Ateb y Galw: Catrin Gerallt

Catrin GeralltFfynhonnell y llun, Llun cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Gerallt

  • Cyhoeddwyd

Un a gafodd wythnos brysur yn yr Eisteddfod oedd Catrin Gerallt o Gaerdydd, a hi fydd yn ateb y galw yr wythnos hon.

Mae Catrin wedi rhyddhau ei nofel gyntaf yn ystod wythnos y Brifwyl – Y Ferch ar Y Cei.

Mae Catrin yn enedigol o sir Benfro ac wedi’i magu yng Nghaerdydd. Mae’n gyfarwydd iawn â rhychwant eang o fywyd a hiwmor y ddinas.

Wedi astudio Ffrangeg yn y brifysgol, cafodd waith fel gohebydd yn BBC Cymru.

Treuliodd ugain mlynedd fel Golygydd Cynorthwyol Materion Cyfoes, gan ennill gwobrau BT a BAFTA Cymru am ei rhaglenni ymchwiliadol.

Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gyfrannu straeon i raglenni Radio Cymru a Radio 4.

Yn 2019, cafodd ei haddasiad Saesneg o nofel T Llew Jones, Trysor y Môr-Ladron, enwebiad ar gyfer medal CILIP Carnegie.

Mae Catrin yn ymddangos yn gyson ar radio a theledu fel colofnydd a sylwebydd ar y newyddion.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Rhoi swltana lan fy nhrwyn pan o'n i'n ddwy a hanner, tra bod Mam yn gwneud cacen ffrwythe.

Dwi'n cofio Mam yn dal y Western Mail ar fy nghôl ac yn trio fy helpu i chwythu'n nhrwyn ond o'n i'n methu gwneud a buodd rhaid i Dad fynd â fi i adran ddamweiniau ysbyty Hwlffordd!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Mae arfordir gogledd Sir Benfro yn rhan bwysig o'm mhlentyndod. Roedd Nain yn dod o Bencaer, uwchben Abergwaun, a dwi'n hoffi meddwl bod y môr yn fy ngwaed.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae gogledd Sir Benfro yn rhan bwysig o blentyndod Catrin

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Anodd dewis. Ro'n i'n dwlu dawnsio pan o'n i'n iau ac wrth fy modd yn hen glybiau dociau Caerdydd, fel y Casino Club a'r Casablanca (sydd wedi hen ddiflannu) Fydden i a'n ffrindie yn dawnsio'n ddi-stop i rythmau Soul a Motown – byd gwahanol iawn i nghartre yn swbwrbia!

Yn fwy diweddar, dwi 'di cael nosweithiau bythgofiadwy yn Iwerddon. Mae 'mhartner i, Martin, yn Wyddel sy'n chwarae cerddoriaeth draddodiadol yn ogystal â roc/blŵs. 'Yn ni wedi cael sawl noson fywiog iawn mewn sesiynau yn Kilkenny, Galway a Co. Clare.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Catrin yn yr 80au

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Siaradus. Emosiynol. Breuddwydiol.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Llawer a dweud y gwir.

Flynyddoedd yn ôl ro'n i'n cynhyrchu Oedfa'r Bore ac fe wnaeth un gŵr caredig gynnig helpu gyda'r sain a'r meicroffonau. Pan es i ddiolch iddo ar y diwedd, dywedodd ei fod yn hapus i helpu gan ofyn, "Pryd ych chi'n dishgwyl?" Roedd fy sgert yn rhy dynn, mae'n siwr, ond wedi drysu, atebais "Flwyddyn nesa!" i arbed embaras iddo, er ein bod ynghanol mis Chwefror!

