'19 stôn o gig eidion Cymreig gorau': Pwy yw Andrew RT Davies?

Andrew RT Davies yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn 2016Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andrew RT Davies yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn 2016

  • Cyhoeddwyd

Sgandal wleidyddol am ddiod feddwol yn y Senedd yn ystod y pandemig wnaeth wthio Andrew RT Davies yn ôl i reng flaen gwleidyddiaeth Cymru.

Dair blynedd yn ddiweddarach, mae anniddigrwydd gyda'i arweinyddiaeth - a'i sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol - wedi ei yrru yn ôl i'r meinciau cefn.

Nid dyma’r tro cyntaf i Mr Davies adael ei swydd fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, dan bwysau gan gydweithwyr yn y blaid.

Yn 2018, roedd Alun Cairns, oedd yn Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, yn ganolog i'r ymdrechion i gael gwared ohono, gan arwain at seibiant o dair blynedd o'r arweinyddiaeth.

Ond mae Andrew RT Davies wedi arwain y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru am y rhan fwyaf o'r 13 mlynedd diwethaf yn ogystal â dau etholiad.

Mae wedi goroesi yn hirach na phum prif weinidog Ceidwadol y DU a thri phrif weinidog Llafur Cymru.

Mae'r ffarmwr wnaeth droi'n wleidydd yn adnabyddus am ei ymadroddion unigryw - gan ddisgrifio ei hun unwaith fel "19 stôn o gig eidion Cymreig gorau".

'Glas pan gefais fy ngeni ac yn las nawr'

Ganwyd Mr Davies, sy'n 56, yn y Bont-faen, Bro Morgannwg. Roedd yn enedigaeth ffolennol (breech) ac fe ddywedodd wrth y BBC yn 2016 ei fod yn "las pan ges i fy ngeni ac yn las nawr".

Fe gafodd ei fagu ar y fferm deuluol yn Sain Hilari, busnes gafodd ei ddechrau gan ei dad ar ôl cyfnodau fel bocsiwr ac yn gweithio mewn ffeiriau.

Roedd amaeth yn rhan bwysig o fywyd Mr Davies, a bu'n llywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llantrisant ac yn gynrychiolydd Cymreig ar gyngor Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

Ymunodd â’r blaid Geidwadol yn 1997, ac roedd yn ymgeisydd ar gyfer senedd San Steffan ddwywaith, cyn ennill etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007.

Er yn wleidydd byth ers hynny, mae o'n dal i ymwneud â’r fferm deuluol ac mae'n briod gyda phedwar o blant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Daeth yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd am y tro cyntaf wedi etholiad y cynulliad yn 2011, pan gollodd ei ragflaenydd Nick Bourne ei sedd. Fe gurodd Nick Ramsay o Fynwy yn y frwydr i arwain y grŵp.

Yn ystod ei arweinyddiaeth fe gafodd y Ceidwadwyr eu canlyniad gorau yng Nghymru am 30 mlynedd yn etholiad cyffredinol 2015, ond yn 2016 fe gollodd y blaid tair sedd yn etholiad y Cynulliad, gan ddod yn drydydd.

Fe barhaodd yn y swydd ond fe wnaeth y penderfyniad yn 2017 i groesawu'r cyn-aelod Ceidwadol Mark Reckless i'w grŵp yn y Senedd gythruddo nifer o aelodau blaenllaw'r blaid.

Roedd yna rwyg amlwg rhyngddo fo ac aelodau seneddol y blaid, ac fe gafodd neges destun ei anfon ato mewn camgymeriad gan Alun Cairns, yn sôn am gynllwyn i'w hel o'i swydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andrew RT Davies cyn gosod ei bleidlais yn Etholiad Senedd 2021

Yn y pendraw fe ildiodd yr awenau o'i wirfodd ei hun yn 2018, gyda Paul Davies AS Preseli Penfro yn cael ei benodi yn ei le.

Dair blynedd yn ddiweddarach roedd yn ôl yn arwain y Ceidwadwyr yn y Senedd yn ddiwrthwynebiad, ar ôl i ymchwiliad ddod i'r casgliad bod Paul Davies wedi yfed alcohol ar dir y Senedd ddyddiau wedi i waharddiad ddod i rym yng Nghymru i atal lledaeniad Covid.

Ers hynny mae o wedi bod yn llafar iawn ei wrthwynebiad o bolisïau Llywodraeth Cymru, ac fe gafodd ei gyhuddo gan Gomisiynydd safonau'r Senedd o ddwyn anfri ar y Senedd drwy alw'r terfyn cyflymder 20mya yn bolisi “blanced”.

Dros y misoedd diwethaf mae Mr Davies wedi wynebu beirniadaeth gyhoeddus a phreifat gan rai o’i ASau, yn rhannol oherwydd rhai o’i negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd ei feirniadu gan grŵp Mwslimaidd mewn ffrae am argaeledd cig di-halal mewn ysgolion, ac fe gafodd ei feirniadu gan rai o'i gyd-aelodau am bostio arolwg ar wefan X yn holi barn am gael gwared â'r Senedd.

Pynciau cysylltiedig