Sgrinio serfigol: 'Mae'n achub bywydau'

Carys EdwardsFfynhonnell y llun, Meddygfa Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Carys Edwards

  • Cyhoeddwyd

"Munud neu ddwy mae'n gymryd ac os ydi o'n achub gymaint o fywyda' ac yn nadu pobl rhag mynd drwy driniaeth gynae mawr, yna mae o werth o."

Dyna gyngor Carys Edwards, nyrs ym meddygfa Llanberis, yn ystod wythnos ymwybyddiaeth o ganser ceg y groth sydd rhwng 20-26 Ionawr.

Credir fod sgrinio serfigol yn arbed tua 5,000 o fywydau yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ond mae un ymhob tair merch yn methu ei phrawf.

Mae Carys yn sgrinio tua 8-10 o ferched rhwng 25 a 64 mlwydd oed bob wythnos.

Os ydych chi'n poeni ei fod am frifo, yn teimlo embaras, neu wedi cael profiad gwael yn y gorffennol, Cymru Fyw fu'n holi Carys ar sut mae gwneud eich prawf sgrinio yn brofiad haws.

Cael eich sgrinio am y tro cyntaf

"Wrth y genod sy'n cael eu prawf cynta yn 25, dwi o hyd yn deud wrthyn nhw 'gobeithio fod 'na neb wedi deud dim byd ofnadwy wrthach chdi achos dydi o ddim mor ddrwg â be mae pobl wedi ddeud'.

"Mi fydd eich nyrs chi, fel fi, yn trio bod mor gentle ag y gallwn ni ac os ydi o'n ormod wna i stopio. Fasa ni ddim yn cario 'mlaen os ydi o'n ofnadwy o boenus.

"Mae 'na lot o scaremongering, fod o'n brifo a hyn a'r llall – dyna pam dwi'n deud wrth y genod sy'n cael o tro cynta – 'top tip ydi trio ymlacio hynny fedrwch chi'.

"Os ydach chi'n poeni, mae 'na gymaint o betha allwch chi ddarllan cyn mynd ar wefannau elusennau fel The Eve Appeal ac mae gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru , dolen allanolreit dda hefyd am esbonio be ydy'r prawf a pham ei fod o'n bwysig.

Siaradwch gyda'ch nyrs os ydych yn bryderusFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Siaradwch gyda'ch nyrs os ydych yn bryderus

'Does dim brys'

"Mae yna rai merched wedi cael profiad ofnadwy, efallai yn rwla arall wrth gael prawf, wedi brifo neu wedi cael rhyw driniaeth. Hyd yn oed rhai merched sy wedi cael eu ymosod arnyn nhw – wrth gwrs mae'r merched hynny am fod yn ofnadwy o anxious.

"Be' sy'n rhaid i chi gofio ydy y bydd eich apwyntiad yn 15 munud felly mae yna ddigonedd o amser i chi ymlacio.

"Fel arfer mi fyddai'n gwneud fy ngorau i dynnu meddwl y ferch oddi ar y prawf drwy sgwrs ac mae hynny'n gweithio, a'r neges fydda i'n ei gael ydy 'o, mi oedd hynna yn fine!'

Mae'n cymryd dim ond un neu ddau o funudau i'r nyrs droi'r brwsh bach plastig i gasglu sampl o geg y groth unwaith fydd y speculum i mewnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n cymryd dim ond un neu ddwy o funudau i'r nyrs droi'r brwsh bach plastig i gasglu sampl o geg y groth unwaith fydd y speculum i mewn

"Be sy'n rhaid i chi gofio ydy, 'dach chi wedi neud y peth pwysica' wrth fynd i'ch apwyntiad.

"Os ydy o'n help i chi, dowch â ffrind neu aelod o'r teulu efo chi - mae hynny'n gweithio i rai merched.

'Gwisgwch rywbeth cyfforddus'

"Gwisgwch rywbeth cyfforddus sy'n hawdd ei dynnu.

