Tocynnau bws £1 i bobl ifanc ledled Cymru

Bydd tocynnau sengl yn costio £1 a thocyn diwrnod cyfan yn costio £3 ar gyfer pobl rhwng 16 a 21
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl ifanc yn gallu cael tocynnau bws am £1 ledled Cymru fel rhan o gynllun peilot i sicrhau prisiau rhatach.
O ddydd Llun ymlaen, bydd prisiau tocynnau sengl yn £1 a bydd tocyn diwrnod cyfan yn costio £3 i bawb rhwng 16 a 21 oed.
Bydd hyn yn cael ei ymestyn i blant pump i 15 oed o 3 Tachwedd.
Daw wrth i Aelodau Seneddol yn Lloegr alw am gael cynnig i bobl ifanc deithio am ddim, tra bod yr Alban wedi gwneud hynny i bobl rhwng pump a 21 oed ers 2022.
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, ei fod yn gobeithio y bydd y cynllun yn helpu pobl ifanc i "gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hamdden".

Mae Ifan a Holly yn credu y gallai'r prisiau eu hannog i deithio ar y bws yn amlach
Dywedodd myfyriwr o Gaerdydd, Ifan Stoddart, sy'n 20 ond ddim yn defnyddio'r bws ar hyn o bryd, efallai y bydd y pris yn ei annog i ddechrau.
Dywedodd ei bod hi'n hynod bwysig cadw costau trafnidiaeth gyhoeddus mor isel â phosibl er mwyn annog pobl i fynd i'r ysgol a'r gwaith ac yn ôl yn hawdd.
Mae Holly Whale, 20, o Gaerwysg, yn mynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd a dywedodd ei bod hi'n cerdded o amgylch y ddinas yn bennaf, ond byddai'r prisiau is yn galluogi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc.
"Ni all llawer o bobl ifanc fforddio gyrru," meddai Holly, gan ychwanegu bod "trenau'n ddrud iawn".
Cytunodd y ddau fyfyriwr y byddai'r newid yn gwneud iddyn nhw feddwl ddwywaith cyn archebu tacsi hefyd.

Dywedodd Connie Dolloway ei bod "mor ddiolchgar am y cynllun"
Dywedodd Connie Dollowy, 17, o Gaerffili, sy'n ei hail flwyddyn yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd ei bod "mor ddiolchgar i gael mynediad i'r cynllun".
"Dwi'n meddwl fod o'n syniad da oherwydd bod o'n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy ar gyfer myfyrwyr," meddai.
"Mae'r cynllun yn helpu fi i deithio i goleg, i deithio i fy swydd rhan amser, ac ar draws Cymru."

"Mae tocynnau £1 am fod yn chwyldroadol i fyfyrwyr a phobl ifanc," meddai Alfie Warner
Dywedodd Alfie Warner, 18 oed ac o Bontypridd, fod y cynllun yn "beth da i fyfyrwyr achos mae'n galluogi nhw i ganolbwyntio mwy ar goleg".
"Dyddiau yma, mae'n rhaid i lawer o fyfyrwyr boeni am bethau ar wahân i'w hastudiaethau ac mae hyn yn cael gwared â'r pryder am deithio sy'n galluogi nhw i ganolbwyntio mwy ar goleg," meddai.
"Dwi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn aml oherwydd ei fod yn well i'r amgylchedd ac yn rhatach na ffyrdd eraill o deithio.
"Mae tocynnau £1 am fod yn chwyldroadol i fyfyrwyr a phobl ifanc ac yn enwedig ers y pandemig, mae'n bwysig bod pobl yn gallu mynd allan i gymdeithasu heb orfod poeni am y gost."

Mae trafnidiaeth fforddiadwy bob amser yn syniad da yn ôl Oliver Reaper
Mae Oliver Reaper, 24, yn byw yng Nghaerdydd, a does dim car ganddo ar hyn o bryd.
Felly, mae'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus a dywedodd fod prisiau rhatach bob amser yn well iddo.
Dywedodd y byddai cael mynediad at drafnidiaeth fwy fforddiadwy wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddo fel myfyriwr.
Ychwanegodd y byddai wedi gwneud gwahaniaeth mawr wrth deithio i mewn ac o gwmpas y ddinas ar gyllideb dynn.
I gael y prisiau rhatach bydd angen i'r rhai sy'n gymwys wneud cais am FyNgherdynTeithio trwy wefan Trafnidiaeth Cymru (TFW), gan gadarnhau eu hoedran.
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Ni fydd unrhyw lwybrau ychwanegol yn cael eu hychwanegu ond bydd y tocynnau'n berthnasol i unrhyw deithiau sengl sy'n cychwyn yng Nghymru.
Bydd y gostyngiad ar gael tan fis Medi 2026.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £15m yn cael ei ddarparu dros ddwy flwyddyn ariannol (2025-26 a 2026-27) i gefnogi prisiau tocynnau bws £1 i bobl 16 i 21 oed fel rhan o'r cytundeb cyllideb gyda Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae Gethin Wyn Jones yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at fwy o bobl ifanc yn defnyddio bysiau ar draws y wlad
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru maen nhw eisoes wedi derbyn dros 10,000 o geisiadau ar gyfer FyNgherdynTeithio.
Dywedodd Gethin Wyn Jones, Rheolwr Materion Cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru eu bod am "gael pobl ifanc i ddefnyddio'r bws a chynnig ffordd fforddiadwy a chynaliadwy o deithio".
Ychwanegodd ei bod hi'n "hynod bwysig i Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru bod pobl ifanc yn cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a drwy gynnig y gost o £1 mae'n agor y drws i bobl ifanc deithio ar y bws drwy gydol y wlad".
"'Da ni'n gobeithio bydd yr apêl hirdymor yn un lle bydd pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio" a hynny yn y dinasoedd ac yng nghefn gwlad.
'Cynnig deniadol'
Dywedodd David Beer o'r corff gwarchod trafnidiaeth annibynnol Transport Focus fod y cynllun yn "gynnig deniadol" ond dywedodd fod defnyddwyr bysiau Cymru yn llai bodlon nag mewn mannau eraill ar y cyfan.
"Mae'n gyfnod pan rydyn ni eisiau annog pobl i adael mathau eraill o drafnidiaeth a mynd ar fysiau" meddai.
Ychwanegodd fod y corff gwarchod wedi cynnal arolwg boddhad cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a'u bod wedi canfod bod boddhad pobl ifanc â gwerth am arian ychydig yn is yng Nghymru o'i gymharu â mannau eraill.
Roedd yn canmol Llywodraeth Cymru am eu gwaith ar wasanaethau bysiau ond yn cydnabod fod gan lywodraethau ar draws y DU "flaenoriaethau gwahanol".
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Rwyf wrth fy modd yn lansio cynllun sy'n cynnig modd fforddiadwy i bobl ifanc deithio ar fws a'u helpu i gael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hamdden".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.