Vaughan Gething: 'Cymru wedi cymryd camau'n ôl ar hiliaeth'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, LLun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn ffigwr cyhoeddus amlwg yng Nghymru yn ystod y pandemig

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cymryd camau yn ôl yn ystod y degawd neu ddwy ddiwethaf."

Mae'n rhybudd llym ar gydraddoldeb hiliol yng Nghymru gan y person du cyntaf i ddod yn weinidog cabinet yn unrhyw un o lywodraethau datganoledig y DU.

"Rydyn ni mewn lle gwell nag oedden ni yn y 70au a'r 80au heb os," meddai Vaughan Gething wrth bodlediad Walescast BBC Cymru.

Ond mae'n rhybuddio yn erbyn hunanfodlonrwydd: "Bydd yn rhaid i ni ail-ymladd rhai o'r hen frwydrau."

Ar hyn o bryd ef yw Gweinidog Economi Cymru, ond fe gyrhaeddodd y Deyrnas Unedig pan oedd yn ddwy mlwydd oed gyda'i dad o Gymru a'i fam o Zambia.

Roedd y teulu wedi bwriadu ymgartrefu yn Nhrefynwy ym 1976, ond tynnwyd y cynnig swydd yn ôl oddi wrth ei dad "pan ddaeth ef i fyny gyda fy mam a grŵp o blant brown".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Vaughan Gething ei fagu yn ardal Dorset yn ne-orllewin Lloegr

Felly fe'i magwyd yn Dorset, lle ddechreuodd ymddiddori mewn gwleidyddiaeth o ddarllen am anghyfiawnder cyfnod apartheid De Affrica yn ystod ei rownd bapur newydd.

Ond beth yw ei asesiad o hiliaeth yng Nghymru erbyn hyn?

Dywedodd Mr Gething: "Dwi'n meddwl weithiau ein bod ni'n dweud chwedl wrthon ni'n hunain bod Cymru wastad wedi bod yn lle balch, blaengar.

"Ond os ydych chi'n siarad â phobl am eu profiadau eu hunain... mae rhai ohonyn nhw wedi dioddef pethau na ddylen nhw byth fod wedi gorfod dioddef."

Er ei fod yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud, mae'n meddwl bod rhywfaint o hynny wedi'i erydu gan y rhaniadau dros Brexit ac arlywyddiaeth Donald Trump.

Ychwanegodd: "Mae wedi rhoi fwy o hyder i rai pobl gyda barn mwy eithafol ac annymunol."

Disgrifiad,

Anghytuno gyda sylwadau Vaughan Gething y mae'r sylwebydd a'r colofnydd Melanie Owen

Etholwyd Vaughan Gething i'r Cynulliad - neu Senedd Cymru erbyn heddiw - yn 2011.

Bu'n dringo'r ysgol weinidogol yn gyson cyn cyrraedd y portffolio iechyd yn ystod y pandemig.

Fe wnaeth hynny gynyddu ei broffil personol, meddai, gan ddweud bod "rhai pobl yn dweud, 'roeddech chi'n lwcus'".

"Wnes i erioed deimlo'n lwcus ar y pryd!"

Mae'n disgrifio llwyth gwaith di-baid a dewisiadau anodd lle roedd tystiolaeth weithiau'n pwyntio i fwy nag un cyfeiriad.

"Dim ond ar ddiwedd y cyfnod roeddech chi'n sylweddoli pa mor flinedig ydych chi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Pan yn iau, gobaith Vaughan Gething oedd dod yn gricedwr proffesiynol neu ganwr

Nawr mae Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau i gynnal ymchwiliad Covid cyhoeddus ar wahân i Gymru.

Mae Mr Gething yn mynnu mai ymchwiliad ar draws y DU yw'r ffordd orau o graffu ar benderfyniadau gweinidogion Llywodraeth Cymru oherwydd eu bod bob amser yn cael eu gwneud "yng nghyd-destun y DU".

Ond a all wir ddisgwyl i wlad sydd â dim ond 5% o boblogaeth y Deyrnas Unedig i gael digon o sylw?

"Dwi wir yn meddwl y bydd yna graffu go iawn, ac fe ddylai fod," meddai.

Os nad oes, mae'n awgrymu "gallwn ni bob amser feddwl am y peth wedyn".

'Deall yr hyn y gallwch ei gael a'r hyn y gall yr ochr arall ei roi.'

Fel gweinidog yr economi ar hyn o bryd, mae'n wynebu'r argyfwng mawr nesaf - prisiau cynyddol ar gyfer nwyddau hanfodol fel bwyd ac ynni.

Gyda rhai o weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn flin gyda chynnig cyflog Llywodraeth Cymru, a fyddai'n cefnogi streic?

"Pe bawn i'n stiward undeb llafur ar hyn o bryd, gallaf ddeall yn iawn pam y byddwn i'n mynd at aelodau a dweud 'mae angen i ni wneud rhywbeth'," meddai.

"Yr her yw nad oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i roi codiad cyflog o 13% i bobl.

"Fel rhan o unrhyw drafodaeth, ma' rhaid ystyried nid just yr hyn yr ydych chi eisiau, ond deall yr hyn y gallwch ei gael a'r hyn y gall yr ochr arall ei roi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Mr Gething ymddiddori mewn gwleidyddiaeth yn ifanc

Mae Vaughan Gething hefyd yn sefyll wrth ei benderfyniad i wario £4.25m o arian cyhoeddus ar brynu Fferm Gilestone ym Mhowys ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Mae'n derbyn y gallai'r llywodraeth "wedi bod yn well yn y ffordd wnaethon ni gyfathrebu beth oedden ni'n ei wneud a pham", ond mae'n mynnu ei fod yn "ddewis rhesymol i fod wedi'i wneud".

Ychwanegodd: "Mae gennym ni ŵyl sy'n cael effaith economaidd sylweddol iawn.

"Rydw i eisiau gweld y busnes hwnnw'n parhau i gael ei angori yng Nghymru, gyda'r manteision sy'n dod ohono.

"Pan ddaw'r cynllun busnes manwl yn ôl gyda chyngor i mi am beth i'w wneud, bydd angen i mi wedyn wneud penderfyniad ac egluro pa benderfyniad rydw i wedi'i wneud a pham."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mr Gething, mae Mark Drakeford ag ef yn gweithio'n dda gyda'i gilydd

Gan edrych i'r dyfodol, bydd yna ras arall ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru ymhen ychydig flynyddoedd wrth i'r Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud ei fod yn bwriadu rhoi'r gorau iddi cyn yr etholiad Senedd nesaf.

Cafodd Vaughan Gething ei guro i'r ail safle gan Mr Drakeford yn yr ornest olaf yn 2018 ond mae'n dweud eu bod yn gweithio'n dda gyda'i gilydd.

"Mae Mark yn bragmatig iawn, mae eisiau gwybod yr holl dystiolaeth ond wedyn mae'n gwneud penderfyniadau," meddai.

Ond nid oedd Mr Gething yn fodlon dweud os y byddai'n sefyll yn y ras nesaf am arweinyddiaeth y blaid.

Pynciau cysylltiedig