'Pethau wedi dirywio' i gleifion canser yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad damniol i gyflwr gwasanaethau canser yng Nghymru wedi beirniadu dryswch a diffyg eglurdeb yn y ffordd y maen nhw'n cael eu harwain.
Galw mae Archwilio Cymru am arweiniad cenedlaethol "cryfach a chliriach" i wella canlyniadau i gleifion.
Mae'r adroddiad yn nodi fod targedau cenedlaethol yn dal i gael eu methu, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn gwariant, gyda rhai cleifion yn aros dros 100 diwrnod am driniaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r canfyddiadau a bod trefniadau arweinyddiaeth cenedlaethol ym maes canser yn cael eu hadolygu.
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd13 Medi 2024
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2024
Ers Awst 2020, nid oes unrhyw fwrdd iechyd wedi llwyddo i gyrraedd y targed o sicrhau fod 75% o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i ganser gael ei amau yn y lle cyntaf.
Mae'r adroddiad yn nodi hefyd fod amseroedd aros ar gyfer canserau gynaecoleg a wroleg yn arbennig o hir, gyda rhai yn aros dros 100 diwrnod cyn dechrau triniaeth.
Fel prif achos marwolaeth yng Nghymru, mae canfod canser yn gynnar yn hollbwysig gan fod modd atal tua chwarter y gwahanol fathau o ganser.
Ond er bod cynlluniau ataliol yn "uchelgais hirdymor" i Lywodraeth Cymru, roedd archwilwyr yn teimlo nad oedd hyn wedi arwain at bolisi a chyfeiriad pendant.
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd wedi beirniadu toriadau diweddar i fesurau ataliol yn y gyllideb iechyd.
O ran rhaglenni sgrinio, er bod y rhaglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn wedi'i ehangu a'r nifer sy'n cymryd mantais ohono yn dda, mae'r adroddiad yn nodi nad yw hynny'n wir am sgrinio'r fron na sgrinio serfigol.
Mae'r nifer sy'n manteisio ar frechlyn HPV hefyd yn amrywio.
Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â sgrinio ysgyfaint, er gwaethaf cynllun peilot llwyddiannus ac argymhelliad yn 2022 gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i holl wledydd y DU ddatblygu gwasanaeth.
Mae archwilwyr wedi annog Llywodraeth Cymru i "egluro cyn gynted â phosib a fydd yn ariannu sgrinio cenedlaethol yr ysgyfaint".
Mwy o alw am wasanaethau
Er bod cyfraddau goroesi canser wedi gwella, maen nhw'n dal yn waeth na mewn nifer o wledydd eraill ac yn waeth yn ardaloedd mwy difreintiedig Cymru.
Ar hyn o bryd mae "cryn amrywiaeth" mewn perfformiad rhwng gwahanol fyrddau iechyd, ac mae'r adroddiad yn galw am well cydweithio rhanbarthol.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd yn y galw am wasanaethau, gyda 22% o gynnydd mewn 20 mlynedd o ran faint o ganser sy'n cael ei ganfod.
Yn ôl yr adroddiad mae hefyd angen mynd i'r afael â bylchau mewn data, a phrinder staff a chyfarpar.
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
Un enghraifft sy'n cael ei nodi yw bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £3.4m ar Academi Ddelweddu Genedlaethol er mwyn hyfforddi mwy o radiolegwyr.
Mae'r archwilwyr yn datgelu nad yw rhai cyrff iechyd wedi gallu creu digon o swyddi ar gyfer y staff hynny, a bod rhai wedyn yn gorfod chwilio am swyddi y tu hwnt i Gymru.
Yn ôl yr archwilwyr, er bod gwariant ar ganser wedi cynyddu mewn termau real - 54% mewn 13 mlynedd, sy'n uwch na'r cynnydd i iechyd yn gyffredinol - dyw gweithgarwch gwasanaethau ddim wedi cynyddu i'r un graddau, a'r arian yn hytrach yn cael ei wario ar gostau cyflogau, cyffuriau a chyfarpar.
Un sydd wedi bod trwy'r profiad o gael diagnosis a thriniaeth canser ydy Nia Elain Roberts o Landwrog ger Caernarfon, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn Nhachwedd 2023.
Dywedodd bod cleifion yn "ymwybodol iawn" fod datblygiadau addawol o ran triniaeth canser, ond ei bod yn credu nad yw'r gallu i weld meddygon a chael diagnosis yn datblygu ar yr un cyflymder.
"Mae'r hyn maen nhw'n gallu gwneud - sydd yn wych - yn codi calon ac yn obeithiol iawn," meddai.