"Yn yr haf mae lot o ferched yn gwisgo ffrog neu sgert sydd yn grêt.

"Mae rhai merched weithia' chydig bach yn embarrassed, dwn i'm faint o weithia dwi 'di clywad 'o sori nes i'm cofio shafio 'nghoesa. Dwi 'di neud gymaint o brofion, dwi'm yn poeni, a fydd eich nyrs chithau ddim chwaith.

Merched hŷn

"Mae merched hŷn hefyd yn medru bod 'chydig bach yn anxious yn enwedig os ydyn nhw yn eu 60au a wedi mynd drwy'r menopause, mae o ella am frifo 'chydig mwy.

"Mae o'n medru bod bach mwy anghyfforddus ond mi allwn ni roi chydig bach o gel ar y speculum. Fedran ni ddim rhoi gormod achos mae o'n medru effeithio ansawdd y prawf.

"Hefyd yn wahanol i'r speculums fyddai'n cael eu defnyddio ers talwm oedd yn rhai metal ac yn oer, rŵan rhai plastic disposable ydyn nhw i gyd ac o wahanol faint.

"Maen nhw lawer fwy cyfforddus y dyddiau yma, ac mi all eich nyrs drio defnyddio speculum bach os ydy hynny'n addas.

Nyrs a speculumFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall eich nyrs ddewis speculum sy'n addas ar eich cyfer

Newid safle

"Mae ambell beth arall gall y nyrs ei wneud i'ch helpu chi hefyd os ydych yn anghyfforddus. Mae rhoi clustog oddi tanoch yn un enghraifft.

"Pan 'dach chi'n mynd i'ch apwyntiad, siaradwch efo'r nyrs, dywedwch beth sy'n eich poeni a gall y nyrs addasu pethau i chi.

"Dylai'r prawf ddim brifo, ella fod o chydig bach yn anghyfforddus, ond fel arfer mae o drosodd mewn dim.

Dod i'r arfer â chlywed am HPV

"Ers sawl blwyddyn rŵan, cael eich sgrinio am feirws human papillomavirus (HPV) ydych chi wrth dderbyn y prawf. Ers talwm roedden nhw'n checkio'r celloedd o dan feicrosgop i weld os oedd yna gelloedd abnormal.

"Rŵan maen nhw'n edrych am HPV risg uchel yn unig i ddechra arni gan mai dyna sy'n gallu arwain at gelloedd abnormal.

"Dydi'r ffaith bod gen ti gelloedd abnormal ddim yn golygu bod gen ti gansar. Felly peidiwch â mynd o flaen gofid. Mae o'n dangos newidiadau a wedyn fedri di gael triniaeth i gael gwarad ar hynny.

"Ond os nad ydach chi'n dŵad am y sgrinio, 'dach chi ddim yn mynd i wybod tan ella ei bod hi'n rhy hwyr, a chanser wedi datbygu ac ymledu.

"Mae'n bwysig cofio bod HPV yn gyffredin iawn, a does yna ddim ffordd arall i chi wybod fod ganddoch chi o heblaw am y sgrinio, felly peidiwch â dychryn os ydych chi'n profi'n bositif am HPV.

"Maen nhw'n deud bod 8 allan o bob 10 yn mynd i ddod i gysylltiad efo HPV yn ystod eu bywyd. Fel arfar, mae eich system imiwnedd yn gallu ei glirio fo a dydach chi ddim callach bo' chdi erioed wedi ei gael o.

"Mae yna lot llai o ganser serfigol nag oedd yna gan bod genod yn cael y brechlyn HPV yn yr ysgol, a bechgyn erbyn hyn, felly mae genod ifanc wedi eu gwarchod lawer gwell yn erbyn canser serfigol na'u mamau.

"Mae'n bwysig i chi ddeall mai cael eich sgrinio ydach chi, nid prawf diagnostic ydio. Mae o'n no brainer rili."

Pynciau cysylltiedig