Starmer wedi cael 'llond bol' o gwestiynau am arian HS2 - Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae Syr Keir Starmer wedi cael "llond bol" o gael ei holi am arian i Gymru yn sgil datblygiad rheilffordd HS2, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Er mai yn Lloegr y bydd holl seilwaith HS2, dydy Cymru ddim wedi derbyn ceiniog o arian canlyniadol gan fod y cynllun wedi ei ddynodi'n gynllun ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru, o dan arweinyddiaeth Eluned Morgan, yn credu bod Cymru ar ei cholled o £350m drwy gynllun HS2.
Mae'r llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan wedi gwrthod y syniad o roi arian canlyniadol i Gymru, er bod Mr Starmer wedi dweud ei fod eisiau gwella'r isadeiledd rheilffordd yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
Dywedodd Ms Morgan nad oedd hi'n "derbyn" yr awgrym nad oedd llawer wedi newid yn y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ers i Lafur ddod i rym yn San Steffan, gyda Chymru wedi cael £1bn yng nghyllideb y canghellor fis Hydref.
Ond ychwanegodd bod rhai meysydd, fel HS2, ble bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i "ofyn am fwy".
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd Morgan taw "dyma [£350m] ddechrau'r hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl".
"Bydd y sgyrsiau a'r trafodaethau yn parhau, ond dewch i ni beidio â chwyno ein bod ni newydd gael £1biliwn ar ôl i ni fod yn aros drwy gymaint o flynyddoedd o lymder ble rydyn ni wedi gorfod wynebu toriadau ar ôl toriadau.
"Mae'n amser i ddathlu, i edrych i'r dyfodol gyda gobaith."
'Y Prif Weinidog druan'
Pan ofynnwyd i Ms Morgan a oedd hi'n bryd ymbellhau oddi wrth Brif Weinidog y DU, o ystyried ei berfformiad gwael diweddar yn y polau piniwn, dywedodd: "Dwi'n mynd i ddathlu gyda Keir Starmer pan mae e'n rhoi arian i ni.
"Pan dydy e ddim, a dwi'n credu ein bod ni'n ei haeddu neu ei angen, bydda i'n gwneud yn siŵr ei fod e'n gwybod na fydda i'n ildio," meddai.
Dywedodd Ms Morgan ei bod hi'n holi Mr Starmer am HS2 bob tro mae hi'n ei weld a bod y "Prif Weinidog druan wedi cael llond bol" ohoni'n codi'r pwnc.
Yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, gafodd ei chyhoeddi'r wythnos hon, roedd yna gyhoeddiad y byddai £437m yn ychwanegol ar gyfer gwario dydd-i-dydd ar y gwasanaeth iechyd a £175m i'w wario ar adeiladau.
Dywedodd Eluned Morgan fod ei ffocws ar fynd i'r afael â rhestrau aros.
Fe wnaeth hi ailadrodd ei gobaith o leihau'r nifer o bobl sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth o 23,000 i 8,000 erbyn Ebrill.
Doedd hi ddim am ddweud erbyn pryd yr oedd hi'n gobeithio y byddai'r rhestr wedi diflannu'n llwyr.
"Dewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw'r targed yn gyntaf," meddai.
Bydd y cyfweliad llawn gydag Eluned Morgan ar Politics Wales ar BBC1 Wales am 10:00 fore Sul 15 Rhagfyr, ac yna ar iPlayer.