Ateb y Galw: Nia Lynn

Nia LynnFfynhonnell y llun, Aurelian De BNF
  • Cyhoeddwyd

Mae Nia Lynn yn ymarferydd llais profiadol, ac wedi gweithio ar draws y byd gyda chwmnïau fel y Royal Shakespeare Company, Donmar Warehouse, ac ar gynhyrchiadau fel Matilda yn y West End.

Nia yw tiwtor canu Jazz yr Academi Gerdd Frenhinol, ac mae hi hefyd yn canu fel unawdydd ac fel aelod o’r band gwerin Alaw.

Dyma ddod i adnabod Nia Lynn ychydig yn well:

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fi’n meddwl taw cael fy nghewyn wedi newid.

Sori ddim yn rhamantus iawn, ond dwi’n cofio chwarae gyda fy nhraed yn yr awyr yn agos iawn i fy wyneb. Buase hwnna ddim yn digwydd nawr!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerllan, ardal uwchben bae Cwmtydu yng Ngheredigion.

Mae’n ardal hudol o brydferth gyda cheffylau gwyllt, dolffiniaid a morloi yn y môr.

Mae hen gaer o’r oes haearn yna hefyd. O, a dyna lle wnaeth fy ngŵr ofyn i fi briodi e. Sbesial.

Ffynhonnell y llun, Nia Lynn
Disgrifiad o’r llun,

Nia yn bwydo'r ceffylau yng Nghaerllan uwchben Cwmtydu

Y noson orau i ti ei chael erioed?

O ran noson orau broffesiynol, canu rhan llais Nina Simone ar noson agoriadol Goat gan Ben Duke yn Sadlers Wells gyda Rambert Dance Company.

Roedd e’n epic sing ond mor werthfawr ym mhob ffordd yn enwedig gan fod fy rhieni yn y gynulleidfa am ben-blwydd fy Mam.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Rhamantus, uchelgeisiol, hygoelus.

Ffynhonnell y llun, Nia Lynn
Disgrifiad o’r llun,

Nia yn cynhesu cyn y sioe Goat gyda Ballet Rambert yn Sadlers Wells.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Gwneud pasta ffres gyda fy chwaer am y tro cyntaf pan o’n ni’n fenywod ifanc.

Roedd hi nôl o’r brifysgol ac roedd Mam a Dad mas am y nos.

Daethon nhw nôl i gegin llawn blawd, dwy botel wag o win a’r ddwy ohonom ni mewn ffits o hysterics ar y llawr.

Roedd y pasta yn eithaf da i ddweud y gwir, ond roedd Mam dal yn ffeindio darnau bach o flawd ym mhobman am wythnosau ar ôl.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Double bookio fy hunan!

Cael galwad ffôn o lwyfan y Cambridge Theatre yn Llundain i gynhesu cast Matilda, tra bod fi ar drên ar y ffordd i gig yng ngogledd Lloegr.

Fi dal i deimlo’n sâl yn meddwl amdano.

Ffynhonnell y llun, Nia Lynn
Disgrifiad o’r llun,

Nia a’i chwaer Eleri

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ha ha, ddoe! Fi’n feichiog ar hyn o bryd ac yn crïo ar bopeth.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi’n dwli ar losin fizzy.

Ar ôl siwrne hir mae fy ngŵr yn agor drws y car ac mae miliynau o bapurau melysion yn llifo o'r drws.

Er fy mod yn trio fy ngorau i aros yn iach dwi methu gwneud hynna weithiau.

Ffynhonnell y llun, Nia Lynn
Disgrifiad o’r llun,

Nia yn yr Oliver Awards gyda Yshani Perinpanayagam, Cyfarwyddwraig Cerddorol Goat

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

A Tale of Two Cities gan Charles Dickens. Mae wedi ei ysgrifennu mor dda. Mae'r cymeriadau a'r teimlad yn ddiriaethol.

Mae’r Count of Monte Cristo yn dod yn ail agos iawn.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Salvador Dali. Es i’w dŷ yn Figueres a'i hoff win oedd sparkling rosé.

Dwi'n eithaf hoff o'r surrealists, dwi'n siŵr byddai’r sgwrs yn hynod ryfedd.

Llenwodd e Rolls Royce gyda blodfresych unwaith i yrru o Sbaen i'r Sorbonne am ddarlith. Hoffwn ofyn iddo: pam?

Neu Shakespeare, ond mae gen i deimlad byddai Salvador yn fwy o hwyl am beint.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun gan Van Gogh o gadair fach.

Am ryw reswm mae'r byd peintio wedi ysbrydoli fi mwy nag unrhyw gelfyddyd arall.

Cwympais i mewn cariad gyda'r gadair fach yna.

Mae'n ddarn anesboniadwy. Mae stori yn cuddio yn y llun yn ogystal â chwestiynau. Bob tro dwi'n edrych arno mae'n atgoffa fi o bwy ydw i.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llun y Gadair Fach gan Van Gogh yn bwysig iawn i Nia

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wedi arbenigo mewn llawer o bethau ac fel arfer mae unrhyw fath o ddiddordeb yn troi mewn i ran o fy mhroffesiwn: cerddoriaeth, drama, ioga a.y.b.

Dwi yn caru peintio. Fi’n eitha’ gwael a deffo hobi yw e, ond mae'n ffordd arbennig o gadw’r dychymyg yn fyw a'r galon yn dawel.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Eistedd o flaen y tân gyda fy nheulu a siarad lol, gyda gwydr o win gwyn arbennig.

Os yw’r byd yn mynd i orffen hoffwn fod gyda'r bobl a ffrindiau (a dwi'n cyfri Twm Sïon Y Sanau, ein ci, yn hwnna) fwyaf pwysig i fi heb boeni am y byd tu allan.

Ffynhonnell y llun, Nia Lynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Twm Sion y Sannau'r ci yn rhan bwysig o deulu Nia

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fyddwn i byth eisiau bod yn berson arall hyd yn oed am y dydd, ond fi’n meddwl yn aml sut fasa’n teimlo i fod yn anifail arall, neu aderyn (wrth gwrs) neu ddolffin.

Dwi'n ddigon hapus yn y corff sydd gyda fi diolch.

Pynciau cysylltiedig