greu, i wneud gweithgareddau celf, ac i weld sioe neu ffilm."
Cafodd ei ysbrydoli i fod yn rhan o'r cynllun er mwyn rhoi cyfleoedd i'w blant ei hun.
"Mae gen i dri phlentyn o saith i 15 oed a does dim lot i neud yn y dref - yn enwedig yn y nos, felly dwi eisiau lle iddyn nhw ddod a gwneud gweithgareddau newydd - i wneud perfformiadau, i wneud celf," meddai.
Mae'r cynllun ar gyfer Neuadd y Gweithwyr wedi'i gynnwys yn rhan o brosiect adfywio Tref Caerffili 2035 gan yr awdurdod lleol.
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
Eisoes mae na groeso gan aelodau o'r gymuned leol.
"Fel athrawes yn yr ysgol gynradd Gymraeg leol, bydd cael lle fel hwn mor hanfodol i'r gymuned," meddai Ella Jones.
"Mae lle fel hwn yn bennaf jyst yn agor mwy o gyfleoedd yn enwedig i blant ifanc ddod i drio pethau newydd - boed e'n gerddoriaeth, dawnsio, celf.
"Mae jyst yn rhoi nifer o gyfleoedd iddyn nhw."
Ychwanegodd Ella Jones y byddai cael y fath gyfleoedd yn lleol yn "wych" ac yn gyfle i "hybu'r iaith yn y gymuned".
'Hanes yr adeilad yn annog angerdd'
Arian y gweithwyr dalodd am adeiladu'r neuadd ynghanol Caerffili ganrif yn ôl, fel mewn nifer o drefi eraill yng Nghymru.
"Yr eiliad ry'ch chi'n cerdded mewn i'r lle ma, yn gweld y bensaernïaeth, mae'n rhoi angerdd i chi," meddai un o ymddiriedolwyr y neuadd, Paul Pole.
Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal yn y neuadd ar hyn o bryd, gan gynnwys grwpiau roc, cerddorion, a dramâu lleol.
"Ry'n ni wedi bod yn llwyfannu dramâu am ddim i ysgolion, ac mae rhai o'n hardaloedd ni ymhlith y mwya difreintiedig yng Nghymru," meddai Paul Pole.
"Pan y'ch chi'n gweld plant ifanc yn neidio lan a lawr yn mwynhau eu hunain mae'n wych."
Gobaith cwmni cymunedol Cynefin Caerffili yw datblygu'r safle ymhellach, gan droi at ffynnonellau ariannol gwahanol fel y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru am gymorth.