Sioned a Fin: 'Hawdd cadw cyfrinach' canlyniad Race Across the World
- Cyhoeddwyd
RHYBUDD: Mae canlyniad cyfres Race Across the World yn cael ei ddatgelu yn yr erthygl yma

"O'dd e'n eitha' neis bod 'na neb yn gwybod," meddai Sioned, yma gyda'i phartner Fin ar y llinell derfyn
Nos Fercher oedd pennod olaf y gyfres ddiweddaraf o Race Across the World ar BBC One.
Roedd chwe miliwn o wylwyr yn ysu i gael gwybod pwy fyddai'n cyrraedd y llinell derfyn gyntaf, a Caroline a Tom, y mam a'r mab, oedd yn fuddugol.
Ar ôl 51 diwrnod o deithio o Fur Mawr China i ben mwyaf deheuol India, heb awyren a heb ddefnyddio technoleg, 45 munud yn unig oedd rhwng y buddugwyr a Sioned Cray a Fin Gough o Nantgaredig ger Caerfyrddin, a ddaeth yn drydydd.
"Bach yn dramatig oedd e!" meddai Sioned ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"O'n i'n gwybod beth i'w ddisgwyl, ac o'n i dal 'na, yn eistedd ar ochr y gadair, yn aros i weld beth oedd yn digwydd!
"Doedd neb yn y teulu yn gwybod y canlyniad; o'dd e'n gyfrinach i bawb. O'dd pawb yn holi, ond o'dd e'n haws na beth o'n i'n ei ddisgwyl i'w gadw e'n gyfrinach.
"O'dd e'n eitha' neis bod 'na neb yn gwybod. O'dd e'n rhywbeth oedd pawb yn gallu disgwyl 'mlaen i."

Dim ond pedwar pâr oedd ar ôl yn y rhaglen olaf, o'r pump a ddechreuodd ar y daith
"Mor agos. A mor annoying!" meddai Fin, am y tri chwarter awr oedd rhyngddyn nhw a'r enillwyr.
Mae Sioned yn cyfaddef fod y diweddglo dramatig wedi bod yn chwarae ar ei meddwl hi hefyd ers dod adref.
Ond wrth gwrs, dydi'r canlyniad ddim yn difetha y profiadau bythgofiadwy maen nhw wedi eu profi, pwysleisiai'r ddau.
"Mae'r bar yn rili uchel am weddill ein bywyd ni – 'sai'n credu gallwn ni topio fe!" meddai Sioned.
"Nepal yw'r standout. Fi'n credu i Fin, achos dyna ble oedd e wastad wedi breuddwydio mynd, ond i fi achos hwnna oedd lle ges i'r saffari cynta' – ac o'dd y saffari yna ar bucket list fi ers mor hir."

Dechreuodd antur Fin a Sioned ar Fur Mawr China
Ymysg eu profiadau unigryw ar y daith epig oedd gwneud y daith 8,700 o filltiroedd heb ffôn; profiad anghyfarwydd iawn i ni y dyddiau yma, ond rhywbeth wnaeth y pâr ddod i'w werthfawrogi, eglurodd Sioned.
"O'dd e'n rili anodd i ddechrau, ond ar ôl cwpl o ddiwrnode, roedd e'n lyfli! A bydden i ddim yn gallu ei argymell e fwy i bobl i drial gwneud.
"O'dd e mor neis bod 100% mewn yn y broses a trafod gyda phobl o'n hamgylch ni, achos fydden ni byth wedi siarad gyda'r bobl 'ma, 'sa Google Translate gyda ni, neu os 'sen ni'n bwcio ar-lein."
Dim help ffôn na help gan y criw oedd yno i'w ffilmio, chwaith, pwysleisiodd Sioned – dim hyd yn oed pan oedd syched mawr.
"O'dden ni'n gwneud pob dim ein hunain – dim byd yn cael eu cario i ni. O'n nhw [y criw ffilmio] 'da loads o boteli o ddŵr, ac o'n i'n desperate am botel o ddŵr, felly o'n i wedi trial mynd â fe, a ges i row am fynd â photel o ddŵr!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024