Ail-ddynodi cynllun rheilffordd yn 'atal arian i Gymru', medd AS

Mae'r Trysorlys yn mynnu mai "gwall cyhoeddi" oedd dynodi'r datblygiad ar gyfer Lloegr yn unig
- Cyhoeddwyd
Roedd cynlluniau gwreiddiol i wario £6.6bn ar reilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt yn dynodi'r prosiect fel un Lloegr yn unig, yn ôl Aelod Seneddol.
Byddai Cymru'n elwa o filiynau o bunnoedd o gyllid cyfatebol o'r prosiect pe bai hynny yn wir.
Dywedodd AS Plaid Cymru, Ben Lake, fod papurau'r Trysorlys yn dangos bod y cynllun wedi cael ei newid i fod yn un ar gyfer "Cymru a Lloegr."
Mae'r Trysorlys yn mynnu mai "gwall cyhoeddi" oedd dynodi'r datblygiad ar gyfer Lloegr yn unig.
Gwrthod yr eglurhad hynny mae Mr Lake sydd yn cyhuddo llywodraeth Prydain o "symud y postyn".

Dywedodd AS Plaid Cymru, Ben Lake, fod papurau'r Trysorlys yn dangos bod y cynllun wedi cael ei newid i fod yn un ar gyfer "Cymru a Lloegr
Mae Mr Lake yn dweud bod y penderfyniad i ail-ddynodi'r prosiect yn un ar gyfer Cymru a Lloegr yn golygu bod Cymru'n colli cyllid 'hanfodol'.
"Yn yr holl ddogfennau'r Trysorlys ers 2020 maen nhw wedi ymdrin â hi fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig," meddai.
"Ac felly mi fydd Llywodraeth Cymru wedi derbyn arian cyfatebol ar gyfer y gwariant ar y prosiect hwnnw ers y pum mlynedd d'wethaf."
Roedd y rheilffordd yn cael ei ystyried yn un Lloegr yn unig yn nogfennau Datganiad o Bolisi Ariannu llywodraeth y DU yn 2020, 2021 a 2023 cyn newid.
"Fodd bynnag 'da'n ni'n deall bod y llywodraeth nawr yn [newid] categoreiddio'r prosiect ond maen nhw'n gwneud hynny mewn ffordd fydd yn golygu bydd Cymru yn colli allan," medd Mr Lake.

Mae'r rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt wedi cael ei ddynodi'n swyddogol yn brosiect "Cymru a Lloegr"
Mae'r Trysorlys wedi dweud mai camgymeriad oedd rhoi'r rheilffordd yn y categori o brosiectau "Lloegr yn unig."
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Gwall cyhoeddi oedd hyn yn y Datganiad o Bolisi Ariannu wedi Adolygiad Gwariant 2020."
Dyw Mr Lake ddim yn derbyn hynny.
"Yn gyntaf, dwi wedi dysgu ers fy mlynyddoedd yn San Steffan, nad yw'r trysorlys byth yn gwneud camgymeriadau."
Mae'n dweud bod hynny yn codi cwestiynau ynglŷn â'r arian y mae llywodraeth Cymru eisoes wedi ei dderbyn dan y fformiwla Barnett.
"Maen nhw wedi talu arian cyfatebol i lywodraeth Cymru, felly os mai camgymeriad cyhoeddi oedd hi, fydde dyn ddim yn disgwyl wedyn bod yr arian wedi llifo o Lundain i gronfeydd llywodraeth Cymru," meddai Mr Lake.
"Os, fel maen nhw'n dadlau, camgymeriad oedd hyn, yna dyw'r arian hynny ddim yn ddyledus i Gymru, ac felly mae cwestiwn lletchwith iawn yn codi a fydd yn rhaid i lywodraeth Cymru dalu rhywfaint o hynny yn ôl i lywodraeth Prydain?"
Sut mae'r Fformiwla Barnett yn gweithio?
Mae cyllid i Gymru yn cael ei benderfynu drwy Fformiwla Barnett, felly os yw llywodraeth y DU yn gwario ar fater datganoledig yn Lloegr, yna mae'r fformiwla'n cael ei ddefnyddio i gyfrifo faint o arian sy'n ddyledus i Gymru.
Mae gwariant gan Network Rail yn cael ei ariannu'n wahanol, ac nid yw Llywodraeth Cymru - yn wahanol i lywodraeth yr Alban - fel arfer yn derbyn arian drwy Fformiwla Barnett am unrhyw wariant ar seilwaith rheilffyrdd.
Mae HS2 yn cael ei ariannu gan HS2 Ltd, nid Network Rail. Ond mae wedi cael ei ddynodi'n brosiect Cymru a Lloegr beth bynnag, er nad oes unrhyw ran o'r trac yn cyrraedd Cymru - felly nid yw Cymru'n cael unrhyw arian ychwanegol.
Mae'n golygu, er bod yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi derbyn arian ychwanegol gan lywodraeth y DU am y gwariant ar HS2, dydi Cymru ddim.
Mae wedi ysgogi llawer i alw am newidiadau sylfaenol i'r ffordd y mae seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ariannu yng Nghymru i'w wneud yn decach.
'Nid cywiriad i wall teipio yw hwn'
Mae Guto Ifan, academydd o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dweud bod Cymru wedi derbyn £1.1m o gyllid cyfatebol o ganlyniad i'r gwariant Rhydychen-Caergrawnt.
"Nid cywiriad i wall teipio yw hwn, ond ailddynodiad o'r prosiect a newid sylweddol yn y fformiwla a ddefnyddir i gyfrifo newidiadau i grant bloc llywodraeth Cymru," meddai Mr Ifan.
Yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, fe wnaeth Eluned Morgan amddiffyn yr aiil-ddynodiad, gan ddweud wrth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod angen "gwers ynglŷn â sut mae'r setliad datganoli'n gweithio."
"Nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru.
"Efallai yr hoffech chi iddo gael ei ddatganoli, ond dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd.
"Yr hyn sydd gennym yw sefyllfa lle mae prosiectau ar y gweill ar gyfer Cymru a Lloegr.
"Ydyn ni'n cael ein cyfran deg? Dydyn ni ddim."
'Gwahanol iawn i HS2'
Dywedodd y prif weinidog ei bod hi'n gobeithio am rywfaint o gydnabyddiaeth o hynny drwy'r adolygiad gwariant - lle bydd y canghellor yn datgelu ei chynlluniau gwariant ar gyfer y blynyddoedd nesaf ar 11 Mehefin.
Ychwanegodd fod y llinell reilffordd dan sylw yn "wahanol iawn i HS2".
"Mae llinell reilffordd Rhydychen i Gaergrawnt yn rhan o'r darn seilwaith rheilffyrdd ehangach hwnnw," meddai.
"Roedd prosiect HS2 yn eithriad i hynny, a dyna pam rydyn ni'n cyflwyno'r achos mewn ffordd ar wahân."
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb llywodraeth Cymru i'r datblygiad diweddaraf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2024