Andrew RT Davies yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr

Bu Andrew RT Davies yn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ers 2021, yn ei ail gyfnod yn y rôl
Disgrifiad o’r llun,

Bu Andrew RT Davies yn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ers 2021, yn ei ail gyfnod yn y rôl

  • Cyhoeddwyd

Mae Andrew RT Davies wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.

Daw hyn er iddo ennill pleidlais o hyder fore Mawrth.

Mae BBC Cymru yn deall fod grŵp y Torïaid yn y Senedd wedi'i hollti, gyda naw yn pleidleisio drosto - gan gynnwys Mr Davies ei hun - a saith yn erbyn.

Mewn llythyr at gadeirydd y Torïaid Cymreig, Bernard Gentry, dywedodd Mr Davies ei fod yn ymddiswyddo "gan resynu".

Yr aelodau oedd wedi pleidleisio o blaid Mr Davies oedd Gareth Davies, Paul Davies, Russell George, Mark Isherwood, Joel James, Laura Anne Jones, Darren Millar, Janet Finch Saunders a Mr Davies ei hun.

Y rhai a bleidleisiodd yn ei erbyn oedd Natasha Asghar, James Evans, Peter Fox, Tom Giffard, Altaf Hussein, Sam Kurtz a Sam Rowlands.

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Darren Millar yw'r cyntaf i ddweud y bydd yn ymgeisydd i olynu Mr Davies.

Yn ddiweddarach brynhawn Mawrth, cyhoeddodd Darren Millar y bydd yn ymgeisydd i olynu Mr Davies.

Dywedodd ar X: “Yng ngoleuni digwyddiadau’r bore yma, ac ar ôl trafod materion gydag Andrew RT Davies a chydweithwyr eraill, rwyf wedi penderfynu caniatáu i’m henw fynd ymlaen i gael fy enwebu fel arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.

“Mae Andrew wedi bod yn arweinydd aruthrol, gan helpu’r blaid i gyflawni’r canlyniadau gorau erioed yn etholiad y Senedd yn 2021. Mae’n gadael esgidiau mawr iawn i’w llenwi.

“Mae’n bryd nawr i’n plaid uno, adeiladu ar waith Andrew, a mynd â’r frwydr i’n gwrthwynebwyr gwleidyddol wrth i ni baratoi ar gyfer etholiadau Senedd Cymru yn 2026.”

Dywedodd ffynhonnell Dorïaidd Gymreig oedd yn cefnogi Andrew RT Davies wrth y BBC: “Mae gan Darren y profiad a’r presenoldeb. Mae e ar ochr dde'r blaid. Mae hyn yn gwneud synnwyr.”

'Fy safle yn anghynaladwy'

Meddai Andrew RT Davies yn y llythyr at gadeirydd y Torïaid Cymreig, Bernard Gentry: "Yr wythnos ddiwethaf, daeth grŵp o aelodau o’r Senedd ata i, gan fygwth ymddiswyddo o’u swyddi yn y cabinet cysgodol pe na bawn yn cytuno i ymddiswyddo fel arweinydd.

"Gofynnais felly am gynnig o hyder yn fy arweinyddiaeth i’w gynnal mewn cyfarfod y bore 'ma.

"Roedd yn amlwg o’r canlyniad nad yw lleiafrif sylweddol o’r grŵp yn cefnogi ein hymagwedd, er mai dyma’r unig strategaeth ymarferol sydd ar gael.

"Er y byddai wedi bod yn anrhydedd i mi barhau fel arweinydd, mae fy safle yn anghynaladwy o ganlyniad."

Dywedodd na fyddai'n sefyll yn y gystadleuaeth arweinyddiaeth sydd i ddod.

Dyma'r ymddiswyddiad sylweddol cyntaf ymhlith Ceidwadwyr ers i Kemi Badenoch ddod yn arweinydd y blaid.

Mewn datganiad, diolchodd Nigel Huddleston AS, cyd-gadeirydd y Blaid Geidwadol, i Mr Davies am ei "ymroddiad ac arweiniad".

Ychwanegodd: “Mae’r Blaid Geidwadol gyfan yn unedig wrth adnewyddu’r blaid ar gyfer y dyfodol, a gwn y bydd Andrew yn ein helpu gyda’r genhadaeth honno wrth iddo barhau yn ei rôl fel Aelod Cynulliad [sic].”

Pam fod anfodlonrwydd?

Cafodd y bleidlais hyder yn ei arweinyddiaeth ei chynnal fore Mawrth ar ôl i rai o'i gyd-aelodau Torïaidd godi pryderon amdano.

Cafodd y bleidlais ei chynnal yn breifat yng nghyfarfod wythnosol bore Mawrth o’r grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd.

Mae’n dilyn misoedd o sïon ynglŷn â Mr Davies, a ddaeth yn arweinydd y Torïaid yn y Senedd am y tro cyntaf 13 mlynedd yn ôl.

Roedd Mr Davies wedi wynebu beirniadaeth eleni dros sylwadau am gig halal mewn ysgolion ac ar ôl iddo ofyn i bobl mewn sioe amaethyddol a oedden nhw’n meddwl y dylai’r Senedd gael ei diddymu.

Cafodd y bleidlais hyder ei threfnu ôl i grŵp bach o aelodau Torïaidd fynd i weld Mr Davies yn ei swyddfa ym Mae Caerdydd ddydd Iau diwethaf.

Nid oedd yr un o'r 16 o aelodau Ceidwadol yn y Senedd wedi galw'n gyhoeddus arno i roi'r gorau iddi, er i eraill yn y blaid wneud.

Roedd y cyn-ymgynghorydd i Boris Johnson, Guto Harri, wedi dweud bore Mawrth y dylai Mr Davies “edrych yn y drych ac ystyried a allai rhywun arall wneud y swydd yn well”.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Andrew RT Davies yn camu i lawr ar ôl i'w olynydd gael ei ethol

Y Ceidwadwyr yw’r wrthblaid fwyaf i lywodraeth Llafur Cymru.

Ond roedd arolwg barn ddydd Llun yn awgrymu bod eu cefnogaeth cyn etholiad y Senedd yn 2026 wedi gostwng, gan adael y blaid yn y pedwerydd safle tu ôl i Lafur, Plaid Cymru a Reform.

Collodd y Torïaid eu holl seddi yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol eleni.

Cafodd Mr Davies ei ethol yn arweinydd gan aelodau'r blaid yn 2011.

Cafodd ei wthio allan yn 2018, a'i ail-benodi yn 2021.

Mae ei gyfnod wrth y llyw wedi gweld dadlau am statws yr arweinydd yng Nghymru.

Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ydy Mr Davies, ond roedd galwadau wedi bod iddo hefyd gael ei gydnabod fel arweinydd swyddogol y blaid yng Nghymru.