Un diwrnod yn Eisteddfod Y Felinheli

Cadeirio'r prifardd Ifan Prys o Landwrog. Hefyd ar y llwyfan mae Rebecca Rees o Brifysgol Aberystwyth a gipiodd Tlws Ieuenctid yr eisteddfod.
- Cyhoeddwyd
Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli ar 1 Chwefror, a hynny am y tro cyntaf ers y 1970au.
Bu'r cystadlu'n frwd o 11.30 y bore i wedi hanner nos. Bu'n ddiwrnod mawr hefyd i brifardd yr eisteddfod, Ifan Prys o Landwrog. Dyma oedd y tro cyntaf i Ifan gystadlu ers iddo ennill cadair yr Urdd deirgwaith dros ugain mlynedd yn ôl.
Dyma gip o'r diwrnod...

Euros a'i wobr gyntaf am ganu'r unawd i flynyddoedd derbyn ac iau

Pob chwarae teg i'r cystadleuwyr, tawelwch yn y cefn!

Mynd i'r llwyfan i dderbyn gwobr ar ôl clod gan y beirniad cerdd, Iwan Wyn Williams

Ymarfer cyn mynd ar lwyfan gyda'r cyfeilydd Awel Glyn

Ylwch pwy sydd wedi cael y swydd bwysig o gasglu enwau! Y digrifwr Tudur Owen!

Y parti llefaru dan hyfforddiant Emma Louise

Anni Llŷn, beirniad llefaru ac Iwan Wyn Williams, beirniad cerdd yn barod amdani

Rhagor o gystadlu... a stumiau!

Y gynulleidfa wrth eu boddau

Diwrnod da i Ella a ddaeth yn ail yn yr unawd i flwyddyn derbyn ac iau

Mae cystadlu yn waith sychedig. Amser paned o'r diwedd!

Cystadleuwyr yn disgwyl i fynd ar lwyfan yng nghwmni un o'r arweinyddion, Nerys Lewis

Llond neuadd o eisteddfodwyr

Catrin Gwenllian, Cadeirydd yr Eisteddfod yn cefnogi plant ar y llwyfan

Non Gwilym a Carys Jones, enillwyr y ddeuawd

Karen Jones o'r Waunfawr yn cystadlu gyda'r nos
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024