Eisteddfod Y Felinheli yn cael ei 'chodi o'r llwch'
- Cyhoeddwyd
Mae gan bentref Y Felinheli eisteddfod leol unwaith eto wedi i griw ei hatgyfodi degawdau yn ddiweddarach.
Er nad oes dyddiad swyddogol yn nodi pryd ddaeth yr eisteddfod leol i ben, mae rhai o'r farn mai yn y 1970au y cafodd Eisteddfod ei chynnal yno ddiwethaf.
Fe aeth degau draw i neuadd goffa'r pentref yn Y Felinheli i gystadlu ddydd Sadwrn.
Yn ôl Osian Wyn Owen, aelod o bwyllgor yr Eisteddfod mae'n bwysig "rhoi'r cyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf."
Roedd cyfarfod y dydd yn dechrau am 11.30 y.b gyda nifer fawr o blant y dalgylch a thu hwnt yn mynd yno i gystadlu ac yn eu plith oedd Steffan a Nel o'r Felinheli.
Roedd Steffan yn rhan o gystadlaethau offerynnol, llefaru ac wedi cystadlu yn yr adran waith cartref hefyd.
"'Dw i wedi 'sgwennu stori, a ges i gyntaf efo hynny" meddai.
Ychwanegodd ei fod wedi bod yn ymarfer cyn y diwrnod mawr ers tua mis.
"'Dw i ychydig bach yn nerfus ond 'dw i'n gyffrous hefyd. 'Dw i wedi bod mewn eisteddfod o'r blaen, ond mae'n wahanol tro 'ma gan fod o'n Felinheli."
Roedd Nel hefyd yn paratoi i ganu Lili Wen Fach ar y llwyfan.
Ychwanegodd ei bod hefyd yn rhan o'r ddawns flodau yn ystod seremoni'r cadeirio gan ddweud fod y profiad yn "hwyl iawn".
Cyfle i rannu atgofion
I rai o blant a phobl ifanc Y Felinheli, mae'r eisteddfod leol yn rhywbeth newydd iddyn nhw, ond mae rhai yn dal i gofio eisteddfod y pentref ddegawdau yn ôl.
Mae Anwen Lynne Roberts yn cofio cystadlu yno pan oedd yn iau.
Dywedodd: "Oni'n berson reit nyrfys i ddweud y gwir, felly doeddwn i ddim yn o'r hoff o gystadlu, ond roedd mam yn awyddus i mi 'neud.
"'Dw i'n cofio nosweithiau hwyr iawn... mi oedd hi wastad yn llawn iawn a lot o brysurdeb a phawb yn mwynhau. Mi oedden ni blant yn cael aros fyny'n hwyr, felly mi oedd hynny'n hwyl.
"Mi oedd fy ewythr i o Gaernarfon, mi oedd o'n hoffi barddoni, ac mi wnaeth o ennill y gadair yma yn 1973.
"Mae'n draddodiad reit hir, ac i bentref y maint yma, efo gymaint o bethau arall hefyd yn mynd 'mlaen, mae'r eisteddfod yn bwysig.
Ychwanegodd ei bod yn falch iawn i'r eisteddfod gael ei "hatgyfodi".
Un arall sy'n cofio'r eisteddfod cyn iddi ddod i ben ydi Margaret Tüzünar.
"Oedd hi wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd maith, 'dw i'n cofio pan oedden ni'n blant, mi oedd y lle'n llawn ac yn mynd am ddau ddiwrnod.
Dechreuodd weithio fel ysgrifennydd yr eisteddfod ym 1975 a "mi oedd yn reit ddiddorol, ond lot o waith a lot o drefnu", meddai.
"'Dw i'n siŵr fod o'n galonogol iawn i'r pwyllgor weld y lle'n llawn, a bod y diddordeb dal yno."
'Mynd ati i'w chodi hi o'r llwch'
Un aelod o'r criw o bobl sydd wedi bod wrthi yn atgyfodi'r eisteddfod yw Osian Wyn Owen.
Esboniodd bod y criw o bobl leol wedi dod o hyd i adroddiadau papur newydd am hanes yr eisteddfod yno.
Dywedodd bod yr adroddiadau hyn deillio nôl i'r ganrif cyn y ganrif ddiwethaf ac yn sôn am bwyllgor eisteddfod gadeiriol yn y Felinheli yn codi pabell i dair mil o bobl.
"Mae'n rhaid fod 'na dipyn o fynd ar y cystadlu yn y dyddiau hynny", meddai.
Yn ôl Osian, mae'r pentref yn llawn talent ond nad oedd digwyddiad i bobl ddangos y talentau hynny.
"Mi oedd criw ohonom ni yn y pentref yn meddwl mor od oedd hi, mewn pentref mor Gymreigaidd a llawer iawn o dalent, bod dim eisteddfod, felly meddwl 'beth am i ni fynd ati i'w chodi hi o'r llwch"
"Mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc a phobl o bob oed wrth gwrs.
"Ond mae'r pwyslais yna ar bobl ifanc, rhoi'r hyder a'r gallu iddyn nhw sefyll ar lwyfan o flaen cynulleidfa a mynegi eu hunain."
Ychwanegodd : "Ti'n sylwi hwyrach ymlaen mewn bywyd, cymaint o fudd ti'n bersonol wedi'i gael o'r cyfleoedd yna.
"Felly mae'n bwysig bod ni'n mynd ati i roi'r cyfleoedd hynny i'r genhedlaeth nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023