Menyw, 25, wedi marw ar safle marchogaeth yn Sir Gâr

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle Little Mill Equestrian ger Bronwydd fore Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 25 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar safle marchogaeth yn Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos.
Mae hi wedi cael ei henwi'n lleol fel Katie Hacche, a chafodd y gwasanaethau brys eu galw i ganolfan Little Mill Equestrian ger Bronwydd tua 10:20 fore Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu bod y fenyw 25 oed wedi marw yn y fan a'r lle, ac nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y ganolfan bod cystadleuaeth wedi'i hatal ddydd Sadwrn "yn dilyn digwyddiad yn yr ardal gynhesu i fyny".
Mae'r mater wedi cael ei gyfeirio at adran iechyd a diogelwch Cyngor Sir Caerfyrddin, a bydd adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer crwner.

Mae canolfan Little Mill Equestrian wedi'i leoli i'r gogledd o bentref Bronwydd
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul dywedodd Little Mill Equestrian: "Rydyn ni gyd yn torri ein calonnau ac mewn sioc wedi'r hyn ddigwyddodd ddoe [dydd Sadwrn].
"Allwn ni ddim rhoi mewn geiriau sut rydyn ni'n teimlo.
"Mae'n ein hatgoffa, hyd yn oed ar ddiwrnod tawel yn gwneud y gamp rydyn ni'n caru, mae risg ynghlwm â'r peth, ac rydyn ni'n gwneud popeth ry'n ni'n gallu i sicrhau diogelwch pobl."
Ychwanegodd y datganiad eu bod yn diolch i bawb roddodd gymorth cyntaf tan i'r parafeddygon a'r ambiwlans awyr gyrraedd y safle.