'Agos at golli Eisteddfod Llangollen yn gyfan gwbl'

Syr Tom JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Tom Jones yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Llangollen nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae partneru gyda chwmni digwyddiadau byw allanol wedi helpu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i droi'r gornel wedi trafferthion ariannol, medd y trefnwyr.

Cyngerdd gan un o gantorion amlycaf Cymru, Syr Tom Jones, sy'n cloi diwrnod agoriadol yr Eisteddfod eleni - y tro cyntaf erioed iddo gymryd rhan yn yr ŵyl.

Wythnosau'n unig ar ôl Eisteddfod y llynedd, fe gyhoeddodd y bwrdd rheoli bod y sefyllfa ariannol a'i dyfodol yn "heriol" a'u bod wedi diswyddo prif swyddog yr ŵyl.

Yn ôl cyfarwyddwr artistig presennol yr ŵyl Dave Danford, mae'r sefyllfa wedi sefydlogi erbyn hyn.

Ac yn ôl un o wirfoddolwyr niferus yr Eisteddfod, dyw pobl heb sylweddoli "pa mor agos oedden ni i golli yr eisteddfod yn gyfan gwbl".

Ffynhonnell y llun, Stephen Cain / Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Plant yn datgan neges heddwch flynyddol yr Eisteddfod ar lwyfan y pafiliwn ddydd Mawrth

Dydd Mawrth yw diwrnod cyntaf chwe diwrnod o gystadlaethau, gweithgareddau a chyngherddau.

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ers 1947 ond roedd ei dyfodol yn edrych yn bryderus y llynedd.

Er iddi fod yn bosib i gynnal Eisteddfod lawn am y tro cyntaf ers cyn Covid, fe wnaeth golled o chwarter miliwn o bunnoedd.

Yn ôl Dave Danford, a gafodd ei benodi i'w swydd ym mis Rhagfyr, doedd niferoedd ymwelwyr heb ddychwelyd i'w lefel flaenorol ac roedd costau cynnal gwyliau "wedi codi'n sylweddol".

'Wedi ailsefydlu ein hunain'

Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod y plant yw'r diwrnod agoriadol yn draddodiadol, ond mae hefyd yn gyfle i groesawu pobl o bedwar ban byd

"Doedd parhau gyda'r hen fodel ddim yn ymarferol," meddai, gan esbonio pam y penderfynodd y bwrdd rheoli i gydweithio gyda chwmni Cuffe & Taylor i drefnu cyngherddau y tu hwnt i rai wythnos yr Eisteddfod ei hun.

Mae Bryan Adams, Simple Minds, Manic Street Preachers, Suede a Kaiser Chiefs eisoes wedi denu torfeydd i'r pafiliwn yn yr wythnosau diwethaf.

Fe fydd Gregory Porter a Katherine Jenkins yn perfformio cyn diwedd wythnos yr Eisteddfod ac fe fydd Nile Rodgers, Jess Glynne a Madness yno yr wythnos ganlynol.

Dywed Mr Danford fod denu cyfres o enwau cyfarwydd "wedi cyflwyno'r ŵyl i gynulleidfa newydd, yn ogystal â denu pobl yn ôl o'r ardal leol".

"Rwy'n teimlo ein bod wedi ailsefydlu ein hunain fel un o brif wyliau cerddorol y DU," meddai.

"Wedi trafferthion ariannol ddigon cyhoeddus ar ôl Covid, dyma'r flwyddyn 'dan ni o'r diwedd yn mynd i fod yn sefydlog unwaith yn rhagor, a 'dan ni'n teimlo'n optimistaidd am y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Y cystadleuwyr o bedwar ban byd yw un o'r ffactorau sy'n gwneud yr Eisteddfod yn ddigwyddiad mor arbennig, medd y trefnwyr

Mae'r trefnwyr yn dweud eu bod ar fin croesawu mwy o ymwelwyr rhyngwladol i'r dref nag ers cyn y pandemig.

Maen nhw hefyd wedi denu mwy o wirfoddolwyr, gyda dros 600 yn gweithio yr wythnos hon.

Un ohonyn nhw yw Elen Roberts, sy'n mynd i’r eisteddfod ers yn ferch ac wedi gwirfoddoli am dros 25 o flynyddoedd.

Mae hi'n dweud bod yr "awyrgylch wedi newid yn gyfan gwbl" eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Un o wirfoddolwyr yr Eisteddfod, Elen Roberts, sydd wedi llunio neges heddwch yr ŵyl eleni

"Dwi'm yn meddwl oedd pobl yn ymwybodol pa mor agos oedden ni i golli yr eisteddfod yn gyfan gwbl, ond roedden ni wir yn," dywedodd.

"Roedd petha' wedi mynd yn reit drist - neb yn gwybod be' oedd yn digwydd."

Erbyn hyn, medd Ms Roberts: "Mae 'na fwrlwm go iawn yn y dre' - mae mor neis gweld petha' mor bositif."

Bydd plant lleol yn perfformio neges heddwch flynyddol yr Eisteddfod, a gafodd ei llunio eleni gan Elen Roberts ei hun, ddwy waith ar lwyfan y pafiliwn ddydd Mawrth cyn i'r paratoadau ddechrau ar gyfer cyngerdd Syr Tom Jones gyda'r nos.

Pynciau cysylltiedig