Bryn Terfel, KT Tunstall a mwy: Pwy sy'n Eisteddfod Llangollen 2025?

Bryn Terfel, yn canu mewn i meicroffon ar lwyfan.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Syr Bryn Terfel yn perfformio ar ddiwrnod olaf yr ŵyl ym mis Gorffennaf 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae prif artistiaid Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2025 wedi'u cyhoeddi.

Bryn Terfel fydd yn cloi'r digwyddiadau gyda'r nos, gyda pherfformiadau gan Roger Daltrey, KT Tunstall ac Il Divo hefyd yn ystod yr wythnos.

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ddechrau Gorffennaf, dan ddenu cystadleuwyr i Sir Ddinbych o bob cwr o'r byd.

Ond mae'r Eisteddfod wedi ceisio newid cyfeiriad rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf i ddenu cynulleidfaoedd newydd - er bod hynny wedi pryderu rhai.

Dyma fydd yr ail ŵyl ar ôl i'r bwrdd rheoli gymryd "camau brys" i ddiogelu dyfodol yr Eisteddfod yn 2023.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae KT Tunstall yn canu'r caneuon poblogaidd "Suddenly I See" a "Black Horse and the Cherry Tree"

Bydd Roger Daltrey, cyd-sylfaenydd a phrif leisydd y band roc The Who, yn cymryd y llwyfan ar noson gyntaf yr ŵyl.

Yn dilyn ar yr ail ddiwrnod bydd y grŵp Uniting Nations, fydd yn dathlu 80 mlynedd o'r Cenhedloedd Unedig yn eu perfformiad.

Bydd y gantores KT Tunstall yn perfformio gyda cherddorfa lawn ar y noson ganlynol, a bydd Il Divo yn perfformio gyda Laura Wright.

Choir of the World, gan gynnwys y gantores y West End Lucie Jones, fydd ar y noson ganlynol.

Ar y diwrnod olaf, yn cloi'r ŵyl bydd un o gantorion amlycaf Cymru, Syr Bryn Terfel, gyda chriw Fisherman's Friends yn westai.

Bydd llu o artistiaid eraill yn cymryd y llwyfan yn Llangollen, cyn i ŵyl yr Eisteddfod gychwyn.

Mae Olly Murs, The Script, Texas, James, UB40, Human League a Rag N Bone Man yn chwarae cyngherddau yn fyw ar y Pafiliwn yn Llangollen yn yr wythnosau cyn yr Eisteddfod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Texas - a'r prif leisydd Sharleen Spiteri - yn perfformio yn Llangollen yn yr wythnosau cyn yr Eisteddfod ei hun

Mae Eisteddfod Llangollen wedi wynebu nifer o heriau ariannol yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd y bwrdd rheoli y llynedd eu bod wedi "gwneud y penderfyniad anodd" i ddiswyddo prif swyddog yr ŵyl am bod y sefyllfa ariannol a'i dyfodol yn "heriol".

Roedd yr Eisteddfod "wedi cael ei heffeithio'n ddifrifol yn sgil y pandemig Covid a'r argyfwng costau byw", meddai datganiad ar y pryd.

Er hynny, mae'r sefyllfa bellach wedi sefydlogi, yn ôl y cyfarwyddwr artistig presennol, Dave Danford.

Bydd yr ŵyl yn 2025 yn para chwe diwrnod, rhwng 8-13 Gorffennaf.

Mae tocynnau yn mynd ar werth am 09:00 ddydd Gwener.