Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio baban

Mae Rhydian Jamieson o Gwm-cou ger Castellnewydd Emlyn wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed o Geredigion wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio baban.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i leoliad yn Y Ferwig ger Aberteifi ychydig cyn 22:15 ddydd Mercher, 15 Ionawr, ar ôl derbyn galwad yn codi pryderon am les baban.
Yn ôl yr heddlu, cafodd y plentyn ifanc ei gludo i'r ysbyty ble mae mewn cyflwr difrifol.
Clywodd Llys Ynadon Hwlffordd fod y baban, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi dioddef "anafiadau dychrynllyd sydd yn peryglu bywyd".

Cafodd yr heddlu eu galw i leoliad yn Y Ferwig ger Aberteifi nos Fercher, 15 Ionawr
Yn gwisgo siwmper lwyd, cafodd Rhydian Jamieson o Gwm-cou ger Castellnewydd Emlyn ei gadw yn y ddalfa.
Cadarnhaodd cyfreithiwr yr amddiffyniad Jack Lester nad oedd yna gais am fechnïaeth.
Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe, ble mae disgwyl y bydd Mr Jamieson yn ymddangos nesaf ar 21 Chwefror.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Clive Davies fod Y Ferwig yn "gymuned glos" a bod "pawb yn y gymuned yn meddwl amdano'r teulu a'r babi".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr