Andrew RT Davies: 'Cynllwynio yn fy erbyn ers mis Ebrill'
- Cyhoeddwyd
Mae Andrew RT Davies yn honni fod rhai wedi bod yn cynllwynio i herio ei arweinyddiaeth ers misoedd.
Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Mr Davies ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, er iddo ennill pleidlais o hyder yn gynharach yn y dydd.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd Mr Davies nad oedd yn "credu bod yr achos Ceidwadol wedi'i helpu" gan yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "cynllwynio a chynllunio."
Hyd yn hyn dim ond Darren Millar sydd wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll yn y ras i'w olynu, a bydd angen i unrhyw ddarpar ymgeisydd gael enwebiadau gan dri AS arall erbyn 17:00 ddydd Iau.
Mae gan Mr Millar gefnogaeth Andrew RT Davies, y cyn-arweinydd Paul Davies, Russell George, Tom Giffard, Altaf Hussain, Gareth Davies, James Evans, Joel James, Peter Fox a Janet Finch-Saunders.
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd29 Medi 2024
Dywedodd Andrew RT Davies: “Y ffordd orau o uno’r grŵp Ceidwadol yn fy meddwl oedd i ymddiswyddo, er i mi ennill y bleidlais o hyder.
"Rydym yn y cyfnod cyn etholiad Senedd 2026 a dyw anhrefn ddim yn dda i unrhyw blaid wleidyddol.
“Yn fy nghalon dwi’n credu bod yna gynlluniau ar y gweill mor bell yn ôl ag Ebrill i agor cwestiwn yr arweinyddiaeth.
"Dydw i ddim yn credu bod yr achos Ceidwadol wedi'i helpu gan eu cynllwynio a'u cynllunio."
Dywedodd Darren Millar wrth y BBC ei fod yn credu mai fe yw'r ymgeisydd all "uno'r blaid" yng Nghymru.
Fe wnaeth Mr Millar gefnogi Andrew RT Davies a'i ddisgrifio fel "arweinydd aruthrol sydd wedi cyfrannu at Gymru a'r Senedd".
"Mae wedi ein harwain gyda rhagoriaeth am ymhell dros ddegawd," meddai.
“Dyna’r etifeddiaeth rydw i eisiau adeiladu arni a pham rydw i wedi cynnig fy hun i fod yn arweinydd nesaf grŵp y Senedd.
“Mae’n rhaid i ni fynd yn ôl at ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac mae’n rhaid i hynny fod yn ffocws i ni.”
Pan ofynnwyd iddo a hoffai gael gornest am yr arweinyddiaeth, dywedodd y byddai'n "hapus iawn i gael gwrthwynebydd a chyfleu fy neges am ddyfodol Cymru a'r blaid."
"Rwy'n optimistaidd am y dyfodol," ychwanegodd.
Ymgeiswyr eraill?
Mae un o'r ymgeiswyr eraill posibl, Natasha Asghar, llefarydd y blaid ar drafnidiaeth, wedi cadarnhau na fydd hi'n sefyll.
Meddai, "mae gen i’r holl ffydd yn y byd yn Darren. Mae'n anhygoel o alluog... cyn penderfynu rydw i eisiau aros i weld a oes unrhyw un arall yn sefyll ond rwy’n awyddus i gefnogi Darren”.
Mae ymgeiswyr posibl eraill yn cynnwys Samuel Kurtz, llefarydd y blaid ar yr economi, a Sam Rowlands, llefarydd y blaid ar iechyd.