Jac Jones, yr artist tu ôl i rai o gymeriadau plant enwocaf Cymru

Jac Jones
  • Cyhoeddwyd

Mae gwaith Jac Jones o Langefni i'w weld mewn llyfrau plant ledled Cymru ers degawdau, ac mae ei ddarluniau ymysg rhai mwyaf adnabyddus y genedl.

Jac sy'n gyfrifol am lunio'r cymeriad Jac y Jwc, yn ogystal â dwsinau o ffigyrau eraill.

Mae arddangosfa arbennig o'i waith i'w gweld yn Storiel, Bangor, tan 4 Ionawr, gydag enghreifftiau yno o'r gwahanol arddulliau mae wedi eu defnyddio dros y blynyddoedd.

"Pan o’n i’n blentyn doedd ‘na ddim byd arall ar gael, dim teledu na gemau. Ges i fy magu gan fy nain a taid, felly pensal a phapur oedd hi," meddai Jac.

“Ond doeddwn i ddim yn dda! O'n i ddim yn bwriadu gwneud dim byd ag arlunio i fod onest – isio bod yn bêl-droediwr i Lerpwl neu mynd i’r RAF o'n i.

"Ond hyn ddoth o gwmpas ac yn ara’ bach ’nes i ennill fy nhir."

Disgrifiad,

Jac a'i gymeriad enwocaf, Jac y Jwc

"O’n i mewn swydd yn Llangefni ble do’n i ddim yn hapus iawn i fod onest. Ac fel rhyw syniad ddoth heibio efo’r gwynt, 'nes i feddwl beth am fynd ar liwt fy hun a’i thrio hi (fel artist)."

Ers y penderfyniad hwnnw yn 1974 mae Jac wedi gweithio ar tua 400 o lyfrau plant.

Mae wedi ennill gwobr Tir na n-Og bedair gwaith (1989, 1990, 1998 a 2020), ac fe dderbyniodd Tlws Mary Vaughan Jones yn 2012, sy'n cael ei roi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i lenyddiaeth plant Cymraeg.

Creu Jac y Jwc

“Ges i gynnig trwy’r Cyngor Llyfrau i weithio efo'r awdur Mary Vaughan Jones, a'i bwrpas o (Jac y Jwc) oedd i fod yn gymeriad fysa’n hudo plant i ddarllen Cymraeg, a hefyd hudo plant i wneud llun oedd yn weddol hawdd i’w wneud. Yna daeth y teulu; Guto a Dwmplen Malwoden ayyb."

Fe weithiodd Jac gyda Mary Vaughan Jones am flynyddoedd gan lunio nifer o gymeriadau poblogaidd fel Nicw Nacw, a oedd yn seiliedig ar ei fab ieuangaf, Carwyn.

Felly, sut mae Jac yn teimlo am gymeriadau fel Jac y Jwc heddiw?

"O’n i’n falch ohono ar y pryd, ond oedd rhaid imi gyfadda', ac mae hyn yn teimlo’n hurt, o’n i’n teimlo weithiau fel ‘dwi’n well na hyn’. Ond dwi ‘di gweld dros hanner can mlynedd fod o'n dal yn gymeriad poblogaidd ac mae hynny'n golygu llawer i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o frasluniau Jac, sy'n rhan o'r arddangosfa

“Mae o (Jac y Jwc) yn edrych i fi fel Stan Laurel, o Laurel and Hardy. 'Nes i ryw lun eitha’ clyfar o hwn efo’r het a golwg gwirion, ond gath o ei wrthod am fod o ddim digon hawdd i blant ei wneud. Y traed oedd yn bwysig, achos geiriau cynta' y llyfr cynta' ydi ‘dwmp, dwmp, dwmp’.

“Y rheswm dros liwiau Jac y Jwc ydi'r cyfnod gath o ei wneud. Roedd cymeriadau llyfrau plant yn y 1970au yn dueddol o fod yn ddu ac un lliw arall. Roedd y llyfr cynta' 'nes i'n ddu efo smotiau o las. Wedyn dros y blynyddoedd cafodd mwy o liwiau eu defnyddio.

“Beth oedd Mary isio o Jac y Jwc oedd rwbath 'sa plentyn yn gallu ei liwio, felly du a coch oedd y penderfyniad, ac roedd Jini’n ddu ac oren. Mae pentre’ Sali Mali’n lliwgar iawn bellach, ond ar y pryd y dechnoleg a’r gost oedd y prif ffactorau."

Disgrifiad o’r llun,

Engreifftiau eraill o ddarluniau Jac sydd mewn llyfrau plant

Perthynas ag awduron

Dros hanner canrif mae Jac wedi gweithio efo rhai o brif awduron plant Cymru. Yn ogystal â Mary Vaughan Jones, mae wedi cydweithio gyda T.Llew Jones, Emily Huws, Mair Wyn Hughes a'r Gwyddel, Malachy Doyle, i enwi ond rhai.

Bellach mae'n gweithio'n rheolaidd gyda Manon Steffan Ros. Yn siarad amdani dywed Jac "mae’n bleser gweithio efo hi achos mae hi’n gês ac yn sgwennu mor dda."

