Cynnal gwasanaeth yng Nghaerdydd ar drothwy diwrnod cofio VE

"Mae'n bwysig fod ni'n cofio... a fod ni yma'n cofio mewn 100 mlynedd ac ymlaen," meddai'r Cyrnol Sion Walker
- Cyhoeddwyd
Mae tua 250 o bobl wedi mynychu gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf yng Nghaerdydd i nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.
Fel rhan o'r digwyddiadau i nodi Diwrnod VE ar 8 Mai, roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn un o'r rheiny fu'n arwain y gwasanaeth arbennig nos Fercher.
Roedd pobl o bob cwr o Gymru yn bresennol, gan gynnwys cyn-filwyr, enwogion a gweinidogion, i dalu teyrnged i aberth a chyfraniad y rheiny fu'n gwasanaethu.
Mae Diwrnod VE yn nodi'r dyddiad pan ddaeth yr ymladd i ben yn Ewrop wrth i'r Cynghreiriaid drechu'r Almaen Natsiaidd, er i'r rhyfel barhau yn y Dwyrain Pell am rai misoedd wedyn.
Bu farw dros 15,000 o filwyr o Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac roedd munud o dawelwch i'w cofio yn ystod y gwasanaeth.

"Roedd hon yn foment a newidiodd fywydau, ac a newidiodd Gymru a'r byd," meddai'r Prif Weinidog Eluned Morgan
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae'n fraint cael mynd i Eglwys Gadeiriol Llandaf i gofio dewrder a gwydnwch eithriadol y rhai a frwydrodd dros ein rhyddid.
"Diben yr achlysur hwn yw anrhydeddu pobl gyffredin o Gymru a wnaeth bethau anhygoel.
"Dim dyddiad arall yn ein llyfrau hanes yn unig yw hwn. Roedd hon yn foment a newidiodd fywydau, ac a newidiodd Gymru a'r byd.
"Wrth i nifer y cyn-filwyr sydd gyda ni o hyd leihau, mae'n dod yn bwysicach fyth ein bod yn cadw eu straeon yn fyw a'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol."
'Pwysig bod ni'n cofio'
Dywedodd y Cyrnol Sion Walker ei fod yn bwysig cofio ymdrechion pawb adeg y rhyfel.
"Oedd e'n amser caled iddyn nhw ac mae'n bwysig cofio falle nid oedd pobl draw ar y cyfandir yn ymladd ond roedden nhw nôl yng Nghymru yn cyfrannu at beth oedd yn mynd 'mlaen a sicrhau bod ni yn cael llwyddiant.
"Felly mae'n bwysig fod ni'n cofio... a fod ni yma'n cofio mewn 100 mlynedd ac ymlaen."
Ychwanegodd: "Os nad ydyn ni'n cofio ac yn rhannu'r hanes yna efo ein plant a plant nhw fydden ni nôl yn y sefyllfa yna'n eitha gloi."

Mae'r achlysur yn gyfle i ddiolch meddai'r Canon Aled Edwards
Dywedodd y Canon Aled Edwards: "Mae nifer o bobl a frwydrodd yn dal yn fyw ac mae'n gyfle i ni barchu nhw a mynegi ein gwerthfawrogiad iddyn nhw.
"'Da ni'n gwybod hefyd wrth gwrs bod teuluoedd wedi colli anwyliaid ac maen nhw'n byw hefo'r etifeddiaeth honno.
"Ond mae'n gyfle hefyd i ddathlu'r ffaith bod ffasgiaeth wedi cael ei orchfygu er bod o 'di bod ar bris aruthrol a mi fedrwn ni ddweud diolch a dathlu'r llwyddiant hwnnw.
"Oni bai am y buddugoliaethau hynny mi fydda'r byd ydan ni gyd yn perthyn iddo fod yn wahanol iawn ac mae modd i ni nodi hynny."

John Howell Rees a'i ferch Susan
Roedd John Howell Rees, 97, yn un o'r Bevin Boys a gafodd ei gonsgriptio i weithio yn y pyllau glo yn ystod y rhyfel.
"Dwi mor falch bod hyn yn cael ei gynnal. Dwi'n un o'r Bevin Boys ac ychydig iawn o bobl sy'n gwybod ein stori," meddai.
"Ro'n i wedi syfrdanu ar ôl cael fy ngalw i fyny, ro'n i wedi fy ysgwyd gymaint, yn 18 oed. Wyddoch chi ddim ar y pryd os oedd hynny'n golygu eich bod yn mynd i ryfel.
"Mae cymaint o bobl wedi anghofio am be' wnaethon ni - pobl ifanc ac oedolion. Mae cymaint o bobl ddim yn gwybod beth ddigwyddodd.
"Dim ond tri o'r Bevin Boys sydd ar ôl yng Nghymru a fi yw'r unig un yma heddiw."
Ychwanegodd: "Dwi'n cofio Diwrnod VE. Ro'n i'n byw yng Nghlydach ac yn cofio dathlu yn y stryd. Roeddem ni i gyd mor hapus a'n teimlo rhyddhad mawr."

Y dorf yn Sgwâr Trafalgar ar ddiwrnod nodi Buddugoliaeth yn Ewrop ym Mai 1945
Ddydd Iau bydd Gwasanaeth Cofio a Diolchgarwch Cenedlaethol yn cael ei gynnal ar gyfer Diwrnod VE, a hynny yn Abaty Westminster.
Bydd digwyddiadau eraill ar hyd a lled Cymru i gofio hefyd, gan gynnwys dau funud o dawelwch am 12:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl