Dyn, 28, yn cyfaddef ceisio llofruddio baban

Mae Rhydian Jamieson o Gwm-cou ger Castellnewydd Emlyn wedi cyfaddef ceisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed wedi pledio'n euog i geisio llofruddio plentyn yng Ngheredigion.
Ymddangosodd Rhydian Jamieson, o Gwm-cou ger Castellnewydd Emlyn, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau, lle cyfaddefodd iddo niweidio'r baban, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol.
Wrth gadw Jamieson yn y ddalfa, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC: "Byddaf yn delio â chi ar 27 Mai."
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Y Ferwig, Ceredigion, ychydig cyn 22:15 ddydd Mercher, 15 Ionawr yn dilyn adroddiadau yn ymwneud â lles plentyn.
Cafodd y plentyn ifanc ei gludo i'r ysbyty gydag "anafiadau dychrynllyd" oedd "yn peryglu bywyd".