Cloi Ysgol Tryfan ar ôl canfod dau berson ar y safle heb ganiatâd

Roedd Ysgol Tryfan dan glo am gyfnod dydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Bu ysgol uwchradd yn y gogledd o dan glo ddydd Gwener ar ôl i ddau berson gael eu canfod ar y safle heb ganiatâd.
Dywedodd Ysgol Tryfan Bangor mewn llythyr at rieni eu bod wedi gorfod cau'r ysgol yn gyfan gwbl ar ôl darganfod yr unigolion.
Cafodd neb ei anafu ac nid oedd unrhyw ddifrod i'r safle o ganlyniad i'w presenoldeb, meddai'r ysgol.
Ychwanegodd y llythyr bod y clo bellach wedi dod i ben a bod Heddlu'r Gogledd wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Dywedodd yr ysgol: "Bu i ni ddelio a sefyllfa heddiw ble y daeth dau unigolyn ar safle'r ysgol heb awdurdod.
"Yn unol â'n polisïau, ac er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein disgyblion a'n staff, fe wnaeth yr ysgol ymateb yn brydlon drwy gloi mewn argyfwng yn llawn.
"Wedi i'r unigolion adael, fe symudwyd i gloi'n rhannol i fod yn rhagofalus am gyfnod, cyn yna dod â'r clo i ben.
"Ni anafwyd neb ac ni achoswyd unrhyw ddifrod ac mae'r heddlu wedi'i hysbysu o'r digwyddiad."