Roedd yr olwg ar ei wyneb yn bictiwr a dwi'n dal i wenu o gofio fy ateb gwallgo!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Wedi cael y plant, fe fues i'n gweithio ym myd radio am flynyddoedd. Pan ges i gais yn y 90au i gyflwyno rhaglen deledu ar ordeinio merched o'n i'n eitha nerfus, a chyn gwneud y cyfweliad cynta, fe es i'r tŷ bach i wneud fy ngholur. Ddes i allan o'r stafell molchi i lolfa'r ficerdy, a cherdded heibio'r dyn camera a'r dyn sain cyn i'r cynhyrchydd sibrwd yn fy nghlust bod fy sgert yn sownd yn fy nicyrs a 'mod i wedi fflashio ar y ficer a sawl offeiriad. Dwi dal yn chwysu wrth feddwl amdano!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Yn anffodus, mae nifer o bethau ar hyn o bryd yn achosi tristwch mawr. Fel nifer, roeddwn i yn fy nagrau wrth weld lluniau'r tair merch fach a lofruddiwyd yn Southport a fedra'i ddim dychmygu galar y teuluoedd sydd wedi eu heffeithio.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

O oes! Dwi'n wael am dorri ar draws – sy'n hynod anghwrtais – ond weithie dwi'n ymgolli yn y sgwrs ac yn taro 'mhig i mewn cyn i'r person arall orffen siarad. Lwcus bod fy ffrindiau'n amyneddgar!

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Mae gen i gymaint o hoff lyfrau – ond dwi'n cofio cael fy ngwefreiddio gan "Aunt Julia and the Scriptwriter" gan yr awdur o Beriw, Mario Vargas Llosa. Hanes newyddiadurwr ifanc sy'n gweithio i orsaf radio ddi-drefn yn Lima. Mae'r penaethiaid yno yn cyflogi sgriptiwr o Bolivia sy'n creu opera sebon hynod ddramatig, ac mae realiti a ffantasi yn plethu i'w gilydd mewn ffordd ddoniol, liwgar.

Dwi hefyd yn hoff iawn o ffilmiau Pedro Almodovar, fel Volver a Todo Sobre mi Madre, (All About my Mother) sydd hefyd yn swreal, yn amharchus ac yn llawn cymeriadau benywaidd, cryf.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Catrin a'i merched Beca (chwith) a Hannah (dde) yn ystod noson lansio Y Ferch ar y Cei

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Edna O'Brien am ei gallu i grefftio geiriau, ei ffraethineb a'i hannibyniaeth barn yn wyneb yr holl feirniadaeth gafodd gan sefydliadau traddodiadol Iwerddon yn y 60au.

Neu, o fynd nôl mewn hanes, yr actores Dora Jordan oedd o dras Gwyddelig a Chymreig. Cafodd yrfa ddisglair fel actores gomedi yn y 18fed ganrif, a serennu yn nramâu Sheridan yn Drury Lane gan ddenu sylw mab y Brenin. Buodd yn feistres i'r Duke of Clarence am flynyddoedd, yn byw fel brenhines ym mhalas Bushy Park yn Llundain ac yn magu deg o blant – ond pan ddaeth y Dug yn etifedd i'r goron, taflwyd Dora i'r neilltu a bu'n byw fel cardotyn yn Ffrainc. Menyw anhygoel a dorrodd ei chwys ei hun.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Edna O'Brien - rhywun mae Catrin yn ei hedmygu'n arw

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Yn 21 oed, fe dreuliais wyliau haf gyda mafioso ym Marseille.

Ffrind i ffrind oedd e ac wedi i fi gyrraedd, fe synhwyrais fod ganddo ffrindiau amheus. Flynyddoedd yn ddiweddarach, dysgais ei fod yn hit man i un o brif gangiau'r Maffia yn y ddinas.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Chwerthin, canu ac yfed gwin yng nghwmni fy nhri plentyn hynod ac annibynnol, fy mhartner a'm dau ŵyr direidus.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Mae'r llun yn dangos Mam a fi ar y traeth yn Sir Benfro pan o'n i'n ddwy oed. Fe gollon ni Mam yn ystod y cyfnod clo, yn 93 oed, a dwi'n hoffi ei gweld fel hyn – yn fam ifanc, yn edrych mor smart er ei bod yn eistedd ar y tywod.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Catrin a'i mam ar draeth yn Sir Benfro

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Cantores opera yn La Scala neu'n well fyth, dawnsiwr Flamenco mewn bar yn Cadiz

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Catrin a'i phartner Martin McGroarty mewn gŵyl yn Cadiz

Pynciau cysylltiedig