Claf o Gymru wedi cael brechlyn allai atal canser rhag dod 'nôl

Lesley Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lesley Jenkins yn cymryd rhan mewn treial newydd yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r claf cyntaf o Gymru wedi cael brechlyn arloesol - un sy'n targedu'n union y math o ganser sydd gan glaf.

Fe gafodd Lesley Jenkins, 65 o Gaerdydd, ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 2 ym mis Ebrill 2024 ar ôl cwblhau prawf sgrinio'r coluddyn y GIG.

Ar ôl cael llawdriniaeth i dynnu'r tiwmor ac yna cemotherapi, mae'n cymryd rhan mewn astudiaeth newydd yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.

Nod yr astudiaeth, sy'n cael ei harwain gan Felindre mewn partneriaeth â'r cwmni fferyllol BioNTech ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw canfod a all brechlynnau fel hyn atal canser unigolyn rhag dod yn ôl.

'Diagnosis yn sioc'

Mae'r brechlynnau ymchwiliol yn defnyddio technoleg mRNA i frechu'r claf yn effeithiol rhag y canser penodol y mae ef ei hun wedi'i gael.

Maen nhw'n defnyddio samplau o diwmor claf, a dynnwyd yn ystod llawdriniaeth, yn ogystal â dilyniannu DNA.

Canser y coluddyn yw un o'r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru.

Mae tua 2,400 yn cael diagnosis o ganser y coluddyn yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'n achosi tua 900 o farwolaethau yn flynyddol.

Lesley Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lesley Jenkins ei brechiad cyntaf ym mis Ionawr

Dywedodd Lesley: "Roedd cael diagnosis o ganser y coluddyn yn sioc. Do'n i ddim wedi sylwi ar unrhyw symptomau.

"Yn wir, ro'n i wedi bod yn edrych ymlaen at fywyd gwell ar ôl ychydig o flynyddoedd anodd.

"Symudodd pethau'n gyflym iawn. Fe ges i golonosgopi a sgan CT a oedd yn cadarnhau bod yna ganser, ac yna wedi llawdriniaeth fe ges i cemotherapi.

"Ym mis Ebrill do'n i ddim yn gwybod 'mod i'n sâl, ac erbyn mis Rhagfyr ro'n wedi gorffen cemotherapi."

'Lwcus' i gael cynnig y brechiad

Clywodd Lesley am y treial tra'n cael cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre, a chafodd wybod ei bod yn gymwys i gymryd rhan ynddo.

"Fe ddywedais ie yn syth wedi i mi gael cynnig, ac rwy'n teimlo'n lwcus bo fi wedi cael y cyfle.

"Mae'r staff yn Felindre yn gefnogol iawn ac mor amyneddgar, ac ro'n i eisiau gwneud rhywbeth ymarferol i helpu'r GIG ac ad-dalu'r gofal a'r proffesiynoldeb a ddangoswyd i fy nheulu a minnau."

Cafodd Lesley ei brechiad cyntaf ym mis Ionawr ac mae'n cael pigiadau wythnosol fel rhan o'r treial, yn ogystal â chael ei monitro'n agos gan glinigwyr yn Felindre.

"Mae'n hynod ddiddorol bod yn rhan o rywbeth sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth i gleifion canser yn y dyfodol," meddai.

Sut mae'r brechlyn canser yn gweithio?

Yn yr un modd ag y mae brechlynnau arferol yn hyfforddi'r corff i adnabod feirysau ac afiechydon eraill - nod y brechlyn hwn yw hyfforddi'r corff i adnabod celloedd canser.

Ar ôl cymryd sampl o diwmor y claf a dadansoddi'r camgymeriadau penodol sydd yng nghod geneteg y celloedd, mae brechlyn unigryw yn cael ei greu.

Y gobaith, ar ôl cael y brechlyn, yw y bydd system imiwnedd y claf yn gallu adnabod celloedd canser a allai fod yn cuddio yn y corff ac yn eu dinistrio.

Yn hynny o beth mae pob un o'r brechlynnau wedi'u creu yn benodol ar gyfer yr unigolyn fydd yn eu derbyn - a'r driniaeth felly'n "bersonol" iddyn nhw.

Y gobaith yw y gallai hyn fod yn fwy effeithiol na thriniaethau fel cemotherapi yn yr ymdrech i atal canser rhywun rhag dychwelyd.

Er y cyffro, mae'n werth nodi mae treial clinigol yw hwn ar hyn o bryd, a'i union bwrpas yw asesu pa mor effeithiol yw'r driniaeth.

Rob Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Ni'n gallu recriwtio mwy o gleifion cymwys wrth i'r treial barhau," medd yr Athro Rob Jones

Mae'r Athro Rob Jones yn gyd-gyfarwyddwr Is-adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd, yn gyfarwyddwr meddygol cyswllt yng Nghanolfan Ganser Felindre, ac yn ymchwilydd arweiniol ar yr astudiaeth.

"Nod y treial hwn yw recriwtio cleifion cymwys sydd eisoes wedi cael llawdriniaeth a chemotherapi a gweld a yw'r brechlyn yn ysgogi'r system imiwnedd i gael gwared ar unrhyw gelloedd canser sy'n weddill, gan gynyddu'r siawns o wella," meddai.

"Mae'n gyffrous iawn mai Lesley yw'r claf cyntaf o Gymru i dderbyn y brechlyn treialu hwn, a'n gobaith yw y byddwn yn gallu recriwtio mwy o gleifion cymwys wrth i'r treial barhau."

Nicola Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig sefydlu Cymru fel lle i gynnal gwasanaethau clinigol o ansawdd uchel, medd Dr Nicola Williams

Yn ôl Dr Nicola Williams, un o gyfarwyddwyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ein cydweithrediad â BioNTech yn un o'r ffyrdd yr ydym yn helpu i sefydlu Cymru fel lle i'n partneriaid gynnal gwasanaethau clinigol o ansawdd uchel.

"Rydym yn falch o fod yn cefnogi ystod o astudiaethau arloesol, ymchwil a staff arbenigol a fydd i gyd â rhan i'w chwarae."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Rwyf am i Gymru arwain y ffordd o ran ymchwil arloesol sydd â'r potensial i wella gofal a thriniaeth canser i bobl yng Nghymru a ledled y DU.

"Mae treialon clinigol yn chwarae rhan allweddol wrth ddeall mwy am ganser a sut y gallwn drin ystod eang o gyflyrau."

Pynciau cysylltiedig