Gwahardd dyn o siopau Morrisons ar ôl ei gyhuddo ar gam o ladrata

Jez DanielsFfynhonnell y llun, Jez Daniels
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jez Daniels yn gyn-swyddog heddlu sydd hefyd wedi gwasanaethu gyda'r awyrlu ac wedi gwirfoddoli gyda'r gwasanaeth tân

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-swyddog heddlu o Gasnewydd wedi galw am ymddiheuriad gan Morrisons wedi iddo gael ei wahardd o bob cangen ym Mhrydain ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o ladrata.

Yn ôl Jez Daniels, roedd staff y siop yn Nhrefgwilym wedi ei dargedu oherwydd ei hil.

Dywedodd Mr Daniels ei fod yn gwisgo gorchudd wyneb oherwydd y cyfyngiadau Covid oedd yn weithredol ar y pryd a bod staff wedi "cymryd yn ganiataol ei fod o yno i ddwyn" oherwydd lliw ei groen.

Mae'r cwmni archfarchnad bellach wedi dod â'r gwaharddiad i ben, ond doedden nhw ddim am wneud sylw ar y mater.

'Wedi penderfynu fy mod i'n lleidr'

Yn ôl Mr Daniels, mae o'n teimlo yn "anghyfforddus iawn" mewn archfarchnadoedd wedi'r profiad.

Dywedodd fod y gwaharddiad wedi digwydd yn sgil ymweliad â siop Morrisons yn Nhrefgwilym, Casnewydd ym mis Chwefror 2022.

"Ro'n i'n gwisgo gorchudd wyneb - yn unol â pholisi'r siop, a rheolau Llywodraeth Cymru, ond ro'n i'n gwybod yn syth eu bod nhw wedi penderfynu fy mod i'n lleidr," meddai.

Esboniodd ei fod wedi bwriadu prynu gwin a siocled i'w blant, ond ei fod wedi sylwi ar aelodau staff yn ei ddilyn.

"Nes i feddwl, wel os ydw i'n parhau gyda'r hyn o'n i'n bwriadu ei wneud, yna bydd staff yn sylweddoli nad ydw i yma i ddwyn, a ga’ i lonydd."

Ffynhonnell y llun, Morrisons
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl gwylio lluniau fideo o'r digwyddiad, dywedodd Mr Daniels ei fod yn teimlo fod yna gyfiawnhad i'w gwynion

Dywedodd ei fod wedi ceisio dal ei fag siopau mor agored â phosib i ddangos nad oedd yn ceisio cuddio unrhyw beth.

"Fe ddaethon nhw (y staff) ata i - un pob pen i'r llwybr - a ro'n i wedi dychryn."

Fe benderfynodd ei fod am adael y siop, a dyna pryd aeth aelod o staff ato i ddweud ei fod wedi ei wahardd a bod angen iddo adael ar unwaith.

"Ro'n i wedi fy siomi. I fod yn onest, dwi'n meddwl eu bod nhw wedi gweld dyn du gyda gorchudd wyneb ac wedi cymryd yn ganiataol ei fod o yma i ddwyn."

Ffynhonnell y llun, Jez Daniels
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jez Daniels yn dweud ei fod wedi rhoi cyngor i'w blant o ran sut i ymateb mewn sefyllfa debyg

Fe wnaeth Mr Daniels gysylltu gyda phencadlys Morrisons, ac mae BBC Cymru wedi gweld e-bost gan y cwmni sy'n dweud nad oedd croeso iddo yn unrhyw un o siopau'r cwmni, a hynny oherwydd "ei ymddygiad diweddar".

Mewn dogfennau eraill sydd wedi eu gweld gan y BBC, mae aelod o staff yn honni fod Mr Daniels wedi "gweiddi geiriau bygythiol", tra bod gweithiwr arall yn dweud ei fod wedi dechrau amau Mr Daniels ar ôl iddo "ddod i mewn i'r siop heb fasged na throli" cyn "mynd yn syth i'r adran alcohol".

Cafodd Mr Daniels ei gyhuddo hefyd o estyn gwerth £200 o wirodydd, rhywbeth y mae o yn ei wadu.

"Yr hyn fyddwn i yn hoffi ei weld nawr yw Morrisons yn cydnabod bod eu staff yn anghywir," meddai Mr Daniels.

"Ers y digwyddiad dwi wedi siarad gyda nifer o bobl - pobl gwyn - ac wedi egluro'r hyn yr oedd Morrisons yn ei ddisgrifio fel 'ymddygiad amheus', ac maen nhw'n dweud 'ond dwi'n gwneud hynny, a dwi erioed wedi cael fy stopio'."

Ar ôl gwylio lluniau camerâu cylch cyfyng o'r digwyddiad, dywedodd Mr Daniels ei fod yn teimlo fod y dystiolaeth yn cyfiawnhau ei gwynion.

"Doedd y lluniau ddim yn fy nangos yn bod yn ymosodol na chwaith gyda gwerth £200 o wirodydd yn fy meddiant."

Ar ôl cyfeirio Morrisons at y lluniau fideo, fe wnaeth y cwmni gydnabod y gwahaniaethau rhwng cynnwys y fideo a datganiadau'r staff.

Er eu bod wedi dod â gwaharddiad Mr Daniels i ben dros e-bost, roedden nhw'n dal i gyhuddo Mr Daniels o ymddwyn mewn modd amheus, ac o fod yn ymosodol.

Dywedodd y cwmni hefyd nad oedd unrhyw gymhelliant hiliol y tu ôl i'r gwyn gwreiddiol, tra bod aelod o staff wedi gwadu eu bod wedi ymddwyn yn hiliol.

Mae Mr Daniels yn galw ar y cwmni i ymddiheuro ac i gydnabod yr hyn aeth o'i le.

Pynciau cysylltiedig