Ond ychwanegodd fod "angen sicrhau fod lle i fedru manteisio ar y datblygiadau hynny".
"Os nad ydy pobl yn gallu cael eu gweld ac os nad ydy pobl yn cael eu trin, does 'na ddim pwynt i'r camau yma fynd yn eu blaen."
'Dryswch' ar lefel genedlaethol
Mae cynlluniau a rhaglenni amrywiol ar ganser wedi cael eu llunio gan Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd.
Mae Archwilio Cymru yn cydnabod bod y rhain yn dangos ymrwymiad cyffredinol i wella gwasanaethau canser.
Ond yn dilyn sefydlu corff newydd - Gweithrediaeth y GIG - mae rhai o fewn y sector o'r farn bod pethau wedi dirywio.
Cafodd y corff ei sefydlu yn 2023 i ddarparu "arweiniad cryf a chyfeiriad strategol" er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth iechyd "drawsnewid gwasanaethau clinigol".
Ond dywedodd archwilwyr bod dryswch ynghylch beth yw cyfrifoldebau penodol y corff.
Cafodd cynllun gwella canser hefyd ei lunio yn 2023 gan arweinwyr canser yn y gwasanaeth iechyd - sy'n rhan o Rwydwaith Canser Cymru - ar gais y gweinidog iechyd ar y pryd.
Ond nid oedd gan y rhwydwaith yr awdurdod i weithredu nac ariannu'r polisi.
Gan nad yw'r polisi yn un swyddogol Llywodraeth Cymru, yn ôl yr archwilwyr mae rhai cyrff iechyd yn teimlo ei fod yn "amherthnasol".
Mae archwilwyr bellach wedi galw am eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau cenedlaethol.
Galw am fwy o ddata a gwybodaeth
Mae'r adroddiad yn cynnwys galwad penodol am ragor o ddata ac ystadegau cyhoeddus am berfformiad gwasanaethau canser, yn cynnwys:
Dadansoddiad o ba mor hir mae cleifion yn aros am bethau fel adroddiadau diagnostig, llawdriniaethau a radiotherapi;
Data am ddiagnosis a thriniaeth o ganserau sy'n ailymddangos;
Y niferoedd sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth canser ar hyn o bryd (yn hytrach na dim ond y rhai sydd wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod);
Lle mae cleifion yn byw, yn ogystal â lle maen nhw'n cael eu trin (e.e. mae cleifion ym Mhowys yn aml yn cael eu trin y tu allan i'r sir);
Amseroldeb diagnosis a thriniaeth ar gyfer y rhai a gyfeiriwyd o raglenni sgrinio'r fron a serfigol;
Data ynglŷn â chefndiroedd ethnig cleifion (mae dros ddwy ran o dair o'r cofnodion ynglŷn â hyn anghyflawn);
Data ar blant a phobl ifanc (ar hyn o bryd mae unrhyw un dan 30 oed wedi'u grwpio gyda'i gilydd yn yr ystadegau).
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton bod Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru, nodi llwybrau sydd wedi'u hoptimeiddio'n genedlaethol a chyhoeddi Cynllun Gwella Canser yn enghreifftiau o "ymrwymiad clir" i sicrhau gofal canser o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Er hyn, mae'n cydnabod bod "gormod o bobl" yn wynebu amseroedd aros "annerbyniol o hir" am ddiagnosis a thriniaeth canser.
Esboniodd bod "amrywiadau o ran perfformiad a chanlyniadau" ar draws byrddau iechyd Cymru a does dim "digon o sylw yn cael ei roi ar atal y ffactorau ffordd o fyw a all achosi canser a chyflyrau iechyd mawr eraill".
Ychwanegodd fod "angen egluro a chryfhau'r trefniadau ar gyfer arweinyddiaeth genedlaethol a goruchwylio gwasanaethau canser yng Nghymru fel mater o frys".
Mae hyn yn cynnwys "datganiad clir ar statws Cynllun Gwella Canser GIG Cymru a sut mae Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG yn disgwyl iddo gael ei ddefnyddio, ochr yn ochr â rhaglenni a mentrau eraill, i lunio'r gwelliannau sydd eu hangen arnom mewn gwasanaethau canser yng Nghymru".
'Darparu cyfeiriad cliriach a chryfach'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru ac rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.
"Rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar weithio gyda'r GIG i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth fel rhan o'n targed o sicrhau fod 75% o'r rhai a gafodd ddiagnosis yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r adeg mae canser yn cael ei amau yn y lle cyntaf.
"Rydym hefyd yn adolygu ein trefniadau arweinyddiaeth canser cenedlaethol i ddarparu cyfeiriad cliriach a chryfach ar gyfer gwella canlyniadau canser."