Article: published on 4 Ebrill 2024
Pete Jones: Yr artist a gymerodd saib am 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd
"Rydw i'n meddwl y dylai celf wneud i bobl deimlo rhywbeth neu feddwl rhywbeth."
Er ei fod yn arlunio ers y 70au, cymerodd Pete Jones saib am 30 mlynedd i weithio fel nyrs iechyd meddwl.
Bellach wedi ailgydio yn ei frws paent, yma mae Pete yn egluro trywydd ei yrfa a'i waith, sydd wedi cael ei ddylanwadu gan ei fagwraeth, ei gynefin, a'r cleifion o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl:
Dal eiliad mewn amser
Fel artist, mae yna edefyn sy’n plethu ei hun drwy gydol fy ngwaith, sy’n clymu fy ymateb emosiynol i bobl, y mynyddoedd, y môr ac i Gymru.
Alla i ddim rhagweld canlyniadau’r broses o baentio ond dwi’n dyheu am ddal hanfod lle, eiliad mewn amser, neu gymeriad unigolyn.
Mae'n rhaid i fy ngwaith ddechrau gydag chysylltiad emosiynol i'm pwnc.
Fel myfyriwr celf ar ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au cafodd fy ngwaith ei ddylanwadu gan weddillion y diwydiant llechi yn ardal Bethesda, fel "Peiriant".
Mae ardal y chwareli llechi yn parhau i fy swyno ac yn llywio llawer o fy ngwaith hyd heddiw.
Cleifion ar gof a chadw
Rhwng 1986 a 2016 cymerais seibiant o baentio i weithio fel Nyrs Anabledd Dysgu ac i fagu teulu gyda fy ngwraig Anna.
Treuliais lawer o fy ngyrfa gynnar yn Ysbyty Bryn y Neuadd, sefydliad arhosiad hir a oedd yn gartref i lawer o bobl a oedd wedi’u labelu fel rhai ag anabledd dysgu. Er nad oeddwn i'n paentio'n rheolaidd bryd hynny, daeth fy mhrofiadau yn gatalyddion pwerus ar gyfer y paentiadau roeddwn i'n gwybod fy mod am eu cynhyrchu yn y dyfodol.
Roedd yr ysbyty yn gartref i bobl a oedd wedi mynd yn angof i raddau helaeth ac roeddwn i eisiau – yn fy ffordd fy hun - eu rhoi ar gof a chadw drwy fy mhaentio.
Y paentiad arwyddocaol cyntaf yn seiliedig ar fy mhrofiad yn yr ysbyty oedd fy mhortread o “Joseph Roy Bevans”. Roedd Joe yn un o rêl cymeriadau'r ysbyty, yn adnabyddus nid yn unig yno ond hefyd o fewn cymuned leol Llanfairfechan.
Roeddwn wedi fy syfrdanu pan cafodd y portread yma le yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rydw i hefyd wedi bod yn ffodus bod 12 o’m paentiadau wedi dod yn rhan o gasgliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Credaf fod hyn yn bwysig, gan fod pobl ag anableddau dysgu a’u straeon wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth yn ein celf a thrwy fod yn bresennol o fewn casgliadau cenedlaethol maent yn dod yn rhan fach ond pwysig o stori Cymru a’i phobl.
Mae dau o'r paentiadau yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn adrodd straeon tra gwahanol.
Astudiaeth o Dafydd, gŵr a fyddai’n treulio oriau ar dir yr ysbyty yn chwarae gyda’r eitemau amrywiol y gallai ddod o hyd iddynt o fewn y goedwig, yw “Holding the Stone”.
Mae’n dal carreg yn y paentiad. Ar y diwrnod hwnnw, roedd y garreg yn rhywbeth gwirioneddol bwysig i Dafydd, y diwrnod canlynol efallai mai rhywbeth arall oedd yn mynd â’i fryd, ffon efallai.
Y syniad y tu ôl i'r paentiad yw y gallai pethau dibwys i rai pobl fod yn hynod bwysig i eraill; mae am beidio â llunio barn am bobl.
Mae “5 Orange Chairs” yn wahanol iawn i’r holl baentiadau sydd gen i yn yr Amgueddfa Genedlaethol gan nad yw’n darlunio unrhyw berson go iawn, ond teimladau ac emosiynau.
Mae'r paentiad wedi'i osod o fewn un o ystafelloedd dydd mawr yr ysbyty. Gallai ystafelloedd o'r fath fod yn lleoedd swnllyd ac anwadal iawn. Roedd pobl gydag anghenion gwahanol iawn yn cael eu cartrefu gyda'i gilydd ac mae'r ddelwedd yma yn dangos y casgliad o deimladau a allai fodoli yno.
Edrych tua'r gorwel
Wedi tyfu i fyny mewn ardal oedd wastad mewn perygl o orlifo o’r môr (ardal Hirael ym Mangor) dwi’n meddwl fod hyn wedi dylanwadu ar lawer o fy ngwaith. Fel plentyn byddwn yn chwarae pêl-droed ar gae ger y môr ac yn edrych allan ar y gorwel, yn meddwl tybed beth oedd allan yna yn y pellter.
Mae fy niddordeb yn hanes a gwleidyddiaeth Cymru hefyd yn bwysig, yn enwedig yng nghyd-destun 'llifogydd' ac mae’n atsain arbennig o safbwynt gwleidyddol.
Dyna oedd sail “Capel Celyn” sy’n cynnwys ffigwr ysgerbydol yn agos at foddi gyda phenglog ceffyl Y Fari Llwyd.
Mae gorwelion hefyd yn amlwg yn llawer o'm morluniau. Yn y paentiad “Gorwel” rydw i’n bwrpasol wedi lleihau'r ddelwedd bron yn haniaethol.
Fel artist dwi'n trio peidio bod â steil benodol. Mae 'na berygl y gall artistiaid ddatblygu arddulliau sy'n fasnachol lwyddiannus a bryd hynny rydw i'n meddwl bod paentio yn dod yn fusnes.
"... mae yna olau bob amser"
Mae’r haul a’r lleuad yn ymddangos yn llawer o fy ngwaith, er enghraifft “Machlud”. Wrth i mi fynd yn hŷn rwy'n gweld cylch yr haul yn codi ac yn machlud bob dydd fel trosiad o dreigl amser a'n marwoldeb.
Mae llawer o bobl wedi dweud bod llawer o fy ngwaith yn ‘dywyll’… ond mae yna olau bob amser. Dydw i ddim yn berson crefyddol ond rydw i'n cael teimlad ysbrydol wrth dreulio amser yn yr ardaloedd hardd o gwmpas lle rydw i'n byw, yn enwedig yn y mynyddoedd.
Yn un o fy mhaentiadau diweddaraf, “Ben Bora Llyn Ogwen”, mae’r haul yn codi uwchben Llyn Ogwen ac wedi ei baentio mewn arddull llac iawn gyda haenau trwchus o baent olew.
Rydw i wedi defnyddio'r dull hwn gyda llawer o'm paentiadau mynydd yn ddiweddar. Mae’n siŵr y bydd fy steil yn newid eto cyn bo hir ac mae hynny'n fy nghyffroi fel artist.
Rydw i'n meddwl y dylai celf wneud i bobl deimlo rhywbeth neu feddwl rhywbeth. Pan fydd yn gwneud y ddau mae'n beth hynod bwerus.
Bydd gwaith Pete yn cael ei arddangos yn Oriel Plas Glyn y Weddw ym mis Hydref eleni, ac yn Oriel Môn yn 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd29 Medi 2023
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021