Disgrifiad o’r llun,

Llyfr Manon Steffan Ros a Jac Jones o 2019, Pobol Drws Nesaf

Cloriau recordiau

Law yn llaw â'r gwaith llyfrau plant, mae Jac wedi dylunio cloriau rhai o EPs ac albymau mwyaf adnabyddus Cymru, ac mae rhai ohonynt i'w gweld yn yr arddangosfa.

Fe ddyluniodd gloriau i Brân, Leah Owen, Edward H. Dafis, Dafydd Iwan, Tecwyn Ifan a nifer o artistiaid eraill.

Disgrifiad,

Jac yn trafod rhai o'r cloriau sy'n rhan o'r arddangosfa

Dywed Jac ei fod yn hoff o ymchwilio i hanes y bobl a'r pynciau sy'n gysylltiedig â'r record cyn rhoi pensil ar bapur, a'i fod yn cael boddhad mawr o arbrofi gyda syniadau a dulliau gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Mab ieuangaf Jac, Carwyn, ar glawr y record Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben? gan Arfon Wyn

John Ogwen

Un llun sy'n dal y llygaid yn syth wrth gamu i ystafell yr arddangosfa yn Storiel yw'r portread o John Ogwen.

“Dwi'm yn cael cyfle i fod yn ‘artist’ yn aml", meddai Jac, "ond efo John o’n i’n gwybod bod o yn y ddrama ‘Leni’ gan Dewi Wyn Williams, a ‘nes i benderfynu gwneud llun go arty ohono.

"Os dwi’n cofio’n iawn yn y ddrama mae o’n marw’n araf bach, ac wedyn syniad y llun ydi mai hwn di’r sioe olaf, mae ‘di llacio’r bow tie, mae’r fairy lights yn cynrychioli'r ffaith fod hi’n sioe Dolig, ac mae’r meic yn hongian fel ‘na’n dangos bod y sioe drosodd."

Disgrifiad o’r llun,

Portread Jac o'r 'hogyn o Sling', John Ogwen

Mae Jac yn cyfaddef iddo ddefnyddio dulliau anghonfensiynol i greu'r llun.

“’Nes i’r llun mewn paent acrylic, a dim ond ar ôl imi ei orffen a John yn deud bod o’n hapus ‘nes i ddarllen all neb wneud portrait mewn acrylic. Wel, too late o’n i ‘di wneud o!

"Nes i beintio llun o’r ddau fab hynaf mewn acrylic hefyd, ond o’n i methu sefyll efo’r stwff ma’n hir, odd’na ormod o ofyn ar gyfer y stwff i’r llyfrau.”

Disgrifiad o’r llun,

Gafyn a Sion, meibion hynaf Jac

Jac yr awdur

“Y gwir ydi mae gweithio yn fy maes i'n gallu bod yn joban eitha' unig," meddai Jac. "Pan mae gwaith artist ‘go iawn’ yn gallu bod mewn ffrâm aur, dwi'n dylunio i awdur arall a theimlo dyletswydd i’r awdur ac i’r plant sy’n darllen yn yr hyn dwi’n ei wneud."

Ond yn ogystal â dylunio ar gyfer llyfrau awduron eraill mae Jac hefyd wedi sgwennu llyfrau ei hun.

“Heb enwi enwau, ymysg y cannoedd o lyfrau dwi ‘di gweithio arnyn nhw mae yna rai sydd wedi bod yn drech arna i am fod y sgwennu mor wael, a dwi'n meddwl bod o'n bwysig dweud hynny er mwyn cadw safonau. Ac o’n i yn fy 60au yn llafurio ar ryw joban ar y fainc a 'nes i feddwl, er bod gen i ddyslecsia drwg iawn, pam ddim rhoi cynnig arni fy hun.

"Dwi 'di gwneud saith neu wyth o lyfrau bellach, a gyda chyfrifiaduron heddiw dwi'n cael gwybod pan dwi’n sillafu rwbath yn anghywir!"

Disgrifiad o’r llun,

Llyfr o frasluniau Jac

Wrth edrych yn ôl dros ei yrfa a meddwl am ddyfodol arlunio yng nghyd-destun deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence) mae Jac yn fodlon ei fyd.

“Mae fy nghyfnod i fel artist yn dod i ben, achos fory fydd ‘na rhywun yn gallu creu delwedd heb hyd yn oed gyffwrdd mewn cyfrifiadur, jest siarad a esbonio'r hyn maen nhw eisiau. Fydden nhw’n disgrifio rhyw fyd canol oesol efo mynyddoedd ac afon ayyb, a bydd AI yn gallu ei greu o.

“Dwi ddim yn digalonni am hynna, achos dwi ‘di cael fy amser ac wedi ei fwynhau. Mae ’na lot o bobl sy' yn eu 80au fel fi sy'n difaru dewis yr yrfa 'nathon nhw. Ond yn fy myd i, byswn i’n mynd yn ôl i’r dechrau a phwyso'r un botwm a gwneud yr un peth eto achos dwi ‘di cael gymaint o foddhad dros y blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Rhywfaint mwy o'r hyn sydd i'w weld yn yr arddangosfa yn Storiel ar hyn o bryd