Dynes o Sir Gâr yw'r enillydd Bake-Off cyntaf o Gymru

Georgie GrassoFfynhonnell y llun, Channel 4
Disgrifiad o’r llun,

Georgie Grasso yw'r person cyntaf o Gymru i ennill y rhaglen boblogaidd

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Sir Gâr wedi cael ei choroni'n enillydd ar raglen deledu The Great British Bake-Off eleni, ar ôl rownd derfynol llawn cynnwrf nos Fawrth.

Yn nyrs bediatrig 34 oed, Georgie Grasso yw'r person cyntaf erioed o Gymru i ennill y gystadleuaeth goginio.

Dyma oedd y 15fed cyfres o'r rhaglen, ac roedd yn rhaid i Georgie gymryd rhan mewn 30 o heriau dros 10 pennod wahanol er mwyn dod yn fuddugol.

Wrth glywed ei bod wedi cyrraedd y brig, dywedodd Georgie: "Mae hyn yn lloerig! Dwi wedi ennill, dwi methu credu'r peth."

Georgie GrassoFfynhonnell y llun, Love Productions/Mark Bourdillon/PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Georgie Grasso ar ôl ennill ei bod hi "methu credu'r peth"

Ar ddechrau'r broses, roedd 12 o gystadleuwyr yn brwydro yn erbyn ei gilydd yn y babell wen.

Ond dim ond tri ymgeisydd oedd ar ôl erbyn pennod olaf y gyfres, gyda Christiaan a Dylan yn ymuno â Georgie yn y ffeinal.

Yn yr heriau olaf roedd gofyn iddyn nhw greu sgons, te prynhawn a chacen arbennig gyda gwahanol haenau.

Llun o'r cystadleuwyrFfynhonnell y llun, Channel 4/Love Productions/Mark Bourdillon
Disgrifiad o’r llun,

Cystadleuwyr 15fed cyfres y rhaglen

Dywedodd Georgie: "Mae hyn yn golygu popeth i mi. Dwi wastad wedi bod mor amheus o fy hun.

"Mae gen i hwn a'r llall yn anghywir hefo fi, ac yn meddwl na alla'i ei wneud e, ac mae rhywun yn chwilio am esgusodion.

"Am unwaith, wnes i feddwl fy mod i'n mynd i fynd amdani, a rhoi popeth oedd gen i mewn iddo.

"Yn gweithio pob awr, 'nes i aberthu amser gyda'r plant a'r teulu.

"Dwi mor falch o fi fy hun oherwydd dwi wedi profi y galla'i wneud e, a nawr dwi yma heddiw fel yr enillydd!"

Pynciau cysylltiedig