Dwy fenyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dwy fenyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Barri brynhawn dydd Sadwrn.
Cafodd dau ddyn eu cludo i'r ysbyty, ac mae'n debyg fod un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.
Cafodd yr heddlu eu galw i safle'r gwrthdrawiad toc wedi 13:40 brynhawn dydd Sadwrn, yn dilyn adroddiadau o ddau yrrwr wedi gwrthdaro ar yr A4050.
Mae'r lôn ar gau i'r ddau gyfeiriad o gyffordd Port Road East a Ffordd Gyswllt Doc y Barri i Ganolfan Arddio Pugh.
Mae disgwyl i'r lôn fod ar gau nes o leiaf 2:00 fore dydd Sul.
Mae'r heddlu yn cynghori teithwyr i osgoi'r ardal.