Crydd yn ymddeol wedi 70 mlynedd o drwsio esgidiau

Glyn Owen y tu allan i'w siop yng Nghonwy ble mae wedi gweithio ers 40 mlynedd
- Cyhoeddwyd
"Mae fy nyddiau o drwsio esgidiau o bob math wedi dod i ben."
Dyna eiriau Glyn Owen wrth iddo gau drws ei siop yng Nghonwy am y tro olaf.
Mae Mr Owen yn wyneb cyfarwydd iawn yn y dref, a'i boblogrwydd yn amlwg.
Wrth siarad gyda Cymru Fyw yn ei siop fechan o fewn waliau'r castell, daeth dwsinau o bobl i mewn gyda chardiau ac anrhegion i ddymuno'n dda iddo.
Dyna mae cadw siop mewn tref fechan am 40 mlynedd yn ei olygu, a sawl un yn pwysleisio faint o golled bydd ar ei ôl.
"Hen grefft yw hi sy'n prysur farw," medd Mr Owen, sy'n 85 oed eleni, ac mae wedi bod wrthi'n trwsio esgidiau ers 70 mlynedd pan drodd yn brentis ifanc yn 15 oed.

Fe ddechreuodd Glyn drwsio esgidiau fel prentis ifanc 15 oed, 70 mlynedd yn ôl
Er i Mr Owen gael ei fagu y tu allan i waliau castell Conwy, fe ddechreuodd drwsio esgidiau'n ifanc iawn, yn ffatri Haddons yng Nghyffordd Llandudno.
Cafodd swydd wedyn yn Llandudno cyn symud i fyw i Awstralia yn trwsio esgidiau yn 1966.
"Nes i fyw yn Sydney am flwyddyn ac roedd fy rheolwr mor hapus efo'r gwaith nes iddo adael fi yn y gweithdy i weithio ar ben fy hun am flwyddyn gyfan," meddai.
Ar ôl dychwelyd i Gymru, roedd yn yn awyddus iawn i agor siop yn ei dref endigol.
"Roedd Conwy wastad yn agos at fy nghalon, felly ro'n i eisiau agor siop yma.
"Mae'n anodd credu bod 40 mlynedd wedi mynd heibio, ond mae cymaint wedi newid.
"Un o'r pethau amlycaf ydi safon esgidiau y dyddia yma, mae posib prynu esgidiau rhad heddiw sy'n costio llai na'r gost o'u trwsio nhw.
"Roedd cyfnod y stilettos yn un prysur iawn i mi.
"Sawl un yn dod yma i drwsio stiletto ar ôl iddyn nhw dorri, yn enwedig yma ar strydoedd anwastad Conwy," meddai.

Mae rhai o beiriannau Glyn yn 70 oed
Parhaodd Glyn i weithio yn y ffordd draddodiadol o drwsio esgidiau fel y cafodd ei ddysgu.
Doedd dim un peiriant modern i'w weld yn ei siop, ond yn hytrach, un 70 mlwydd oed gyda'r motor yn parhau i weithio'n berffaith.
"Mae'n well gen i weithio fel hyn gan mai dyma'r cyfan dwi'n ei wybod.
"Dwnim faint o esgidiau sydd wedi cael eu trin gan y peiriannau yma, ond siŵr gen i fod o'n filoedd," meddai.
Yn ogystal â thrwsio esgidiau roedd 'na ambell i fag llaw yn dod i mewn i'r siop hefyd.
Roedd cyfnod yn y 1970au ble roedd Glyn yn trwsio peli pêl-droed CPD Conwy.
"Bryd hynny peli lledr oedden nhw wedi eu gwnïo.
"Roedd y rheiny yn goblyn o jobsys anodd, ond ro'n i'n cael sawl pêl ac esgidiau pêl- droed oedd angen eu trwsio," meddai.

Ann ar y chwith a Beryl yn y canol yn ymweld â'r siop i ddymuno'n dda i Glyn ar ei ymddeoliad
Dwy sy'n werthfawrogol iawn o waith Glyn yn y dref yw Ann Rowlands o Fae Colwyn a Beryl Jones o Abergele.
Dywedodd Ann: "Fydd 'na golled fawr ar ôl i Glyn ymddeol. Dwi'n cofio prynu bag yn Efrog Newydd un flwyddyn ac fe dorrodd y zip. Nes i ddod â'r bag yma ac fe drwsiodd Glyn y peth yn syth ac roedd o fel newydd."
Daeth Beryl a cherdyn i Glyn a hanner dwsin o gacennau cri cartref i ddiolch iddo am ei wasanaeth dros y blynyddoedd.
"Dwi wedi bod yn dod yma ers tua 1997. Mae esgidiau fy ngŵr ym maint 13, a neith o ddim gadael i neb drwsio ei esgidiau o oni bai am Glyn.
"Does 'na byth ddim byd yn drafferth iddo ac mae o wastad yn hapus, fyddwn ni yn gweld ei golli yn fawr," meddai.
Ar ei ddiwrnod olaf fe roddodd Glyn arwydd yn nrws y siop i ddiolch o galon am garedigrwydd ei gwsmeriaid dros y blynyddoedd.
"Fydd hi'n od iawn peidio codi i ddod yma bob bore, fyddai'n methu'r sgyrsiau pob dydd efo'r cwsmeriaid a dwi'n hynod ddiolchgar iddyn nhw am fy nghefnogi dros y blynyddoedd," meddai.
"Mae amser yn newid a gwaith y crydd yn newid hefyd, ond dwi wedi cael oes o hapusrwydd yn fy ngwaith ond rŵan yw'r amser i ymddeol."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd9 Mai 2024