Y dyn o Frasil sy’n teithio’r byd drwy’r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
“Mae’r Gymraeg wedi dod yn rhan ganolog o fy mywyd i, ac wedi agor drysau i gyfeillgarwch newydd, digwyddiadau lleol, profiadau unigryw. Mae Cymraeg yn bopeth i mi.”
Dim ond ers llai na thair blynedd mae Yan Soares yn dysgu Cymraeg, ond mae eisoes yn ddigon rhugl i greu fideos teithio ar-lein drwy’r Gymraeg.
Yn wreiddiol o ddinas Curitiba yn ne Brasil, mae’r athro Portiwgaleg bellach yn byw yn ardal Aberystwyth, ac wedi cymryd y Gymraeg a’i diwylliant i’w galon; yn defnyddio’r iaith bob cyfle mae’n ei gael, ac eisiau ysbrydoli eraill i ddechrau eu taith dysgu hefyd.
O Frasil i Geredigion
Ddechreuodd siwrne Yan nôl yn 2021, pan ddaeth i Brydain am y tro cyntaf i ymweld â rhai o’i fyfyrwyr roedd yn dysgu Portiwgaleg iddyn nhw ar-lein.
“Penderfynais i chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru," eglurodd. “Roeddwn i am aros am dair wythnos yn unig, ond ar ôl syrthio mewn cariad â’r lle, ymestynnais fy arhosiad i dri mis arall.
“Nawr dwi’n Nhrawsgoed yn Aberystwyth, yn rhentu tŷ gyda fy nghariad, Josh, a fy ffrindiau. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ymgolli yn y gymuned leol ac i ddeall a gwerthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru. Dwi wrth fy modd gyda Chymru.
“Dechreuais i astudio Saesneg gyntaf, ac yna’r Gymraeg yn Ionawr 2022.”
Aeth Yan ati i ddysgu’r iaith gyda gwersi ar-lein gan Dysgu Cymraeg – sy’n cynnig cyfle “anhygoel” i bobl ifanc gael gwersi am ddim, meddai.
“Mae cael mynediad am ddim i’r gwersi yn rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu sgiliau newydd, meithrin hyder ac agor drysau i brofiadau bywyd unigryw. Mae hefyd yn cefnogi’r Gymraeg, a sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio a’i datblygu gan genedlaethau’r dyfodol.
“Mae hyn yn bwysig iawn yng Nghymru, dwi’n meddwl, y gwasanaeth yma.”
Caru'r Gymraeg
Y Gymraeg yw pedwaredd iaith Yan, ar ôl Portiwgaleg, Sbaeneg a Saesneg. Mae ei Saesneg ychydig gwell na’i Gymraeg ar hyn o bryd, meddai, oherwydd mai Sais yw ei gariad, ond y Gymraeg yw ei wir ddiddordeb:
“Dwi’n hoffi ieithoedd eraill, ond dwi’n caru Cymraeg. Mae fy mywyd yn Gymraeg, popeth; fy nghyfrifiadur, dwi’n gwylio rhaglenni S4C yn rheolaidd, dwi’n darllen gwefan y BBC yn Gymraeg nid yn Saesneg, dwi’n ceisio defnyddio’r iaith mewn unrhyw ffordd bosib. Mae'r dull yma o integreiddio, yn ffordd dda o ddysgu’r Gymraeg.”
Felly beth yw hi am yr iaith ac am Gymru sydd yn denu ei edmygedd brwdfrydig?
“Cwestiwn anodd. Dwi’n hoffi popeth. Dwi’n hoffi’r treigladau... weithiau! Dwi’n hoffi sut mae’n swnio. Dwi’n hoffi’r gerddoriaeth, yr hanes, y diwylliant yng Nghymru.
“Dwi’n trio siarad Cymraeg bob amser dwi’n gallu. Pan 'nes i ddechrau, roedd fy ffrindiau yn siarad Saesneg gyda fi, yn meddwl ei fod yn haws, ond nawr maen nhw’n siarad Cymraeg gyda fi.
“Mae’r Gymraeg wedi dod yn rhan ganolog o fy mywyd i, ac wedi agor drysau i gyfeillgarwch newydd, digwyddiadau lleol, profiadau unigryw. Mae Cymraeg yn bopeth i mi.”
Teithio’r byd ar ffilm
Ynghyd â defnyddio’r iaith yn ei fywyd bob dydd, mae Yan wedi dechrau creu a rhyddhau fideos teithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar ei sianel YouTube. Gallwch ddilyn rhai o anturiaethau Yan yn Nhwrci, Budapest a hyd yn oed yn ymweld â chyn-wersyll Natsïaidd yn Serbia, oll yn Gymraeg.
Ac ymhen ychydig o fisoedd, mae Yan yn bwriadu mynd â Josh i Frasil am y tro cyntaf er mwyn dangos ei wlad enedigol iddo, ac mae’n siŵr y bydd un neu ddau o fideos Cymraeg am Frasil, meddai.
Ond pam creu’r fideos o gwbl?
“Dwi’n trio rhannu fy nhaith dysgu iaith a fy mhrofiadau wrth deithio’r byd. Dwi’n gobeithio ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg a darganfod harddwch Cymru. Mae cynlluniau gyda fi i greu mwy o gynnwys i ddangos pwysigrwydd y Gymraeg a sut mae’n bosib i’w defnyddio ym mhob agwedd o fywyd.
“Dwi hefyd eisiau dangos i bobl fod y Gymraeg yn iaith fyw, sydd yn berthnasol ac yn allweddol i hunaniaeth Cymru.
“Weithiau pan mae pobl yn gofyn, 'Pam wyt ti’n dysgu Cymraeg, Yan?', maen nhw’n dweud fod y Gymraeg yn iaith farw. Dwi’n dweud 'Na, mae’r Gymraeg yn fwy na byw – mae ganddi ddiwylliant a hunaniaeth unigryw sy’n gwbl annibynnol ar Loegr'.
“Dwi’n meddwl fod dysgu Cymraeg yn agor drws ar fyd newydd sydd wedi ei wreiddio mewn hanes ac wedi ei gwneud yn gyfoethocach gan bobl o Gymru.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref